Alert Section

Gwybodaeth y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid


Beth rydym yn ei wneud

Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (a elwir ambell waith yn Dîm Troseddu Ieuenctid neu TTI (YOT)). Yn Sir y Fflint, mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn yr Wyddgrug.

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint yn cydweithio â theuluoedd ac asiantaethau eraill i sicrhau bod pob person ifanc yn cael mynediad at yr help sydd ei angen arnyn nhw. Prif rôl y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid yw atal troseddu gan blant a phobl ifanc.

Biwro / Ymyrraeth Gynnar

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc pan nad ydynt wedi troseddu. Efallai bod hynny oherwydd bod rheswm i gredu bod perygl iddyn nhw droseddu yn y dyfodol. 

Yn ogystal, os yw person ifanc yn troseddu am y tro cyntaf, neu os yw'r drosedd yn un llai difrifol, ac os yw'r person ifanc yn cyfaddef ei fod wedi troseddu, bydd yr heddlu yn atgyfeirio'r person ifanc i’r Biwro a fydd yn rhoi mynediad iddynt at gefnogaeth er mwyn atal troseddu pellach.

Os yw person ifanc wedi cael ei atgyfeirio i’r Biwro. 

Gofynnir i’r person ifanc, y rhieni neu’r gofalwyr (a’u dioddefwr lle bo hynny’n briodol) gymryd rhan mewn asesiad. Bydd Panel y Biwro – sy’n cynnwys y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a’r Heddlu yn trafod yr ymyrraeth fwyaf addas a gallai hynny gynnwys:

  • Datrysiad Cymunedol
  • Rhybudd Ieuenctid
  • Rhybudd Ieuenctid Amodol

Mae’n bosibl y bydd Panel y Biwro yn penderfynu mai’r pethau gorau er lles y person ifanc a phawb arall dan sylw yw datrys y mater y tu allan i'r llys. Gellir ond ystyried hyn pan fydd y person ifanc yn disgyn ar ei fai. 

Fodd bynnag, os yw’r Biwro’n teimlo bod yr achos yn un mwy difrifol mae’n bosibl y bydd yn mynd i’r Llys.

Canlyniad y Llys

Os yw’r person ifanc yn cyflawni trosedd benodol, neu os yw’r person ifanc wedi cyflawni sawl trosedd o'r blaen, mae'n bosibl y bydd yr heddlu yn penderfynu erlyn yn y llys. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd y person ifanc yn cael gwrandawiad mewn Llys Ieuenctid lle mae’n bosibl y byddant yn cael eu dedfrydu i benderfyniad ieuenctid. Enghreifftiau o’r rhain yw:

  • Gorchmynion Atgyfeirio
  • Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid
  • Dedfryd o Garchar

Paratoi i’r llys

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod y dyddiad a’r amser y mae angen ichi fod yn y llys.
  • Ceisiwch edrych mor drwsiadus a glân â phosibl, nid yw’r llys yn hoffi pan fyddwch yn gwisgo capan neu het, neu’n cadw’ch dwylo yn eich pocedi.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod eich ffordd i’r llys.
  • Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn mynd i’r llys oherwydd mae’n drosedd ddifrifol peidio â gwneud hynny.
  • Os oes gennych reswm da iawn pam na allwch fynychu – rhaid i chi roi gwybod i’r llys yn syth a byddan nhw’n dweud wrthych beth i wneud. Er enghraifft, os byddwch chi’n sâl, efallai y bydd rhaid i chi anfon nodyn wrth y meddyg.
  • Mae’r llys yn disgwyl i’ch rhieni / gofalwyr fynychu a gallai fynnu eu bod yn mynychu os trowch i fyny ar eich pen eich hun.
  • Os nad oes gennych gyfreithiwr, gallwch ofyn am weld un pan fyddwch yn mynd i’r llys (trwy gymorth cyfreithiol).
  • Yn y llys, bydd gofyn i chi bledio’n ‘euog’ neu ‘ddieuog’ - ewch i weld y dudalen yn y llys i gael rhagor o wybodaeth.

