Alert Section

Sir y Fflint Canolbwynt Digidol

Diweddariadau Diweddar


Newydd Cymorth Digidol @ Sir y Fflint yn Cysylltu

Mae Tlodi Digidol yn flaenoriaeth i ni yng Nghyngor Sir y Fflint, ac fel sefydliad rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw ein trigolion ni’n cael eu cau allan o’r byd digidol.

Un ffordd yr ydym ni'n bwriadu gwneud hyn yw trwy ein Sgwad Cymorth Digidol. Bydd y gwirfoddolwyr hyn yn rhoi cymorth wyneb yn wyneb i helpu pobl i ddefnyddio technoleg ddigidol - yn rhad ac am ddim.

Bydd y cyntaf o’r sesiynau galw heibio hyn yn cael eu cyflwyno yn ein Canolfan Treffynnon yn Cysylltu a byddem ni wrth ein bodd pe byddech chi’n rhannu hyn â’ch rhwydweithiau yn Sir y Fflint a’ch helpu chi i roi gwybod i eraill am y gwasanaeth gwych hwn! 


Sut mae’n gweithio

Bydd cwsmeriaid yn dod a’u dyfais ddigidol eu hunain a byddan nhw’n cael eu cefnogi gan dîm y Sgwad Cymorth Digidol. 

Mae ein Sgwad ni wedi cael eu hyfforddi gan @DigitalCommunitiesWales ar amrywiaeth o bynciau digidol yn cynnwys: arian, iechyd, cymdeithasol, cyflogaeth, cyfathrebu.

Bydd y Sgwad Cymorth Digidol yn:

  • Helpu ac annog pobl i fynd ar-lein â’u cymorth nhw.
  • Cefnogi pobl i ddefnyddio sianeli cyfathrebu modern yn cynnwys y we.
  • Annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein y Cyngor i adrodd, gofyn neu dalu am wasanaethau.
  • Hyrwyddo Fy Nghyfrif fel ffordd o gysylltu â'r Cyngor.
  • Yn ogystal ag unrhyw anghenion digidol generig eraill sydd gan bobl.

Daeganfod mwy 

'Mae'r SGWAD Cymorth Digidol yma!' - Darlun o grŵp amrywiol o bobl wedi'u gwisgo mewn dillad gwaith cyffredin a chlogyn archarwyr

Newid i Ddigidol

Mae newidiadau i ddod yn y modd y mae’r system ffôn yn gweithio ar draws y DU ac mae’n bwysig bod ein preswylwyr yn deall effaith hyn arnynt.

Mewn partneriaeth gyda BT, rydym yn rhannu gwybodaeth bwysig am ‘Digital Voice’ i sicrhau bod preswylwyr yn gwybod pa newidiadau sydd i ddod a’r gefnogaeth sydd ar gael. 

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf gan BT yn amlinellu sut y bydd isadeiledd ffonau’n newid, cynlluniau BT, a sut y gall preswylwyr baratoi ar gyfer Digital Voice. 


Landline

"Mae llinellau tir yn y DU yn mynd yn ddigidol. 

Erbyn 2025, bydd y dechnoleg analog bresennol (y PSTN - Rhwydwaith Ffôn Cyhoeddus) sydd wedi cefnogi gwasanaethau ffôn a band eang ers degawdau yn cael ei diffodd a’i disodli gan dechnoleg ddigidol newydd.

Bydd yr uwchraddiad unwaith mewn cenhedlaeth yn golygu y bydd mwyafrif helaeth y cwsmeriaid yn derbyn llinell band eang, gan wneud galwadau fel y maent heddiw, ond gan ddefnyddio technoleg ‘Llais dros y Rhyngrwyd’ sy’n defnyddio cysylltiad gyda’r rhyngrwyd. 

Mae’r mwyafrif wedi bod yn defnyddio’r math yma o dechnoleg ers blynyddoedd drwy apiau fideo neu negeseuon llais ar ffonau symudol.

Voice yw gwasanaeth ffôn cartref newydd BT, sy’n cael ei ddarparu dros gysylltiad band eang. Ar gyfer mwyafrif y cwsmeriaid, bydd y newid i Digital Voice mor syml â chysylltu ffôn y cartref gyda llwybrydd yn hytrach na soced ffôn ar y wal. 

