Alert Section

Pobl Ifanc Egnïol


Campau'r Ddraig

Rhaglen i blant ysgolion cynradd yw Campau’r Ddraig. Ei nod yw ennyn diddordeb cychwynnol mewn chwaraeon a meithrin sgiliau symud a chyd-symud ymhlith plant ifanc.

Un o gynlluniau Chwaraeon Cymru yw Campau’r Ddraig a chaiff ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol. Mae’n rhoi cyfleoedd i blant 7-11 oed fwynhau chwaraeon o bob math.

Drwy gydweithio ag ysgolion a chlybiau chwaraeon lleol, mae Campau’r Ddraig yn cael effaith amlwg ar y nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon drwy annog plant i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau a dal ati am weddill eu hoes.

Pam Campau’r Ddraig?

  • gellir ei addasu ar gyfer oed, maint, gallu, lefel sgiliau a phrofiad y plant
  • defnyddir rheolau symlach, offer a llecynnau chwarae llai, a nod yr hyfforddwyr yw rhoi mwynhad
  • mae’n paratoi plant ar gyfer y gêm i oedolion, gan ei fod yn ymdebygu i’r gamp y mae wedi’i seilio arno
  • mae’n ddiogel ond yn heriol

5x60

Nod y cynllun 5x60 yw annog pobl ifanc i fod yn fwy egnïol a mwynhau’r profiadau a gynigir iddynt. Cynigir amrywiaeth o weithgareddau cyffrous yn holl ysgolion uwchradd y sir.

Mae 5x60 yn cynnig gweithgareddau o bêl-droed i bêl-rwyd, dawnsio stryd i bocsiomarfer, a llawer mwy. Mae’r gweithgareddau hyn yn ychwanegol at raglen allgyrsiol yr ysgolion. Chwaraeon Cymru sy’n ariannu’r cynllun ac mae’n annog holl ddisgyblion uwchradd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol, gan feithrin sgiliau am oes ym myd chwaraeon.

Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth ffon 01352 702467