Dweud eich dweud ar ein Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd.
Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Hinsawdd yng Nghymru, a thrwy hynny osod cynlluniau uchelgeisiol i'r sector cyhoeddus fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Mae adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor yn cynhyrchu swm o allyriadau carbon oherwydd y defnydd o ynni sy'n llosgi tanwyddau ffosil.
Mae allyriadau o'n fflyd a weithredir gan y Cyngor yn parhau i fod yn ffynhonnell gyson o allyriadau carbon.
Gall y Cyngor ddefnyddio ein tir i gefnogi ein nodau carbon. Gallwn wneud hyn drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, a chynlluniau plannu i gefnogi’r gwaith amsugno carbon a gwella a chynnal ein bioamrywiaeth.
Mae amcangyfrifon cyfredol gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod 60% - 81% o gyllidebau gweithredu sefydliadau’r Sector Cyhoeddus yn cael eu gwario gyda Chyflenwyr a Chontractwyr.
Gan fod yr argyfwng hinsawdd yn bwnc mor bwysig, ac yn un sy'n effeithio ar bob un ohonom, rydym yn gofyn am eich sylwadau a'ch adborth i helpu i ddatblygu Strategaeth Hinsawdd a chynllun gweithredol y Cyngor.
Browser does not support script.