Alert Section

Cynlluniau trwyddedau parcio


Trwyddedau Maes Parcio Oddi ar y Stryd i Drigolion

Mae trwyddedau maes parcio i drigolion oddi ar y stryd ar gael i drigolion sy'n byw yng nghyffiniau cyfagos y maes parcio; sydd heb le digonol i barcio ar y stryd.  Bydd cost y drwydded hon yr un fath â'r tâl am drwydded parcio ar y stryd i drigolion; sef £25 y flwyddyn.

Rhaid i bob cais am drwydded ddarparu prawf o fod yn byw yn y cyfeiriad a phrawf o'r cerbyd; bil cyfleustodau a llyfr cofnodi.

NODER: Dim ond 20% o gilfachau ym mhob maes parcio arhosiad hir fydd ar gael ar gyfer pob math o drwydded; bydd trwyddedau yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin caiff falu. Bydd yr holl geisiadau eraill yn mynd ar restr aros.

Mae trwydded yn ddilys ar gyfer un cerbyd yn unig ac ni fyddai'n gwarantu y bydd lle ar gael.  Os bydd y maes parcio yn llawn a bod deiliad y drwydded yn defnyddio maes parcio gwahanol, byddai'n rhaid cadw at amodau'r maes parcio hwnnw a thalu'r ffi briodol. 

I wneud cais, anfonwch ymholiad, neu cysylltwch Gwasanaethu Stryd.  

Trwyddedau Maes Parcio Tymhorol

Mae Trwyddedau Tymhorol ar gael i ddefnyddwyr sy'n parcio mewn maes parcio arhosiad hir yn rheolaidd ac sydd ddim yn dymuno prynu tocyn bob dydd. Codir tâl am y trwyddedau yn flynyddol am bob cerbyd.  Caiff y gost ei gyfrifo yn ôl 200 diwrnod y tariff arhosiad hir (e.e. 200 diwrnod x £1 = £200 y flwyddyn). 

Trwydded Neuadd y Dref, Yr Wyddgrug

Mae maes parcio Neuadd y Dref, oddi ar Ffordd yr Iarll (CH7 1AB ) ar gyfer deiliaid trwydded yn unig. Mae tâl blynyddol, £300 yn prynu un gofod wedi’i rifo i chi y gallwch gael disgiau aml drwydded ar ei gyfer e.e. ar gyfer cerbydau eraill yn eich teulu neu eich busnes.  

I wneud cais, anfonwch ymholiad, neu cysylltwch Gwasanaethu Stryd.  

Trwyddedau ar gyfer cerbydau da byw sy'n mynychu Marchnad Arwerthiant yr Wyddgrug

Gall J. Bradburne Price & Co (yr Arwerthwyr sy'n rheoli'r farchnad) gyhoeddi trwydded am ddim i gwsmeriaid y farchnad da byw ar gais. Mae trwyddedau yn ddilys ar ddiwrnodau marchnad da byw yn unig ar gyfer parcio cerbydau da byw yn y mannau parcio wedi’u rhifo a ddyrannwyd ym Maes Parcio Lôn y Cariadon, Yr Wyddgrug. I gael trwydded ffoniwch 01352 753873 neu ymweld â'u swyddfa yn Stryd Caer, Yr Wyddgrug. Os yw'r gofod a neilltuwyd ar gyfer eich math chi o drwydded yn llawn mae'n rhaid i chi brynu tocyn talu ac arddangos.

Rhybudd

Gellir defnyddio trwyddedau ar gyfer y maes parcio dynodedig yn unig.  Os byddwch yn methu â dilyn y telerau ac amodau byddwch yn derbyn Hysbysiad o Gosb Ariannol o £70 neu £50.