Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Nodi ffynhonnell arogl Sandycroft/Queensferry

Published: 12/10/2023

Mae Cyngor Sir y Fflint nawr y gallu darparu rhagor o wybodaeth am yr ‘arogl’ sydd wedi bod yn peri pryder yn ardaloedd Sandycroft, Queensferry a Mancot o fewn y sir.

Yn dilyn ymchwiliad trylwyr, gall swyddogion gadarnhau mai ffynhonnell debygol yr arogl yw Systemau Carthffosiaeth Dwr Gwastraff a Gwaith Trin Dwr Gwastraff Queensferry, sy’n cael eu rheoli gan Dwr Cymru.

Mae swyddogion mewn cyswllt uniongyrchol gyda Dwr Cymru mewn perthynas â’r mater hwn, ac maent wedi sicrhau’r Cyngor eu bod yn bwriadu datrys problem yr arogl. Maent wedi gofyn bod unrhyw gwynion pellach yn cael eu cyfeirio atynt drwy ffonio 0800 0853968 neu ar-lein yma.

Anogir y sawl sydd wedi’u heffeithio i barhau i gofnodi’r adegau maent yn cael eu heffeithio gan yr arogl, a’i adrodd i Dwr Cymru i’w helpu gyda’u hymchwiliadau.

Yn y cyfamser, bydd swyddogion o Gyngor Sir y Fflint yn parhau i weithio gyda Dwr Cymru i fonitro cynnydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Chris Bithell: “Hoffwn ddiolch i’r preswylwyr a’r busnesau am eu hamynedd a’u cefnogaeth. Rydym yn deall fod hyn wedi cymryd peth amser i gyrraedd y pwynt hwn, ond rydym eisiau eich sicrhau bod y Cyngor wedi bod yn gwneud popeth y gallant i ganfod y ffynhonnell.

“Wrth symud ymlaen, byddwn yn gweithio gyda Dwr Cymru i sicrhau bod y materion yn cael eu datrys. Yn y cyfamser, parhewch i wneud nodyn o bryd mae’n effeithio eich ardal, a dwyster yr arogl, a’i adrodd yn uniongyrchol i Ddwr Cymru.”