Alert Section

Clirio llwybrau troed


Dim ond pan fydd wedi bwrw eira’n drwm neu wedi rhewi’n galed y bydd palmentydd yn cael eu trin a hynny ar ôl clirio’r ffyrdd ar y rhestr flaenoriaeth. Drwy hyn, gellir sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio yn y modd mwyaf effeithiol. Gan fod gymaint o lwybrau troed yn Sir y Fflint, mae’n amhosibl graeanu pob un – rhaid i ni ganolbwyntio ar y llwybrau hynny sy’n cael eu defnyddio amlaf.

Sut y penderfynir ar y llwybrau i’w blaenoriaethu?

Caiff llwybrau troed eu trin wedi iddi orffen bwrw eira neu yn ystod cyfnodau hir o dywydd rhewllyd, yn ôl blaenoriaeth mewn llefydd fel:

  • Llwybrau troed yng nghanol trefi ac ardaloedd siopa
  • Llwybrau troed ger adeiladau dinesig
  • Priffyrdd cyhoeddus ger ysbytai
  • Priffyrdd cyhoeddus ger cartrefi preswyl /fflatiau henoed
  • Priffyrdd cyhoeddus ger canolfannau gofal dydd
  • Priffyrdd cyhoeddus ger ysgolion (yn ystod y tymor ysgol yn unig)
  • Pontydd troed
  • Safleoedd bws

Os caiff yr Awdurdod wybod am lwybrau rhewllyd mewn llefydd gwahanol i’r uchod, cânt eu harchwilio i weld a fyddai’n addas eu trin, os bydd adnoddau ar gael.

Pan fydd adnoddau’n caniatáu: Llwybrau troed serth, ardaloedd preswyl lle mae llawer o bobl oedrannus yn byw, ardaloedd preswyl eraill ac ystadau diwydiannol.

Caiff y llwybrau troed hyn eu trin yn unol â Pholisi Cynnal a Chadw’r Cyngor dros y Gaeaf.

Yn aml iawn, caiff y gwaith ei wneud gan dimau gan ddefnyddio rhawiau a cherbyd yn cludo halen a bydd yr holl staff sydd ar gael yn helpu gyda’r gwaith, gan gynnwys timau cynnal a chadw tiroedd nad ydynt yn gallu ymgymryd â’u gwaith arferol.  

Ar ôl treialu gwahanol ddeunyddiau i drin rhew ac eira, bydd llwybrau troed yng nghanol trefi, meysydd parcio a thai cysgodol yn cael eu trin â chynnyrch o’r enw, 'Safethaw'. Caiff  'Safethaw' ei wasgaru â chwistrellydd cefn neu drwy ddefnyddio bar chwistrellu wedi’i osod ar feic pedwar olwyn. Caiff ei ddefnyddio yn ystod cyfnodau o rew neu eira trwm ac yn unol ag asesiad risg ar gyfer y rhwydwaith.

Darperir biniau halen hefyd er mwyn i breswylwyr a busnesau glirio llwybrau troed gerllaw.  

Yn anffodus, nid oes adnoddau ar gael i roi gwasanaeth clirio eira oddi ar eiddo preifat.  

Fedra’ i hawlio iawndal gan y Cyngor os byddaf yn syrthio ar ffordd neu lwybr troed sydd heb ei drin?

Os oes eira neu rew ar lwybrau neu ffyrdd, mae gan bobl gyfrifoldeb i gymryd gofal. Os gall y Cyngor ddangos ei fod wedi defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael iddo, a’i fod wedi cymryd camau rhesymol ac ymarferol, mae unrhyw gais am iawndal yn debygol o fethu.