Alert Section

Dychwelyd i'r Ysgol – Cwestiynau Cyffredin


Diweddariad am y trefniadau ar gyfer presenoldeb o 12 Ebrill 2021

O 12 Ebrill, bydd pob ysgol ar draws pob lleoliad yn dychwelyd i ddarpariaeth addysg llawn amser i bob dysgwr ar y safle.

Bydd ein Huned Cyfeirio Disgyblion, Plas Derwen, yn parhau gyda’i threfniadau presennol i bob disgybl.

 

Oes rhaid i fy mhlentyn wisgo gorchudd wyneb yn yr ysgol?

Nid oes raid i blant ysgol gynradd wisgo gorchudd wyneb i’r ysgol nac ar gludiant ysgol.

Dylai plant uwchradd sy’n cael mynediad at ddysgu wyneb yn wyneb o dan y meini prawf a amlinellir uchod, wisgo gorchudd wyneb ar gludiant i'r ysgol ac mewn unrhyw le ar dir yr ysgol lle na ellir cadw pellter cymdeithasol. Ni ddylai dysgwyr oedran uwchradd wisgo gorchudd wyneb wrth redeg o gwmpas neu chwarae gemau egnïol. 

Oes angen i rieni/gofalwyr wisgo gorchudd wyneb wrth nôl a danfon eu plant?

Dylai ymwelwyr â’r ysgol wisgo gorchudd wyneb, gan gynnwys rhieni a gofalwyr sy’n nôl a danfon dysgwyr, a dylent gadw pellter cymdeithasol wrth aros am eu plant.

Oes rhaid i blant wisgo gwisg ysgol?

Mater i gyrff llywodraethu ysgolion unigol yw penderfynu ynghylch gwisgo gwisg ysgol. Serch hynny, byddem yn annog pob ysgol i ddychwelyd at eu polisïau gwisg ysgol arferol gan fod gwisg ysgol yn gallu chwarae rôl werthfawr o ran cyfrannu at ethos yr ysgol a gosod tôn briodol.

Beth all plant ei gludo i’r ysgol gyda nhw o adref? 

Rydym yn annog disgyblion i ddod â’u poteli dŵr eu hunain gyda nhw i’r ysgol.    Bydd ysgolion unigol wedi ystyried y ffordd fwyaf diogel o roi dŵr i ddisgyblion os ydyn nhw’n anghofio dod â’u potel eu hunain, neu os ydyn nhw angen ail lenwi eu potel.

Dylai disgyblion barhau i gyfyngu ar yr eitemau maen nhw’n eu cludo o’u cartref. Gellir dod ag eitemau megis beiros a phensiliau ond chaniateir eu rhannu ag eraill. Bydd ysgolion yn sicrhau fod adnoddau eraill ar gyfer yr ystafell ddosbarth yn cael eu glanhau’n aml.

A fydd rhieni’n cael dirwy os na fyddant yn anfon eu plentyn yn ôl i’r ysgol?

Bydd ysgolion yn parhau i gofnodi presenoldeb ar y gofrestr ac yn cwestiynu absenoldeb dysgwyr y disgwylir iddynt fod yn yr ysgol, ond pan fydd rhiant/gofalwr yn dymuno i’w blentyn fod yn absennol, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion awdurdodi absenoldeb yn ystod y cyfnod hwn. Ni chosbir absenoldeb wedi’i gymeradwyo.

Ydy cludiant i'r ysgol ar gael?

Ydi, i’r disgyblion sydd â’r hawl i dderbyn cludiant am ddim.  Bydd pob ffordd o gludo i'r ysgol yn gweithredu o ddydd Llun 12 Ebrill ymlaen.

A fydd gwasanaeth prydau ysgolion ar gael i ddysgwyr?

Bydd, mae arlwyo NEWydd yn gallu cynnig gwasanaeth prydau bwyd llawn i bob ysgol fel y gall rhieni brynu pryd ysgol i’w plant os ydyn nhw’n dewis neu roi pecyn cinio iddynt.

