Alert Section

Profion Dyfais Llif Unffordd yn erbyn Profion PCR


Mae miloedd o bobl bellach yn gwneud Profion Dyfais Llif Unffordd ddwywaith yr wythnos gartref.  Er mwyn sicrhau bod y profion hyn yn gweithio ar eu gorau, mae’n bwysig gwybod pryd y dylem wneud Prawf Dyfais Llif Unffordd a phryd y dylem drefnu prawf PCR.

Lateral Flow Device tests should only be used when a person is not displaying COVID-19 symptoms.  In no circumstance should they be used as a substitute for a PCR test. This is because they are not designed to pick up COVID-19 when there are symptoms.

Felly, i’ch atgoffa, y prif symptom o Covid yw:

  • peswch newydd, parhaus
  • tymheredd uchel
  • colli neu newid i’ch synnwyr arogli neu flasu

If someone is displaying any of the above symptoms they should book a PCR test as matter of urgency and self-isolate while they await the result.  You can book a PCR test by following this link https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu trwy ffonio 119.

O ddydd Sadwrn 7 Awst ni fydd angen i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn, plant dan 18 oed na chyfranogwyr treialon brechlyn hunan-ynysu os ydyn nhw'n dod i gyswllt agos â rhywun â’r coronafeirws https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-0-cwestiynau-cyffredin 

Mae pobl bellach yn gallu cael prawf os oes ganddyn nhw symptomau eraill hefyd

Y symptomau ehangach hyn yw:

Symptomau tebyg i’r ffliw, nad ydynt yn cael eu hachosi gan gyflwr hysbys fel clefyd y gwair, gan gynnwys unrhyw un neu bob un o:

  • Myalgia (dolur neu boen yn y cyhyrau);
  • Blinder gormodol;
  • Cur pen parhaus;
  • Trwyn yn rhedeg neu wedi’i flocio;
  • Dolur gwddf a / neu'n gryg;
  • Diffyg anadl neu wichian;
  • Cyfog, taflu i fyny neu ddolur rhydd;
  • Unrhyw symptom newydd neu newid mewn symptomau ar ôl prawf negyddol blaenorol.

Gofynnir i breswylwyr ystyried cael prawf os ydyn nhw'n profi unrhyw un o'r symptomau ehangach hyn os ydyn nhw'n symptomau newydd, parhaus a/neu anghyffredin iddyn nhw.

Nid yw'n ofynnol i unigolion sy'n cymryd prawf oherwydd y symptomau ehangach hyn hunan-ynysu tra eu bod yn aros am ganlyniad eu prawf. Mae hyn yn cynnwys plant a disgyblion ysgol a all barhau i fynychu ysgolion a lleoliadau gofal plant wrth iddynt aros am ganlyniad prawf. Fodd bynnag, dylai plant ac oedolion â dolur rhydd a neu chwydu aros i ffwrdd o'r gwaith neu'r ysgol a pheidio â mynychu lleoliadau gofal plant nes eu bod yn rhydd o symptomau am 48 awr hyd yn oed os yw eu prawf Covid-19 yn negyddol.

Cliciwch yma Cwestiynau Cyffredin am brofi symptomau ehangach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Gyda’n gilydd gallwn ni i gyd helpu i gadw Sir y Fflint yn ddiogel.

PCR test v LFD Test Cym