Mae ymagwedd ranbarthol BT yn cael ei chefnogi gan ohebiaeth i godi ymwybyddiaeth gyffredinol yn lleol, digwyddiadau lleol ac ymgyrchoedd hysbysebu i godi ymwybyddiaeth a chynorthwyo cwsmeriaid i ddeall y camau syml sydd eu hangen i symud i Digital Voice.

Byddant yn cysylltu â chwsmeriaid o leiaf 4 wythnos cyn y newid, i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer y newid. 

  • Cwsmeriaid gyda chortyn gwddf gofal iechyd
  • Cwsmeriaid sy’n defnyddio llinell dir yn unig
  • Cwsmeriaid heb signal ffôn symudol
  • Cwsmeriaid sydd wedi nodi unrhyw anghenion ychwanegol

Bydd BT yn treulio amser ychwanegol ac yn darparu cefnogaeth ychwanegol i gwsmeriaid sydd dros 70 oed ac sy’n barod ar gyfer y newid.”


Mae’n bwysig bod trigolion yn ymgysylltu gyda BT i sicrhau bod eu hanghenion unigol yn cael eu deall a’u datrys yn y broses o newid.

Gyda’i gilydd, drwy gydweithio gyda BT, gall preswylwyr bontio’n llyfn a bydd yn brofiad syml i bawb.

RHYBUDD

Wrth i BT gysylltu â phreswylwyr Sir y Fflint ynglŷn â’r newid i Digital Voice, dylai preswylwyr fod yn wyliadwrus gan y gallai rhai twyllwyr fanteisio ar y cyfnod pontio, gan ffugio bod yn gynrychiolwyr dilys i geisio gwybodaeth bersonol. 

Dylai’r preswylwyr wirio dilysrwydd unrhyw ohebiaeth gan BT.  

Banc Data Sir y Fflint

GoodThingsFoundation2

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymuno â Sefydliad Good Things i sicrhau bod trigolion ar incymau isel yn cael cysylltiadau digidol trwy ddarparu cardiau SIM a thalebau data am ddim iddynt trwy’r Banc Data Cenedlaethol.

Bydd cardiau SIM a thalebau data yn cael eu dosbarthu am ddim gan ein pump Canolfan Gysylltu i drigolion cymwys, gan ddefnyddio dull yn seiliedig ar ymddiriedaeth. Mae’r data wedi’i ddarparu am ddim gan Virgin Media, O2, Vodafone a Three.

Mae Sefydliad Good Things yn elusen sy’n helpu pobl i wella eu bywydau yn ddigidol ac mae ei gweledigaeth yn cyd-fynd â dyheadau’r Cyngor.

Fel rhan o weledigaeth ddigidol y Cyngor, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi pobl i gysylltu ar-lein, gan helpu trigolion i gael mynediad at y rhyngrwyd, cysylltedd data a theclynnau, er mwyn llenwi’r bwlch digidol mewn cymunedau.


Categoriau

Cliciwch ar fotwm i neidio i'r ardal berthnasol

My Account Welsh 1080x530

Fy Nghyfrif

Mae dros 20,000 o ddefnyddwyr wedi cofrestru i gael defnyddio eu hardal bersonol eu hunain ar ein gwefan, sef Fy Nghyfrif. Yma, fe allwch chi reoli eich ceisiadau ar-lein, cael gwybodaeth am ein gwasanaethau a mwy. I gael rhagor o wybodaeth a chofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif Sir y Fflint, cliciwch y botwm isod

Cofrestrwch i Fy Nghyfrif 

Sgwad Cymorth Digidol

Beth bynnag yw eich anghenion digidol - mae’r sgwad yma i’ch helpu chi! 

Mae’r Sgwad Cymorth Digidol yma I ymdrin â’ch holl anghenion digidol! 

Oes angen cymorth arnoch chi â: 

  • Defnyddio’r we neu eich e-bost?
  • Cadw mewn cysylltiad â’ch teulu a ffrindiau?
  • Dysgu am bethau sydd o ddiddordeb i chi?
  • Cefnogi ffrindiau, teulu neu gymdogion nad ydyn nhw mor gyfarwydd â thechnoleg ddigidol? 

Nid oes angen archebu lle - dewch â'ch dyfais eich hun i Ganolfan Treffynnon yn Cysylltu ar gyfer un o’n sesiynau galw heibio digidol.

