Darllenwch am wasanaethau'r Cyngor ar-lein, Strategaeth Ddigidol y Cyngor a chynlluniau ar gyfer y dyfodol
Mae’r Cyngor yn cynnig llawer o wasanaethau ar-lein i drigolion Sir y Fflint – ac mae mwy’n cael eu cynnig drwy’r amser. Mae'r rhain yn cynnwys:
Fy Nghyfrif – ardal bersonol gyda gwybodaeth sy’n berthnasol i chi. I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru cliciwch ar
Fy Nghyfrif uchod.
Bwletinau e-bost –
cofrestrwch yma am ddiweddariadau rheolaidd gan y Cyngor am bynciau sydd o ddiddordeb i chi.
Gallwch dalu am wasanaethau’n ddiogel drwy ein
Porth Taliadau (Payment Gateway).
Rhowch wybod – rhowch wybod am faterion fel cŵn yn baeddu, tyllau yn y ffordd, biniau heb eu casglu, goleuadau stryd, tipio anghyfreithlon – a mwy.