Mynd i’r llys

  • Gofalwch eich bod yn gwybod pa ddyddiad ac amser y dylech fod yn y Llys.
  • Ceisiwch edrych mor lân a thaclus ag sy’n bosibl, nid yw’r Llys eisiau eich gweld yn gwisgo cap na het, nac yn rhoi’ch dwylo yn eich pocedi.
  • Gofalwch eich bod yn gwybod sut i gyrraedd y Llys.
  • Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn mynychu'r Llys fel arall byddwch yn cyflawni trosedd ddifrifol.
  • Os oes rheswm da iawn dros fethu â mynychu – mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Llys ar unwaith a byddant yn dweud wrthych beth i’w wneud. Er enghraifft os ydych yn sâl mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi anfon nodyn meddyg.
  • Mae’r Llys yn disgwyl i’ch rhieni / gofalwyr fynychu ac mae’n bosibl y byddant yn cael gorchymyn i fynychu os ydych yn cyrraedd yno ar eich pen eich hun.
  • Os nad oes gennych gyfreithiwr gallwch ofyn i gael gweld un wrth fynychu llys (trwy gymorth cyfreithiol).

Beth fydd yn digwydd os byddwch yn pledio’n euog?

Os ydych yn pledio’n euog mae'n bosibl y bydd y llys yn eich dedfrydu ar unwaith neu mae'n bosibl y byddant yn gofyn am adroddiad gyda mwy o wybodaeth.

Os oes angen adroddiad bydd y llys yn dweud wrthych pa ddyddiad y dylech ddod yn ôl i’r llys. Bydd rhywun o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn esbonio beth sy'n rhaid ei wneud wrth baratoi'r adroddiad. Gallai ple euog cynnar ostwng eich dedfryd.

Beth fydd yn digwydd os plediwch chi’n ddieuog?

Os ydych yn pledio’n ddi-euog caiff yr achos ei oedi ar gyfer treial.

Bydd hyn yn rhoi amser i’ch Cyfreithiwr a Chyfreithiwr Gwasanaeth Erlyn y Goron i baratoi eu hachosion. Mae hynny’n golygu y byddant yn casglu cymaint o wybodaeth ag y gallant ar gyfer yr Ynadon a fydd penderfynu p'un a ydych yn euog neu'n ddi-euog.

Gohirio’r Achos

Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi ddod yn ôl ar ddiwrnod arall.

Mae Mechnïaeth Ddiamod yn golygu y gellir ymddiried ynoch i beidio â throseddu eto na chysylltu â thystion. Rhoddir ffydd ynoch chi hefyd i fynychu’r llys ar y dyddiad newydd.

Mae Mechnïaeth Amodol yn golygu y gallai'r Ynadon eich gorchymyn i gadw at yr amodau a osodir ganddynt. Er enghraifft: aros adref yn ystod amseroedd penodol a chadw draw oddi wrth rhai pobl. Mae’n bwysig eich bod yn cadw at yr amodau hyn.

Ambell waith bydd y llys yn penderfynu bod angen eich cadw yn y ddalfa. Os yw hynny’n digwydd bydd yn rhaid i chi fynd i Sefydliad Troseddwyr Ifanc (STI) neu Ganolfan Hyfforddi Ddiogel (CHDd) nes dyddiad eich ymddangosiad nesaf yn y llys.

Dedfrydu

Bydd yr Ynadon yn gwneud penderfyniad ynglŷn â’ch dedfrydu ar ôl darllen adroddiadau a gwrando ar Wasanaeth Erlyn y Goron a chyfreithwyr yr amddiffyniad.

Gorchymyn Atgyfeirio

Os yw person ifanc (10 – 17 oed) yn ymddangos mewn llys am y tro cyntaf ac os yw’n pledio’n euog i’r drosedd, efallai y bydd yn derbyn gorchymyn atgyfeirio.

Mae Gorchmynion Atgyfeirio yn cael eu gwneud am gyfnod rhwng 3 a 12 mis.

Unwaith y bydd y Llys wedi gwneud Gorchymyn Atgyfeirio, bydd aelod o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cysylltu â’r person ifanc a’i rieni / gofalwyr. Caiff y person ifanc orchymyn i ymddangos o flaen Panel Gorchymyn Atgyfeirio cyn pen 20 diwrnod ar ôl ymddangos yn y llys, gyda’i riant neu ofalwr.

Mae cyfarfod y Panel Gorchymyn Atgyfeirio yn dod â gwirfoddolwyr at ei gilydd sydd wedi cael hyfforddiant penodol i gymryd rhan yn y paneli hyn, ymarferydd o'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, y troseddwr ifanc a’i riant neu ofalwr ac, ambell waith, dioddefwr y drosedd.

Gyda’i gilydd maent yn creu rhaglen a fydd yn cynnwys gwaith gwneud iawn (rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned a/neu'r dioddefwr) a gweithio i fynd i'r afael ag ymddygiad troseddol.

Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid

 Mae’r Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid, a elwir hefyd yn GAI (YRO), yn ddedfryd gymunedol. Mae hyn yn golygu cyfarfod gyda'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn eithaf aml i gwblhau gwahanol weithgareddau a thasgau. Bydd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn gweithio gyda chi i'ch helpu i newid eich ymddygiad troseddol a cheisio gwneud eich dyfodol yn un di-drosedd.

Y math o weithgareddau a allai fod yn ofynnol i gwblhau rhaglen GAI yw:

  • Addysg / hyfforddiant• Rheoli dicter
  • Gwneud iawn (rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned)
  • Cymorth i deuluoedd
  • Goruchwyliaeth
  • Rhaglen o weithgareddau
  • Gwaith Di-Dâl
  • Cyrffyw

I’ch helpu i gwblhau Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid, bydd eich Gweithiwr Cyfiawnder Ieuenctid yn:

  • Esbonio beth fydd yn digwydd yn ystod eich GAI a chreu rhaglen waith a gweithgareddau gyda chi.
  • Siarad gyda chi am yr hyn yr ydych wedi’i wneud a’r effeithiau y mae hynny wedi’i gael ar y dioddefwr a’r gymuned.
  • Ateb eich cwestiynau.
  • Eich cynorthwyo i gwblhau'ch GAI, cofnodi eich cynnydd a'ch helpu i roi'r gorau i droseddu.
  • Rhoi adborth positif i chi a'ch annog.

I gwblhau’ch GAI, mae'n rhaid i chi wneud tipyn o waith hefyd a gwneud yn siŵr eich bod yn:

  • Mynychu apwyntiadau ar amser ac yn cymryd rhan, fel arall byddwch yn derbyn rhybudd llafar ac ysgrifenedig. Os nad oes unrhyw newid yn eich lefelau cyfranogi, mae’n bosibl y gofynnir i chi fynd yn ôl i’r llys.
  • Os ydych yn sâl mae’n bosibl y bydd angen i chi ddarparu nodyn gan eich meddyg teulu i'r GCI.
  • Peidio â mynychu apwyntiadau dan ddylanwad alcohol na chyffuriau.  Os ydych yn gwneud hynny gofynnir i chi adael a bydd yr apwyntiad yn cael ei ystyried yn apwyntiad a fethwyd.

Remánd

Os bydd llys yn penderfynu nad yw unigolyn ifanc yn addas am fechnïaeth, bydd yr unigolyn yn cael ei remandio mewn llety cadw ieuenctid tan y gwrandawiad llys nesaf o leiaf. Gweler isod am fanylion llety cadw ieuenctid.

Gellir remandio unigolyn ifanc tan i ddedfryd gael ei rhoi ond gellir gwneud ceisiadau pellach am fechnïaeth yn ystod yr amser hwn.

Os bydd rhywun ifanc yn cael ei arestio a’i gyhuddo, ac nad oes modd ymddangos yn y llys ar yr un diwrnod (er enghraifft yn ystod y penwythnos), a theimla’r heddlu nad yw’n ddiogel rhoi mechnïaeth i’r unigolyn, bydd yn cael ei gadw dros nos gan yr awdurdod lleol mewn llety diogel. Yna, bydd yr unigolyn ifanc yn ymddangos yn y llys y bore nesaf (neu ar ddydd Llun ar ôl cael ei arestio ar nos Sadwrn).

Y Ddalfa

Os yw llys yn penderfynu nad yw person ifanc yn addas ar gyfer mechnïaeth, caiff ei gadw yn y ddalfa mewn llety cadw ieuenctid nes y gwrandawiad llys nesaf o leiaf. Gellir cadw person ifanc yn y ddalfa nes bod dedfryd derfynol yn cael ei rhoi ond gellir gwneud ceisiadau pellach am fechnïaeth yn ystod yr amser hwn.

Os caiff person ifanc ei arestio a’i gyhuddo, ac os nad yw’n bosibl ymddangos yn y llys ar yr un diwrnod (ar y penwythnos er enghraifft), ac os yw’r heddlu’n teimlo nad yw’n ddiogel rhoi mechnïaeth i’r person ifanc bydd yn cael ei gadw mewn llety diogel dros nos gan yr awdurdod lleol.  Byddai’r person ifanc yn ymddangos yn y llys y bore wedyn (neu’r dydd Llun ar ôl cael ei arestio ar nos Sadwrn).

