Alert Section

Y gymuned ddigidol – adnoddau yn rhad ac am ddim

Sefydliadau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i gael trigolion Sir y Fflint ar-lein - mynediad am ddim i gyfrifiaduron a'r we

Gan fod technoleg ddigidol yma i aros, mae’n hanfodol fod gan bawb y sgiliau bywyd a gwaith angenrheidiol. Mae nifer o lefydd yn Sir y Fflint lle gallwch gael mynediad yn rhad ac am ddim at gyfrifiaduron a dyfeisiau eraill, a chymorth i fynd ar-lein os nad oes gennych fynediad yn eich cartref.

Canolfannau Cysylltu – Yng nghanolfan Sir y Fflint yn Cysylltu, gallwch siarad gydag un o’n Cynghorwyr Gwasanaeth i Gwsmeriaid medrus am amryw o wasanaethau’r Cyngor.
FLVC - Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yw’r sefydliad ambarél ar gyfer mwy na 1200 o grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn Sir y Fflint.
Mae Coleg Cambria yn cynnig cyrsiau llythrennedd digidol ar gyfer oedolion ac mae ganddo hefyd dudalen Facebook sy’n rhoi manylion am gyrsiau am ddim i oedolion.
Mae Canolfan Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint yn cynnig cymorth ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb pan fydd fwyaf ei angen arnoch.