Alert Section

Eich Cyngor


Cofrestrwch fel nad ydych ar eich colled!

Mae gan Cyngor Sir y Fflint ffordd newydd o gyfathrebu gyda phreswylwyr a chwsmeriaid – GovDelivery.
Mae’r system yn caniatáu i chi gofrestru a derbyn gwybodaeth am wasanaethau penodol trwy e-bost. Chi sy’n rheoli pa wybodaeth a dderbyniwch.

Mae e-bost yn parhau i fod yn un o’r ffyrdd gorau o dderbyn gwybodaeth. Felly os nad ydych eisiau methu dim, ymunwch ar gyfer gwasanaethau sydd o ddiddordeb i chi ac fe anfonwn ddiweddariadau atoch.
Ni fyddwn yn anfon e-byst diddiwedd atoch a gallwch ddatdanysgrifio pryd bynnag yr hoffwch. Mae llawer o awdurdodau lleol eraill yn defnyddio’r system hon i gyfathrebu gyda’u preswylwyr a chwsmeriaid ac mae’n llwyddiannus.

I gofrestru, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw mynd i hafan ein gwefan a chlicio ar y faner biws yng ngwaelod y dudalen a thanysgrifio drwy nodi eich cyfeiriad e-bost yn y ffenestr dros dro a fydd yn ymddangos.

Dilynwch y cyfarwyddiadau i danysgrifio i’r testunau mae gennych ddiddordeb ynddynt ac i ffwrdd â chi!Ar hyn o bryd gallwch danysgrifio i:

•             Newyddion Eich Cyngor (sy’n disodli e-newyddlen Eich Cyngor)

•             Cynllunio

•             Addysg

•             Gwaith Ffyrdd

•             Tai

•             Swyddi

•             Gwastraff ac Ailgylchu

•             Ymgynghori ac Ymgysylltu


Felly, ewch i www.siryfflint.gov.uk a dechreuwch danysgrifio!