Sesiynau sydd i ddod gyda'r Sgwad Cymorth Digidol yn Holywell Connects
DyddiadAmser
Dydd Gwener 22 Mawrth 2024 14:00 - 16:00
Dydd Mercher 27 Mawrth 2024 10:00 - 12:00

Tystebau Sgwad Digidol

Deunyddiau Dysgu, Cymorth a Chyngor Digidol yn Rhad ac am Ddim

Mae nifer o ddeunyddiau dysgu ar-lein ar gael yn rhad ac am ddim i chi ddatblygu eich sgiliau digidol – dyma rai i’ch helpu:

Learn My WayLearn My Way – cyrsiau ar-lein yn rhad ac am ddim i ddechreuwyr – datblygu eich sgiliau digidol. Dros 30 o gyrsiau am ddim wedi’u llunio i’ch helpu i ddeall yr elfennau sylfaenol am fynd ar-lein. Cliciwch ar Learn My Way a dechreuwch eich taith ddigidol heddiw!

IDEA Logo
iDEA – Mae’r Wobr Ysbrydoli Menter Ddigidol, a elwir yn iDEA, yn rhaglen ryngwladol sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n eich helpu i ddatblygu sgiliau digidol, menter a chyflogadwyedd yn rhad ac am ddim.

AdultCommunityWales

Addysg Oedolion Cymru - Ewch i weld yr ystod o gyrsiau sydd ar gael ar-lein gan Addysg Oedolion Cymru - o Sgiliau Hanfodol i gyrsiau Busnes, gofal cymdeithasol, TG a llawer mwy.


DigitalCommunitiesWales

Cymunedau Digidol Cymru
  • Mae’r holl hyfforddiant yn rhad ac am ddim
  • Mae pob sesiwn yn awr o hyd oni nodir yn wahanol

Gallwch weld pa hyfforddiant sydd ar gael drwy glicio yma neu drwy ffonio 0300 111 50 50.

Barclays

Barclays Digital Wings – yn eich helpu i wella eich gwybodaeth ddigidol. Darganfyddwch sut i gadw’n ddiogel ar-lein, dysgwch sut i we-lywio’r cyfryngau cymdeithasol, darganfyddwch sut i wneud eich busnes yn hawdd i’w ddefnyddio’n ddigidol a llawer iawn mwy.

AbilityNetAbility Net – elusen yn y DU sy’n credu mewn byd digidol sy’n hygyrch i bawb – mae’n cynnig adnoddau yn rhad ac am ddim, cymorth yn y cartref a llawer iawn mwy.

 DigitalUnite

Digital Unite - 400+ o ganllawiau sut yn cynnwys ystod eang o destunau digidol. 

Ysgrifennwyd gan arbenigwyr pwnc a diweddarwyd yn rheolaidd, mae’r canllawiau yn berffaith ar gyfer cefnogi eraill gyda sgiliau digidol neu i wella eich gwybodaeth eich hun. 

North East Wales ACL logo

North East Wales Adult Community Learning iyn fenter ar y cyd rhwng Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam i ddarparu'r cyfleoedd a’r canlyniadau dysgu oedolion gorau yn ein cymunedau.

Mynd Ar-lein a Cefnogaeth Ddigidol

Mae technoleg ddigidol nawr yn rhan o’n bywydau – yn fwy nag erioed ers COVID-19.
Ond mae llawer o breswylwyr yn parhau i fod wedi eu heithrio’n ddigidol ac fe hoffem ni newid hynny.

Rydym eisiau helpu preswylwyr i ddarganfod rhyfeddodau technoleg ddigidol, tawelu eu meddyliau ac unrhyw bryderon neu anesmwythdra sydd ganddyn nhw.

Os ydych yn mentro iddi am y tro cyntaf ac yn ansicr ym mhle i ddechrau neu efallai yr hoffech chi ychydig o gyngor, rydym yma i’ch cefnogi a’ch cyfeirio at y cymorth sydd ei angen arnoch.  Gallai hyn gynnwys:

  • Defnyddio’r we ac e-bost 
  • Cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau
  • Dysgu am bethau sydd o ddiddordeb i chi
  • Cefnogi ffrindiau, teulu neu gymdogion sy’n llai hyderus gyda thechnoleg
  • Rheoli eich arian 
  • Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif
  • Mynediad at adnoddau i hyrwyddo iechyd a lles yn cynnwys gweithgareddau/ gwasanaethau ar-lein (e.e. ymgyngoriadau gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, Gwiriwr Symptomau GIG 111, gwybodaeth a chyngor lles DEWIS Cymru).

