Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Siopa am syniadau yn y Fflint

Published: 01/03/2018

Mae Cyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid yn eich gwahodd chi i arddangosfa ‘dros dro’ sy’n agor yr wythnos hon. Yr wythnos hon bydd ychwanegiad cyffrous iawn i Stryd Fawr y Fflint yn denu ac yn ennyn diddordeb siopwyr, trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Yn hen siop Jones the Gardeners, bydd Siop Stori’r Fflint yn ceisio annog siopwyr, trigolion ac ymwelwyr i archwilio gorffennol, presennol a dyfodol blaendraeth y Fflint. Mae Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Addysg ac Ieuenctid, y Cyng. Ian Roberts, hefyd yn aelod o’r grwp sy’n gweithio ar y cynigion i adfywio’r blaendraeth ac mae yntau hefyd yn annog pobl i fanteisio i’r eithaf ar y cynnig unigryw hwn. “Dewch i edrych ar hen luniau, ffilmiau newydd, straeon digidol a gwaith celf wedi eu rhannu gan bobl y Fflint. Bydd y gofod yn gyfle i chi hel atgofion, rhannu straeon a mynegi’ch barn am flaendraeth y Fflint ai ddyfodol, gan gynnwys rôl celf gyhoeddus.” Mae’r prosiect hwn yn un darn o waith sy’n cael ei oruchwylio gan ystod o bartneriaid lleol, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Tref y Fflint a Cadw fel rhan o’r fenter adfywio. Meddai’r Arglwydd Elis-Thomas, Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: “Mae treftadaeth yn rhan bwysig iawn o’n huchelgeisiau diwylliannol ac economaidd, gyda’n henebion unigryw, ein tirwedd, diwylliant a’n hiaith yn ganolog i’n cynnig ar gyfer trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. “Drwy’r bartneriaeth gymunedol hon gallwn ddyrchafu Castell y Fflint ai wneud yn gyrchfan ardderchog, bywiog a defnydd cymysg ar gyfer ymwelwyr, ac rwyf yn falch bod Llywodraeth Cymru yn parhau i chwarae ei ran i wireddu hynny. Mae ein buddsoddiad cychwynnol yng ngrisiau’r castell eisoes wedi gwneud gwahaniaeth ac mae cynlluniau i oleuo’r castell gyda’r nos yn ogystal â chynigion cyffrous eraill a fydd yn cryfhau’r hyn sydd gan y safle mawreddog a’r ardal i’w gynnig.” Fel rhan o’r fenter, eglurodd y Cyng. Vicky Perfect, Maer y Fflint: “Rydym ni hefyd yn parhau i archwilio pa mor ymarferol yw cael cyfleuster newydd ar y blaendraeth. Mae yna angerdd a brwdfrydedd i geisio darparu cyfleusterau morol, chwaraeon a chymdeithasol o’r radd flaenaf, gan greu cyrchfan cenedlaethol y mae’n rhaid ymweld ag o.” Mae trafodaethau manwl yn cael eu cynnal rhwng y partneriaid perthnasol, gyda’r bwriad o ddatblygu dyluniadau cysyniadol yn y gwanwyn. Am fwy o wybodaeth am y Siop Stori, gan gynnwys y gweithdai a’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal, ewch i http://storyworksuk.com/Flint-Story-Shop. Mae’r Siop Stori ar agor o ddydd Mawrth 27 Chwefror tan ddydd Mawrth 13 Mawrth, o 11am tan 4.30pm pob dydd (ac eithrio dydd Sul).