Beth yw’r trefniadau i deuluoedd sydd a’r hawl i gael Prydau Ysgol Am Ddim?

Bydd taliadau uniongyrchol (a delir wythnos ymlaen llaw) yn stopio ar gyfer dysgwyr fel a ganlyn:

  • Ar ddydd Gwener 12 Mawrth ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 (Blynyddoedd 3-6)
  • Ar ddydd Gwener 12 Mawrth ar gyfer Blynyddoedd 11, 12 a 13
  • Ar ddydd Gwener 19 Mawrth ar gyfer Blwyddyn 10
  • Ar ddydd Gwener 10 Ebrill ar gyfer Blynyddoedd 7, 8 a 9 

Bydd pob disgybl y mae ganddo hawl i gael prydau ysgol am ddim yn derbyn taliad uniongyrchol ar gyfer pythefnos gwyliau’r Pasg.  

Dim ond darpariaeth rhan amser y mae fy mhlentyn yn ei derbyn oherwydd ei oedran – oes yna ofal cofleidiol ar gael?

Oes. Gall rhieni sydd fel arfer yn defnyddio cyfuniad o ysgol rhan amser a gofal plant i’w galluogi i barhau â’u trefniadau gwaith, ddal i gael mynediad at y gwasanaethau hyn. Bydd angen i rieni gadarnhau eu gofynion gofal plant gyda’u darparwr arferol a rhoi gwybod i’r ysgol. Bydd hyn yn galluogi ysgolion a lleoliadau gofal plant i gydweithio er mwyn lleihau nifer y swigod cyswllt y bydd y plant yn rhan ohonynt er mwyn lleihau lledaeniad y firws.

Staff a dysgwyr sy’n glinigol ddiamddiffyn

Ni ddylai dysgwyr sy’n hunan-ynysu fynychu’r ysgol.
Cynghorir dysgwyr sy’n hynod glinigol ddiamddiffyn hefyd i beidio â dod i’r ysgol.
Dylai ysgolion roi gwybod i’r ysgol am y rheswm pam mae’r plentyn yn absennol fel y gellir cadw’r cofrestrau’n gywir. 

Eglurwch Brofion Llif Unffordd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno profion ddwywaith yr wythnos ar gyfer aelodau staff, disgyblion Blwyddyn 10 a hŷn, a dysgwyr ar raglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau seiliedig ar waith. 

Mae’r gwaith o brofi’r gweithlu addysg eisoes wedi dechrau yn ysgolion Sir y Fflint, a’r ysgolion sy’n rheoli’r gwaith hwnnw. Mae aelodau staff yn gwneud y profion gartref. Mae aelodau staff wedi cael y cyngor a’r cyfarwyddiadau perthnasol.

Bydd y gwaith o brofi disgyblion uwchradd hŷn yn dechrau o ddydd Llun 15 Mawrth ymlaen. Caiff y profion eu dosbarthu gan yr ysgol a dylid eu gwneud gartref. Mae rhieni a disgyblion wedi cael y cyngor a’r cyfarwyddiadau perthnasol.

Mae’n bwysig nodi nad yw polisi profi ysgolion Cymru’n ‘brawf i alluogi’ neu’n ‘brawf i ddychwelyd’ i addysg wyneb yn wyneb, h.y. nid yw’n amod er mwyn dychwelyd i addysg, nac yn ofynnol i unrhyw un sy’n dod i safle’r ysgol. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o ysgolion Sir y Fflint yn annog disgyblion i wneud y prawf cyn dychwelyd i’r ysgol ddydd Llun 15 Mawrth er mwyn adnabod unrhyw achosion asymptomatig a lleihau’r risg o ledaenu’r haint a tharfu ar y dysgu.

Mae’r profi’n gwbl wirfoddol.