Sut allwn ni eich cefnogi?

Mae amrywiaeth o wasanaethau a chefnogaeth ar gael yn rhad ac am ddim i’ch helpu i fynd ar-lein neu i’ch helpu i gael ffrind neu aelod o’r teulu ar-lein. Porwch drwy’r Hwb hwn i ddarganfod mwy, yn cynnwys:

Dewis Dyfais

Beth ydych eisiau ei wneud ar-lein?  Bydd meddwl am hyn yn eich helpu i benderfynu beth yw’r ddyfais orau i chi.

Ar gyfer beth fyddwch yn ei ddefnyddio?  A oes angen iddo fod yn gludadwy? Pa mor aml fyddwch yn ei ddefnyddio? Dim ond rhai o'r cwestiynau fydd angen i chi eu hystyried.

Dyma ddisgrifiadau o'r pedwar prif fath o ddyfeisiau sydd ar gael i'ch helpu i benderfynu: 

  • Gliniadur – gwych ar gyfer defnydd ac adloniant bob dydd, yn fwy swmpus i’w gario o gwmpas 
  • Cyfrifiadur bwrdd gwaith – gwych ar gyfer bob math o waith, dyfais sefydlog mewn un lle 
  • Llechen – defnyddiol ar gyfer pori’r rhyngrwyd a dibenion adloniant. Gallai’r sgrin fach wneud i rai tasgau gymryd mwy o amser, megis ysgrifennu e-bost hir, gwych i ddechreuwyr.
  • ffôn symudol – cludadwy, i’w defnyddio wrth fynd. Gallai’r sgrin fach wneud i rai tasgau gymryd mwy o amser, megis ysgrifennu e-bost hir, gwych i ddechreuwyr.

Adnoddau Defnyddiol

Sut i gysylltu â ffrindiau a theulu

Dyma rai apiau AM DDIM i’ch helpu i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu:

  • Facebook – ymunwch â Facebook ar eich cyfrifiadur, lawrlwythwch Facebook for Android mobiles neu Apple mobiles
  • Microsoft Teams ar gyfer eich ffôn symudol, llechen neu gyfrifiadur.
  • Skype - ar gyfer eich ffôn symudol, llechen neu gyfrifiadur.
  • Zoom - ar gyfer eich ffôn symudol, llechen neu cyfrifiadur.
  • WhatsApp - ar gyfer eich ffôn symudol, llechen neu gyfrifiadur.
  • Facetime – ap fideo a sgwrsio yn benodol i ddyfeisiadau Apple. 

Cadw'n Ddiogel Ar-lein

Pan rydych ar-lein, mae’n bwysig eich bod yn sicrhau eich bod yn aros yn ddiogel.
I amddiffyn eich hun, mae’n bwysig eich bod yn dilyn rheolau diogelwch syml.

Mae gan National Cyber Security Centre (NCSC) lawer o gyngor a gwybodaeth, er enghraifft:

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o ymgeision anghyfreithiol i gael eich gwybodaeth bersonol er mwyn dwyn cyfrineiriau, data neu arian. Y risgiau mwyaf cyffredin yw:

  • Hacio 
  • E-bost Gwe-rwydo – os ydych yn cael e-bost ‘gwe-rwydo’ amheus, Gallwch eu  ‘hanfon’ i report@phishing.gov.uk a bydd yr NCSC yn ymchwilio 
  • Meddalwedd Maleisus 

Adnoddau, Cyngor a Chanllawiau

Mae llawer o gyngor a chefnogaeth ar gael i'ch helpu i aros yn ddiogel ar-lein: 

Gallwch hefyd gael cyngor a chanllawiau arbenigol ar ddiogelwch ar-lein plant/myfyrwyr o:

Cyngor Digidol

Mae’r Cyngor yn cynnig llawer o wasanaethau ar-lein i drigolion Sir y Fflint – ac mae mwy’n cael eu cynnig drwy’r amser.

