Y Broses Etholiad
Amserlen yr Etholiad
Mae’r amrywiol gamau a phrosesau sydd ynghlwm ag etholiad wedi eu gosod mewn deddfwriaeth ac nid oes gan Swyddog Canlyniadau lawer o reolaeth na disgresiwn i newid y rhain mewn unrhyw ffordd. Isod mae amserlen yr etholiad sy’n rhaid ei dilyn ac mae’n cynnwys pryd y disgwylir i chi gwblhau’r amrywiol dasgau fel ymgeisydd a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym wrth weinyddu’r etholiad.
Hysbysiad Etholiad - 18 Mawrth 2022
Mae’r hysbysiad etholiad yn dechrau’r broses etholiad yn ffurfiol.Gellir dosbarthu’r papurau enwebiad ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad hwn.
Dosbarthu Papurau Enwebu - 21 Mawrth 2022 tan 4pm ar 5 Ebrill 2022
Gellir cyflwyno enwebiadau i sefyll ar gyfer etholiad.
Cau / Tynnu Enwebiad yn ôl - 4pm 5 Ebrill 2022
Ni ellir cyflwyno, tynnu yn ôl na newid enwebiadau ar gyfer etholiad ar ôl y dyddiad/amser hwn. Byddwn yn gwybod ble bydd etholiad yn cael ei gynnal ar y pwynt hwn.
Dyddiad cau i benodi Asiant Etholiadol - 4pm 5 Ebrill 2022
Os yn sefyll ar gyfer y Cyngor Sir ac yn penodi asiant etholiadol, dyma’r dyddiad cau i benodi rhywun i’r rôl honno neu byddwch yn asiant etholiadol eich hun yn ddiofyn.
Datganiad am y Sawl a Enwebwyd - 4pm 6 Ebrill 2022
Bydd yr hysbysiad hwn yn dangos enwau pobl sy’n sefyll ar gyfer etholiad.
Dyddiad cau i etholwyr gofrestru i bleidleisio - 14 Ebrill 2022
Dyma’r diwrnod olaf y gall etholwyr gofrestru ar y gofrestr etholiadol er mwyn cofrestru mewn pryd ar gyfer yr etholiad a gallu pleidleisio. Mae preswylwyr yn gallu cofrestru ar lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio a byddant angen eu rhif yswiriant gwladol a dyddiad geni i gwblhau’r broses.
Dyddiad cau i etholwyr wneud cais, canslo neu newid pleidlais drwy'r post - 5pm 19 Ebrill 2022
Mae’n rhaid i bleidleiswyr sy’n methu mynd i orsaf bleidleisio i bleidleisio ofyn am bleidlais drwy'r post dim hwyrach na’r dyddiad cau hwn. Gellir e-bostio ceisiadau i register@flintshire.gov.uk.
Pleidleisiau Post wedi’u Hanfon - 20 neu 21 Ebrill 2022
Bydd unrhyw etholwr sydd wedi gofyn am bleidlais drwy’r post yn derbyn eu papur pleidleisio ar y diwrnod hwn. Gall pleidleiswyr ddisgwyl derbyn eu pleidlais drwy'r post yn y dyddiau yn dilyn hyn.
Dyddiad cau i etholwyr ofyn am bleidlais drwy ddirprwy - 5pm - 26 Ebrill 2022
Gall pleidleiswyr sy’n methu mynd i orsaf bleidleisio i bleidleisio na phleidleisio drwy'r post benodi rhywun arall i bleidleisio ar eu rhan dim hwyrach na’r dyddiad cau hwn. Gellir e-bostio ceisiadau i register@flintshire.gov.uk.
Dyddiad cau i benodi Asiant Pleidleisio a Chyfrif - 27 Ebrill 2022
Mae gan ymgeiswyr hawl i benodi asiantwyr i arsylwi elfennau penodol o’r broses bleidleisio ar gyfer tryloywder. Dyma’r dyddiad cau i roi gwybod i’r Swyddog Canlyniadau am benodiadau ar gyfer yr etholiad hwn.
Agor Pleidleisiau drwy’r Post - 26 Ebrill - 5 Mai 2022
Rhwng y diwrnod hwn a phleidleisio bydd amrywiol sesiynau agor pleidlais drwy'r post yn cael eu cynnal i wirio a dilysu pleidleisiau a ddychwelir drwy’r post.
Diwrnod pleidleisio - 5 Mai 2022
Dyma’r diwrnod y bydd pleidleiswyr yn mynychu gorsafoedd pleidleisio i bleidleisio yn yr etholiadau. Mae Gorsafoedd Pleidleisio yn agored o 7am tan 10pm.
Gwirio a Chyfrif y Pleidleisiau - 6 Mai 2022
Amser dechrau i gael ei gadarnhau.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Costau Etholiad – Cyngor Tref a Chymuned - 6 Mehefin 2022
Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd sy’n sefyll ar gyfer etholiad i gyflwyno set o ffurflenni costau etholiad yn cadarnhau nad oedd yn fwy na’r terfyn gwario fel rhan o’u hymgyrch. Nid yw’r costau hyn yn cael eu had-dalu.
Dyddiad cau i gyflwyno Costau Etholiad - Cyngor Sir - 10 Mehefin 2022
Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd sy’n sefyll ar gyfer etholiad i gyflwyno set o ffurflenni costau etholiad yn cadarnhau nad oedd yn fwy na’r terfyn gwario fel rhan o’u hymgyrch. Nid yw’r costau hyn yn cael eu had-dalu.