Alert Section

Ymgynghoriad Map Llwybrau Teithio Llesol Presennol


Mae ymgynghoriad Cyngor Sir y Fflint ar ei Fap Rhwydwaith Integredig drafft wedi dod i ben nawr.  Mae ymatebion yr ymgynghoriad wedi’u hystyried ac mae’r Map Rhwydwaith Integredig wedi’i ddiwygio’n unol â hynny.  Bydd y mapiau diwygiedig isod yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w cymeradwyo ddechrau Tachwedd. 

Nod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw annog pobl i gerdded neu feicio ar deithiau byr i gyrraedd y gweithle neu sefydliad addysgol neu i gael mynediad at wasanaethau iechyd, hamdden neu gyfleusterau eraill. Nid yw Teithio Llesol yn cynnwys teithiau hamdden neu gymdeithasol ac mae yn berthnasol i aneddiadau penodol o fewn y Sir yn unig.

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wella’n barhaus gyfleusterau a llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr ac i baratoi mapiau yn nodi llwybrau presennol a phosibl ar gyfer eu defnyddio yn y dyfodol.  Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau ffyrdd newydd (gan gynnwys cynlluniau gwella ffyrdd) i ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr yn ystod y cam dylunio.

Yn dilyn ymarfer mapio ac archwilio cyfleusterau cerdded a beicio presennol, mae cyfres Fapiau Llwybrau Presennol Drafft wedi cael eu datblygu sy'n darlunio llwybrau cerdded a beicio o fewn y Sir sy'n cwrdd â'r canllawiau dylunio statudol ac yn cael eu hystyried yn addas ar gyfer 'Teithiau Teithio Llesol'. Byddem yn croesawu eich sylwadau ar y llwybrau hyn ac unrhyw lwybrau eraill y dylid eu cynnwys yn eich barn chi ar y Mapiau i wneud eich Taith Teithio Llesol. Rydym yn arbennig o awyddus i wybod am lwybrau sy'n ddefnyddiol ar gyfer defnyddwyr cymhorthion symudedd.

Am fwy o wybodaeth am Deithio Llesol cliciwch yma

Gallwch weld fersiynau rhyngweithiol o'r mapiau llwybrau a'r ffiniau aneddiadau yn ôl lleoliad isod:

(Bydd angen eich porwr er mwyn caniatáu ffenestri popup) :

Bagillt a WalwenBrychdynBwcleGorseddCei ConnahCoed-llaiEwloeFflintMancotNeuadd LlaneurgainParc Diwydiannol Glannau DyfrdwyPenyfforddSandycroftShottonTreffynnonYr HobYr Wyddgrug

Cyn cwblhau'r arolwg, mae'n bwysig eich bod yn darllen ein hysbysiad preifatrwydd.

Os hoffech chi gopi o’r cyhoeddiad hwn yn eich iaith eich hun neu mewn fformat arall fel print bras neu Braille, ar dâp neu DVD iaith arwyddo, cysylltwch â’r Tîm Teithio Llesol yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost isod.

Cysylltwch: â Active.travel@flintshire.gov.uk