Mae'r rhain yn cynnwys:


Fy Nghyfrif – ardal bersonol gyda gwybodaeth sy’n berthnasol i chi. I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru cliciwch ar Fy Nghyfrif uchod.
Rhowch wybod – rhowch wybod am faterion fel cŵn yn baeddu, tyllau yn y ffordd, biniau heb eu casglu, goleuadau stryd, tipio anghyfreithlon, a mwy.
Gwasanaethau Tai – gwybodaeth i denantiaid sy’n byw yn eiddo’r Cyngor – gellir rhoi gwybod am unrhyw faterion drwy Fy Nghyfrif.
Talu Amdano - Gallwch dalu am wasanaethau’n ddiogel drwy ein Porth Taliadau (Payment Gateway).
Mae ein Strategaeth Ddigidol yn nodi sut y byddwn yn croesawu’r cyfleoedd y mae technolegau digidol, arloesedd a gwybodaeth yn eu cynnig i ni er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau cyhoeddus modern ac effeithlon.

 Y Gymuned Ddigidol

Gan fod technoleg ddigidol yma i aros, mae’n hanfodol fod gan bawb y sgiliau bywyd a gwaith angenrheidiol.
Mae nifer o lefydd yn Sir y Fflint lle gallwch gael mynediad yn rhad ac am ddim at gyfrifiaduron a dyfeisiau eraill, a chymorth i fynd ar-lein os nad oes gennych fynediad yn eich cartref.

Canolfannau Cysylltu – Yng nghanolfan Sir y Fflint yn Cysylltu, gallwch siarad gydag un o’n Cynghorwyr Gwasanaeth i Gwsmeriaid medrus am amryw o wasanaethau’r Cyngor.
FLVC – Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yw’r sefydliad ambarél ar gyfer mwy na 1200 o grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn Sir y Fflint.
Mae Canolfan Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint yn cynnig cymorth ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb pan fydd fwyaf ei angen arnoch. 
Mae Coleg Cambria yn cynnig cyrsiau llythrennedd digidol ar gyfer oedolion ac mae ganddo hefyd dudalen Facebook sy’n rhoi manylion am gyrsiau am ddim i oedolion.

Digwyddiadau a Gweithgareddau Digidol

Mae llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim – edrychwch ar y dolenni isod a darganfyddwch fyd cwbl newydd o anturiaethau digidol!


Gweithgareddau grŵp rhad ac am ddim ar gyfer y rhai dros 75 oed

Mae Reengage yn elusen genedlaethol sy’n cynnig gweithgareddau grŵp ar gyfer pobl dros 75 oed yng Nghymru mewn awyrgylch cymdeithasol.

Mae eu grwpiau yn hwyl, yn gyfeillgar ac yn hollol am ddim. I gael rhagor o wybodaeth, i'w gwefan.


Let’s Move gyda Versus Arthritis

Versus Arthritis yw elusen fwyaf y DY sydd wedi ymrwymo i gefnogi pobl sydd ag arthritis. 

Bwriad Let's Move yw cefnogi pobl i symud trwy amrywiaeth o gynnwys digidol gan gynnwys sesiynau symud pwrpasol, cyngor arbenigol a rhannu straeon personol. Mae’r holl gynnwys wedi ei ddylunio i helpu pobl i ganfod lefel y symudiad sy'n iawn iddyn nhw ac i helpu i gynyddu hyder yn eu corff eu hunain ac wrth reoli eu cyflwr o ddydd i ddydd.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan, ewch i: Let's Move neu ewch i edrych ar Flintshire Versus Arthritis.


Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru

 NEWA

Ewch i weld beth y gallwch ei ddarganfod ar-lein yn yr Archifau.

Llyfrgelloedd Aura

AuraCymruLogo

Llyfrgelloedd Aura yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau ar-lein i bobl o bob oed. Mae’n cynnwys eu catalog ar-lein a llawer iawn mwy. 

Adnoddau Iechyd a Lles

Dewch o hyd i help, gwasanaethau a gwybodaeth yn agos atoch chi...

Pum Ffordd at Les - set o gamau ymarferol gyda'r nod o wella ein hiechyd meddwl a'n lles.
Mae Byw’n Iach GIG Cymru yn cynnig llawer o wybodaeth am fyw a theimlo’n iach
Age Cymru - iechyd a lles i bobl hŷn
Dysgu Sir y Fflint ar gyfer Adfer a Lles – gallwch wella eich lles drwy gwrdd â ffrindiau newydd, datblygu eich hyder a dysgu sgiliau newydd gydag un o’n gweithgareddau a’n cyrsiau.
Mae gwirfoddolwyr cynllun ITCanHelp gan Ability Net yn darparu cymorth TG am ddim i bobl hŷn a phobl ag anableddau o bob oed yn eu cartrefi. 

