Alert Section

Cofrestr Tai Sir y Fflint

Mae Cofrestr Tai Sir y Fflint wedi'i sefydlu i'w gwneud hi'n haws gwneud cais am Dai Cymdeithasol yn Sir y Fflint. Mae Cofrestr Tai Sir y Fflint yn bartneriaeth sy'n cynnwys eich Cyngor lleol a'r holl Gymdeithasau Tai lleol: Grŵp Cynefin, Clwyd Alyn, Tai Wales & West ac ADRA.

Mae un Gofrestr Tai (un rhestr dai) a rennir gan Gyngor Sir y Fflint a'r holl Gymdeithasau Tai lleol. Mae hyn yn golygu bod gan ymgeiswyr un pwynt cyswllt ac un broses ymgeisio i'w hystyried ar gyfer yr holl dai cymdeithasol sydd ar gael yn Sir y Fflint.

I ddarganfod a ydych yn gymwys i fynd ar y Gofrestr Tai bydd angen i chi gwblhau Asesiad Brysbennu Tai.

I wneud hyn, ffoniwch 01352 703777 neu ewch i'ch Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu agosaf.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am y gofrestr tai cymdeithasol yn Sir y Fflint.

Mae amrywiaeth o opsiynau tai amgen i'w hystyried yn dibynnu ar eich amgylchiadau, cliciwch yma i ddysgu mwy.