Dalfa

Os yw person ifanc yn cael ei ddedfrydu i garchar gan y llys, bydd yn mynd yn syth i lety cadw ieuenctid. Ar gyfer pob penderfyniad i anfon person ifanc i ddalfa ieuenctid, bydd y person ifanc yn treulio hanner y ddedfryd mewn llety cadw ieuenctid a’r hanner arall ar drwydded yn y gymuned.

Os yw person ifanc yn torri telerau ei drwydded mae’n bosibl y bydd yn gorfod dychwelyd i lety cadw ieuenctid ac y bydd dyddiad rhyddhau newydd yn cael ei roi.

Bydd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cefnogi’r plentyn, y person ifanc a’i deulu yn ystod y cyfnod hwn ac yn ymweld â chi yn y ddalfa. 

Os ydych yn pryderu am eich plentyn yn y ddalfa gallwch adrodd am hyn wrth Swyddog y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a neu gysylltu â’r sefydliad diogel yn uniongyrchol a siarad gyda’r Swyddog Dyletswydd.

Pobl Ifanc yn y ddalfa

https://www.gov.uk/browse/justice/young-people
https://www.gov.uk/young-people-in-custody
https://www.gov.uk/government/collections/secure-estate-for-young-people-contact-details

I adrodd pryderon am blentyn:
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Social-Services/Child-Protection-Welsh.aspx

Os yw’ch pryder yn un brys, cysylltwch â’r heddlu ar 101 neu 999.

Dolenni defnyddiol eraill i bobl ifanc

Os yw person ifanc yn cael anawsterau â’i iechyd meddwl:
https://youngminds.org.uk/
https://www.actionforchildren.org.uk/support-for-parents

I bobl ifanc LHDT:
https://www.stonewallcymru.org.uk/cy


Penderfyniadau y Tu Allan i’r Llys

Datrys yn y Gymuned

Defnyddir Datrysiad Cymunedol ar gyfer troseddau bach neu ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae hwn yn gytundeb anffurfiol rhwng y partïon dan sylw ac mae’n cael ei ddefnyddio’n aml gyda phobl ifanc sydd wedi troseddu am y tro cyntaf ac sy’n cyfaddef eu bod wedi troseddu.

Ar gyfer unrhyw ddatrysiad cymunedol:

  • Cymerir dymuniadau'r dioddefwyr i ystyriaeth
  • Mae’n rhaid i’r person ifanc gytuno i gymryd rhan a derbyn cyfrifoldeb.
  • Hysbysir y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a fydd yn asesu lefel y risg a’r ymyrraeth
  • Os yw’r person ifanc yn cytuno i weithio gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, gwneir hyn gyda Gweithiwr Atal.

Rhybudd Amodol Ieuenctid

 Mae’n bosibl y caiff Rhybudd Amodol Ieuenctid ei gynnig pan fo person ifanc yn disgyn ar ei fai, pan fo tystiolaeth ddigonol yn dangos posibilrwydd realistig o gollfarn a phan mai’r ffordd orau o sicrhau budd y cyhoedd yw trwy gael y person ifanc i gyflawni amodau a gytunwyd o flaen llaw yn hytrach na mynd i'r llys.

Ar gyfer Rhybudd Amodol Ieuenctid:

  • Bydd yr Heddlu a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn rhoi amodau sy’n gymesur â’r drosedd, sy’n helpu adferiad ac yn rhoi cyfle i’r person ifanc wneud iawn yn hytrach na wynebu erlyniad.
  • Gallai’r amodau gynnwys cyrffyw, cadw draw o ardal benodol neu oddi wrth berson arall, a gweithio gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
  • Bydd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn asesu lefel y risg a'r ymyrraeth a bydd gwaith yn cael ei wneud o dan y rhaglen ddargyfeirio.
  • Gallai methu â chydymffurfio arwain at erlyniad am y drosedd wreiddiol.

Ystyrir bod Rhybuddion Ieuenctid Amodol wedi’u 'treulio’ unwaith y bydd yr amodau wedi cael eu cyflawni (3 mis fel arfer). 

Pan roddir Rhybudd Ieuenctid neu Rybudd Ieuenctid Amodol, mae’n rhaid i’r person ifanc, y swyddog heddlu ac unrhyw riant, gwarcheidwad neu oedolyn priodol sy’n bresennol, lofnodi ffurflen i gadarnhau bod y Rhybudd wedi cael ei roi am y drosedd a gyflawnwyd. Dylai’r penderfyniad gael ei roi mewn gorsaf heddlu oni bai fod rheswm dilys dros fethu â gwneud hynny.