 Uni Digidol

Ysgrifennwyd gan arbenigwyr pwnc a diweddarwyd yn rheolaidd, mae’r canllawiau yn berffaith ar gyfer cefnogi eraill gyda sgiliau digidol neu i wella eich gwybodaeth eich hun.
Cliciwch ar y lluniau isod i weld rhai o’r canllawiau a gynigir.

Digital-Unite-Computer
Sgiliau Sylfaenol Cyfrifiaduron
Mae dechrau defnyddio cyfrifiaduron yn gallu teimlo fel ymweld â gwlad dramor - mae pethau’n edrych yn gyfarwydd ond nid ydych yn gallu siarad yr iaith ond mae dod i arfer gyda nhw yn llawer haws na dysgu iaith newydd.
Digital-Unite-Email
Ebost
Un o’r pethau cyntaf y dylech ei wneud yw paratoi e-bost, gan ei fod am ddim ac yn ffordd hawdd i gadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau a’r prif ddull a ddefnyddir gan sefydliadau i anfon gohebiaeth atoch chi.
Digital-Unite-Internet
Y Rhyngrwyd
Mae’r rhyngrwyd wedi newid y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau. Mae’n gyffrous ac yn rymusol, ond hefyd yn frawychus. Mae’n gallu bod yn anodd gwybod lle i ddechrau a sut i lywio’r llwyth enfawr o wybodaeth a gynigir. 
Digital-Unite-Security
Diogelwch
Yn union fel y byddech yn gwybod i gloi drws y tŷ cyn gadael neu gadw eich bag yn agos atoch mewn torf, mae yna hefyd reolau syml i gadw’n ddiogel ar-lein fydd yn eich cadw chi a’ch gwybodaeth yn ddiogel.  
Digital-Unite-Hobbies
Hobïau a Diddordebau

Pan mae’n dod i’n diddordebau, dod o hyd i wybodaeth neu gael hwyl, mae’r rhyngrwyd yn cynnwys posibiliadau newydd anhygoel.  Mae’r canllawiau canlynol yn dangos i chi pa mor hawdd yw gwneud yn fawr o’r pethau cyffrous, hwyliog a defnyddiol a gynigir gan y rhyngrwyd.  
Digital-Unite-Shopping
Siopa

Gellir bancio, siopa ac ymgeisio ar gyfer gwasanaethau’r llywodraeth ar-lein. Mae yna hwyl diddiwedd i’w gael wrth chwilio am fargeinion a phori drwy’r ystod enfawr o gynnyrch wrth siopa ar-lein yn ogystal â chyfleustra gwneud taliadau ac ymgeisio am fudd-daliadau ar-lein.
Digital-Unite-Smartphones
Ffonau Clyfar
Mae ffonau clyfar a llechen pwerus, cyfleus ac aml-bwrpas y ddau beth allweddol yn y byd o gyfrifiaduron symudol sy’n tyfu’n gyflym. 
Digital-Unite-TV
Teledu
Bellach, mae’n bosibl gwylio rhaglenni teledu rydych wedi eu colli a ffilmiau nad oeddech yn meddwl y byddech byth yn
eu canfod eto - i gyd ar-lein. Bydd ein canllawiau yn dweud sut. 
Digital-Unite-Photography
Ffotograffiaeth
Mae storio atgofion drwy luniau yn haws nag erioed gyda chyfrifiaduron gan eu bod yn cynnig y gallu i’w storio’n ddiogel, argraffu eich copïau eich hun a’u rhannu gydag eraill ynghyd â llawer mwy.  
Digital-Unite-Music
Cerddoriaeth a Sain
Un o’r newidiadau mwyaf chwyldroadol a gyflwynwyd gan y rhyngrwyd yw’r ffordd yr ydym yn gwrando ar gerddoriaeth, y radio a chynnwys sain arall. Yn sydyn, mae bron popeth yr ydych yn dymuno gwrando arno ar gael drwy glicio ar y lygoden.