Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynnig ar gyfer casgliadau gwastraff ac ailgylchu ar ffyrdd na fabwysiadwyd a phreifat

Published: 09/11/2023

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnig polisi newydd ar gyfer casgliadau gwastraff ac ailgylchu ar gyfer eiddo ar ffyrdd preifat neu rhai nad ydynt wedi cael eu mabwysiadu.

Mae ffordd breifat yn perthyn i, ac yn cael ei chynnal a’i chadw gan unigolyn, sefydliad neu gwmni preifat, yn hytrach na’r Cyngor. Mae ffyrdd na fabwysiadwyd yn golygu ffyrdd nad ydynt yn cael eu cynnal a’u cadw gan yr awdurdod priffyrdd, ac mae’r ddyletswydd gyfreithiol i’w cynnal a’u cadw yn disgyn ar berchnogion y ffordd, sydd fel arfer yn cynnwys perchnogion yr eiddo ar y ffordd honno. 

Weithiau, nid yw rhai o’r ffyrdd hyn yn cael eu cynnal a’u cadw’n iawn, ac yn dilyn tri digwyddiad difrifol rhwng mis Hydref 2002 a mis Ionawr 2023, cynhaliwyd adolygiad o’r llwybr casglu gwastraff ac ailgylchu, yn enwedig o eiddo sydd wedi’u lleoli ar ffyrdd preifat a ffyrdd nad ydynt wedi cael eu mabwysiadu. Bu risg sylweddol i anaf i weithwyr yn y digwyddiadau hyn, yn ogystal â chryn ddifrod i’r cerbydau sy’n cael eu gweithredu gan y Cyngor, gan arwain at gostau cynyddol.

Roedd yr adolygiad yn cynnwys asesiad risg eang, penodol i’r safle, o bob un o’r 585 ffordd na fabwysiadwyd neu breifat sy’n cael casgliadau gwastraff cartref gan Sir y Fflint, ac arweiniodd hyn at gynnig bod gofyniad i ffyrdd na fabwysiadwyd a phreifat fodloni amodau addas ar gyfer parhau â chasgliadau gwastraff ac ailgylchu o ffin yr eiddo. Mae mwyafrif o’r eiddo a aseswyd wedi’u lleoli ar ffyrdd sydd eisoes yn cyrraedd y safon, a phan nad ydynt, bydd gwastraff yn cael ei gasglu o’r ffordd fabwysiedig agosaf. Bydd hyn yn lleihau risg ddiangen i weithwyr a gofynion cynnal a chadw i gerbydau. 

Meddai Katie Wilby, Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth: “Mae diogelwch yn un o’n gwerthoedd craidd sy’n rhan o bopeth a wnawn, ac mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau fod gan ein criwiau casglu amgylchedd gwaith diogel.  Gofynnwn i bobl sy’n byw ar ffyrdd na fabwysiadwyd neu breifat i’n helpu ni drwy sicrhau bod y ffyrdd o gyflwr addas, fel bod ein staff casglu’n gallu gweithio’n ddiogel, neu os nad yw hyn yn bosib, defnyddio’r pwyntiau casglu ar y briffordd fabwysiedig.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol, y Cynghorydd Dave Hughes, “Mae gan y Cyngor ddyletswydd i gasglu gwastraff cartref preswylwyr, yn ogystal â dyletswydd i ofalu am ddiogelwch a lles ei weithwyr. Bydd y cynnig yn golygu bod y Cyngor yn gallu parhau i ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn i bawb yn ein cymunedau, mewn modd diogel.”

Ni fydd unrhyw un â Chasgliad â Chymorth yn cael eu heffeithio, a byddant yn parhau i gael casgliad gwastraff ac ailgylchu o’r pwynt y cytunwyd arno.

Bydd Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn trafod y newidiadau arfaethedig mewn cyfarfod ar 19 Tachwedd.