Alert Section

Cynnig Gofal Plant Cymru - i Blant 3 to 4 oed (30 awr)


Mae’r Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni sy’n gweithio ac sydd â phlant 3 i 4 oed ar draws Cymru am 48 wythnos y flwyddyn.

Darlun o blant mewn meithrinfa gyda'r testun yn cyd-fynd 'Mae gwasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru yn fyw!

MAE CEISIADAU NAWR AR AGOR AR GYFER EBRILL 2024

Bydd angen i blant sy’n gymwys ar gyfer Cyllid y Cynnig Gofal Plant o fis Medi 2023 a mis Ebrill 2024 gofrestru ar y System Ddigidol newydd i Gymru. Gall plant â dyddiad geni 01/09/2019 - 07/04/2021 fod yn gymwys i gael cyllid - gellir dod o hyd i’r cais yma:

https://llyw.cymru/cynnig-gofal-plant-cymru-ymgyrch

Ehangu'r Cynnig Gofal Plant i rieni cymwys mewn addysg neu hyfforddiant

Byddai rhiant mewn addysg neu hyfforddiant sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd yn gallu cael mynediad i'r Cynnig o'r adeg y mae eu cwrs yn dechrau:

Diffiniad o riant mewn addysg neu hyfforddiant;  gall rhiant mewn addysg neu hyfforddiant fod yn rhiant sydd naill ai:

  • Wedi cofrestru ar gwrs israddedig neu ôl-raddedig Addysg Uwch (AU) sydd o leiaf 10 wythnos o hyd. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau a gyflwynir drwy ddysgu o bell.
  • Wedi cofrestru ar gwrs sy'n 10 wythnos o leiaf ac sy'n cael ei gyflwyno mewn Sefydliad Addysg Bellach (AB). Mae hyn yn cynnwys cyrsiau a gyflwynir drwy ddysgu o bell

Mae’r cais hwn am ORIAU GOFAL PLANT y Cynnig Gofal Plant YN UNIG - i wneud cais am Addysg Cyfle Cynnar neu addysg Feithrin ar gyfer Wrecsam neu Sir Ddinbych, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at ceisiadaucynniggofalplant@siryfflint.gov.uk neu ffoniwch 030000 628 628

Os ydych angen cymorth i lenwi’r cais ar gyfer y Cynnig Gofal Plant i Sir y Fflint peidiwch ag oedi rhag galw heibio un o’n canghennau/canolfannau ‘Cysylltu’ lle mae ganddyn nhw gyfrifiaduron hunanwasanaeth a chynghorwyr cysylltu sydd ar gael i gynnig cefnogaeth ddigidol. 

Gweler here i gael gwybod lle mae eich cangen/canolfan Cysylltu lleol a’r oriau agor.