Alert Section

Tocyn bws (pobl dros 60 neu bobl anabl)


Os yw eich prif gyfeiriad yng Nghymru a’ch bod chi’n 60 oed neu hŷn, gallwch deithio am ddim ar fwyafrif y gwasanaethau bws yng Nghymru a’r ffiniau a gallwch deithio’n rhatach neu am ddim ar lawer o wasanaethau rheilffordd. Gallwch ymgeisio am eich Cerdyn Bws gyda Thrafnidiaeth Cymru drwy glicio’r botwm isod.

Ymgeisio am Gerdyn Bws 60+

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y Cerdyn Bws 60+, cysylltwch â Thrafnidiaeth Cymru

Cerdyn Bws Anabl a Chydymaith

Os ydych chi’n bodloni meini prawf cymhwyso’r Llywodraeth o ran anabledd, gallwch deithio am ddim ar fwyafrif y gwasanaethau bws yng Nghymru a’r ffiniau a gallwch deithio’n rhatach neu am ddim ar lawer o wasanaethau rheilffordd. Gallwch ymgeisio am Gerdyn Bws Anabl a Chydymaith gyda Thrafnidiaeth Cymru.  Unwaith y byddant wedi derbyn eich cais, bydd Trafnidiaeth Cymru’n cysylltu â ni er mwyn i ni fedru dilysu eich cais.

Os hoffech chi wirio’r broses ddilysu, gallwch ofyn am alwad yn ôl gan ein Tîm Cludiant drwy gwblhau’r ffurflen isod:

Cerdyn Bws Anabl a Chydymaith