Alert Section

Rheoli Cartrefi ac Eiddo Gogledd Ddwyrain Cymru


Gwasanaeth proffesiynol ar gyfer Landlordiaid a Thenantiaid

Cyngor Sir y Fflint yw'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i sefydlu ei gwmni tai ei hun.  Mae North East Wales (NEW) Homes and Property Management, wedi'i leoli yn Sir y Fflint a bydd yn berchen ar, yn prydlesu ac yn rheoli eiddo ar draws y sir.

Mae NEW Homes and Property Management wedi ei sefydlu fel cwmni cyfyngedig drwy gyfrandaliadau sydd â phwerau heb gyfyngiadau.  Y Cyngor yw'r unig gyfranddaliwr ac mae’r bwrdd yn cynnwys wyth o gyfarwyddwyr sy'n cynnwys pum cynghorydd, un swyddog cyngor a dau gyfarwyddwr annibynnol sydd â phrofiad yn y maes tai.

Wedi'i gynllunio i ymateb i'r heriau a brofir gan drigolion wrth gael mynediad at dai fforddiadwy, mae NEW Homes and Property Management wedi ei sefydlu gan y Cyngor i gynyddu'r opsiynau tai sydd ar gael i drigolion lleol. Bydd yn cynnig nifer o wasanaethau rheoli tai wedi’u teilwra sydd wedi'u cynllunio i gynyddu nifer ac ansawdd y tai fforddiadwy ar draws y sir.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cwmni a'r gwasanaethau a gynigir trwy fynd i wefan NEW Homes www.northeastwaleshomes.co.uk