Alert Section

Cynllun y Cyngor


Cynllun Cyngor 2022-23 ar newydd wedd

Mae'r Blaenoriaethau ar gyfer y Cyngor wedi'u hadolygu a'u hailgyhoeddi. Mae'r Blaenoriaethau wedi'u symleiddio a'u hailosod; rydym yn gliriach ar y canlyniad / effeithiau tymor hwy yr ydym am eu gwneud a sut y byddwn yn mynd ati i'w cyflawni.

Yn y Cynllun, mae’r Cyngor yn rhestru saith blaenoriaeth ar gyfer y cyfnod rhwng 2022-23 ac ar dudalennau unigol, mae rhestr o is-flaenoriaethau manwl y mae angen gweithredu arnynt yn ystod 2022-23.  Dyma’r is-flaenoriaethau y byddwn yn canolbwyntio fwyaf arnynt eleni.  Mae’r holl flaenoriaethau’n bwysig, ond mewn unrhyw un flwyddyn, bydd nifer ohonynt yn cael sylw arbennig.

Gobeithio y bydd y Cynllun yn addysgiadol ac yn ysbrydoledig. Byddem yn croesawu’ch sylwadau ar y Cynllun ei hun a’r hyn rydym yn ceisio’i gyflawni – PRM@flintshire.gov.uk

Amcanion Lles

Bob blwyddyn rydym yn gosod ein meysydd ar gyfer gwella. Mae'r rhain yn seiliedig ar ardaloedd o angen nas diwallwyd a lle gallwn weithio gydag eraill i wella ansawdd bywyd ar gyfer ein trigolion. Amcanion llesiant y Cyngor ar gael yma.