Alert Section

Ymgynghoriad Map Rhwydwaith Teithio Gweithredol old


Yn rhan o ofynion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae’n rhaid i Gyngor Sir y Fflint gyflwyno Map Rhwydwaith Teithio Llesol i ddangos sut rydym ni’n datblygu’r rhwydwaith angenrheidiol i alluogi pobl i ddewis teithio’n llesol ar gyfer siwrneiau lleol.

Rydym wedi cynnal ymgynghoriad cymunedol yn ddiweddar er mwyn i bobl allu awgrymu newidiadau yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnwys ar y map, ac rydym wedi derbyn 2647 o gyfraniadau hyd yn hyn. Os ydi rhywun eisiau gwybod beth mae pobl wedi’i ddweud, mae’r wybodaeth dal ar gael i'w ddarllen

Dros y 12 wythnos nesaf byddwn yn cynnal ymgynghoriad statudol i roi cyfle i bobl ddarllen fersiwn ddrafft diweddaraf ein Map Rhwydwaith Teithio Lles cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ddiwedd mis Rhagfyr 2021. 

Gan ein bod eisoes wedi ymgynghori â phreswylwyr am y newidiadau yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnwys, nid ydym yn disgwyl i bobl wneud awgrymiadau pellach, ond os oes yna gamgymeriadau neu unrhyw beth sydd wedi’i adael allan, mae angen i ni wybod amdanynt. 

Rydym ni’n defnyddio’r cyfrwng mapio ar-lein unwaith eto i alluogi pobl i weld y llwybrau drafft rydym ni’n eu cynnig, ac i wneud sylwadau os oes angen. I weld y llwybrau arfaethedig ac i roi sylw, ewch i https://flintshire2.commonplace.is

Os ydych chi’n cael unrhyw drafferth yn defnyddio’r dull yma, ffoniwch ni ar 01352 701234 i gael cymorth a chyngor neu i roi eich sylwadau dros y ffôn gyda lleoliad, a gallwn eu hychwanegu at y sylwadau ar eich rhan. 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn diolch i chi am gymryd rhan, ac os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu gwestiynau, e-bostiwch active.travel@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01352 701234.