Paratoi at y Gaeaf
Rydym ni’n paratoi at y gaeaf, ydych chi?
Mae’r gaeaf yn adeg brysur iawn o'r flwyddyn i’r Gwasanaethau Stryd, yn enwedig pan fydd y tymheredd yn gostwng a phan fydd eira ar y ffordd. Mae ein timau’n dechrau paratoi at y gaeaf mor gynnar â mis Hydref, felly efallai y byddwch yn gweld ein cerbydau graeanu o gwmpas. Mae'r cerbydau’n cael eu gyrru unwaith yr wythnos i sicrhau bod popeth yn gweithio'n iawn ac mae’n gyfle hefyd i hyfforddi gyrwyr newydd. Drwy hyn, gallwn wneud yn siŵr bod gennym ddigon o adnoddau os bydd angen defnyddio’n timau i raeanu ffyrdd y Sir.
Bydd nifer y galwadau a’r ymholiadau a gaiff y Gwasanaethau Stryd hefyd yn cynyddu’r adeg hon o'r flwyddyn, yn enwedig mewn tywydd garw. Rydym bob amser yn ceisio ymdrin ag ymholiadau mor gyflym ac effeithlon â phosibl ond cofiwch fod yr atebion i‘w gweld ar ein tudalennau ar y we weithiau.
Gallwch chithau hefyd ddechrau meddwl am baratoi at y gaeaf. Darllenwch ein tudalennau am glirio eira a graeanu - mae llawer o wybodaeth i’w chael ar y tudalennau hyn a dolenni i wefannau defnyddiol eraill hefyd.
Wyddoch chi?
- Rydym yn trin bron 400 milltir o ffyrdd os yw’r rhagolygon yn dweud ei bod yn debygol o rewi neu fwrw eira.
- Yn ystod gaeaf 2018/19 a ddefnyddiwyd ychydig dros 5,000 tunnell o halen.
- Mae ein cerbydau graeanu yn cael eu defnyddio hefyd i daenu tywod ar y ffordd pan fyddwn yn derbyn adroddiadau am olew / tanwydd sydd wedi’i ollwng ar y ffordd.