Alert Section

Gwasanaeth Cwnsela Pobl Ifanc (GCPI)


Young Peoples Counselling Service - COLOUR LOGO

Mae Cwnsela yn rhoi cyfle rheolaidd a chyfrinachol i chi siarad am yr hyn sy’n eich poeni neu broblemau sydd gennych chi.  Gall fod yn fuddiol iawn siarad am eich meddyliau, teimladau neu bryderon gyda rhywun nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â’ch problemau neu bryderon, a’u bod yn eu hegluro a’u deall.  Gall hyn arwain at newidiadau yn y ffordd rydych chi’n teimlo am eich hun a’ch perthnasau gyda phobl eraill.  Gall cwnsela eich helpu hefyd i weld y dewisiadau gwahanol sydd gennych i symud ymlaen.  Weithiau, gall ‘siarad am bethau’ eich helpu i deimlo’n fwy pendant neu’n fwy hyderus am rywbeth sydd gennych chi eisoes mewn golwg.  

Nid ein rôl ni fel Cwnselwyr, yw rhoi cyngor na dweud wrthych chi beth i’w wneud.  Yn hytrach, rydym yn eich cefnogi i wneud eich dewisiadau eich hun all arwain at dwf personol a bod yn fwy hunan-ymwybodol.  

Byddwn yn cynnig 6 sesiwn i chi, un sesiwn yr wythnos ac yna’n adolygu sut mae’r broses yn mynd i chi. Mae croeso i chi roi’r gorau i’r cwnsela ar unrhyw adeg cyn hynny, gallwch roi gwybod i’r cwnselydd neu athro yn yr ysgol os yw’n well gennych chi. Os byddwch chi’n methu apwyntiad am unrhyw reswm, fe gynigir apwyntiad arall i chi.

Os byddwch chi’n methu dau apwyntiad ar ôl ei gilydd ac os nad ydym ni’n clywed gennych chi (neu gan athro ar eich rhan) byddwn yn tybio nad ydych eisiau dod i’r sesiynau cwnsela. Mae croeso i chi ddychwelyd ar unrhyw adeg yn y dyfodol a chaiff hyn ei egluro’n glir yn ystod eich sesiwn gyntaf. 

Pwy all ddod i sesiwn gwnsela?

Mae ein gwasanaeth ar agor i bob person ifanc yn Sir y Fflint, o Flynyddoedd 6-13, Unedau Cyfeirio Disgyblion, Plant Nad Ydynt mewn Addysg, Gwaith neu Hyfforddiant, Ysgolion Arbenigol, Teithwyr a Rhai wedi’u Haddysgu mewn Man Arall ac Eithrio’r Ysgol. 

Cyfrinachedd

Er mwyn i chi deimlo’n gwbl ddiogel ac ymddiried ynom ni i helpu â’ch pryderon, mae’n hanfodol bod cyfrinachedd yn cael ei gadw. Mae cyfrinachedd hefyd yn eich cefnogi i newid ymddygiad a bod yn gwbl onest am rai o’r teimladau mwyaf anodd mewn bywyd, megis tristwch, pryder, ofn, cywilydd neu ddicter. 

Serch hynny bydd cyfrinachedd yn cael ei dorri os ydym ni o’r farn eich bod mewn perygl sylweddol o achosi niwed i’ch hun neu eraill yn ystod y cwrs Cwnsela.  Yn yr achosion hyn, byddwn yn siarad gyda’r Athro Cyswllt dynodedig yn yr ysgol a/neu Swyddog Diogelu Plant ac yn cytuno ar y camau nesaf, gyda chi (lle bynnag y mae hynny’n bosibl).  Fe allai hyn olygu atgyfeirio i wasanaethau allanol eraill megis Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), rhoi gwybod i rieni/gofalwyr neu weithredoedd eraill er mwyn sicrhau eich gofal a’ch diogelwch.  

Nid yw’n benderfyniad hawdd, fel Cwnselwyr, ynghyd â gweithwyr proffesiynol eraill rydym yn parhau i gydbwyso eich hawliau gyda dyletswydd amddiffyn plant a gweithredu er eich budd pennaf chi fel Pobl Ifanc. 

Os cewch eich asesu fel ‘Cymhwysedd Gillick’ mae gennych hawl gyfreithiol i ofyn i ni beidio â dweud wrth eich rhieni neu ofalwyr eich bod yn mynychu sesiynau cwnsela, a bydd hyn yn cael ei barchu.  

Cymhwysedd Gillick yw term sydd yn deillio yn Lloegr ac sy’n cael ei ddefnyddio mewn cyfraith feddygol i benderfynu a ydi plentyn (16 oed ac iau) yn gallu cydsynio i’w triniaeth feddygol eu hunain, heb yr angen am ganiatâd neu wybodaeth eu rhieni.  

O ran cwnsela, mae’n ymwneud a bod yn ddigon galluog yn feddyliol ac emosiynol i ddeall y broses gwnsela a beth mae’n ei olygu.  Wrth gwrs, mae croeso i chi ddweud wrth unrhyw un eich bod yn mynychu sesiynau cwnsela. 

Yn ystod y sesiwn gyntaf byddwn bob amser yn egluro beth yw ffiniau cyfrinachedd, yn gwirio eich bod wedi deall yn llawn, ac o dan ba amgylchiadau y byddai’n rhaid torri cyfrinachedd.  Fe fydd yna gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau cyn i’r sesiwn gwnsela gael ei chynnal. 

Pwy ydym ni 

Rydym ni’n grŵp brwdfrydig o gwnselwyr sydd eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau Pobl Ifanc ar draws Sir y Fflint.  Rydym yn gwerthfawrogi'r effaith ychwanegol y mae Covid-19 a’r cyfnodau clo amrywiol wedi eu cael ar iechyd meddwl.  

Rydym ni’n delio ag ystod eang o faterion ac anawsterau megis: 

  • Gorbryder
  • Iselder
  • Bwlio
  • Profedigaeth
  • Straen Arholiadau
  • Rhyw a rhywioldeb
  • Hunan-niweidio ysgafn i gymedrol
  • Anawsterau o ran ymddygiad

Mae gennym ni gymhwyster cydnabyddedig ym maes Cwnsela, megis Diploma neu Radd, ac amrywiaeth o brofiad a hyfforddiant priodol i weithio gyda chi.  Mae cwnselwyr YPCS hefyd yn aelodau o Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP), yn ymwneud yn rheolaidd â hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac yn gweithio gyda Fframwaith Moesegol ar gyfer Arfer Da mewn Cwnsela a Seicotherapi BACP (www.bacp.co.uk). 

Yn ychwanegol, rydym yn derbyn hyfforddiant Goruchwyliaeth Glinigol reolaidd, parhaus.  Cyfarfod gyda chwnselydd arall, ein Goruchwyliwr yw hyn.   Rydym ni’n trafod ein llwyth achosion yn ystod yr Oruchwyliaeth ac yn derbyn cefnogaeth ac arweiniad i barhau i wella sut rydym ni’n gweithio gyda chi.  

Rydym ni’n gweithio gydag Athro Cyswllt yr ysgol, sef aelod dynodedig o staff yr ysgol sydd wedi cytuno i gymryd cyfrifoldeb a bod yn bwynt cyswllt ar gyfer cwnsela yn yr ysgol.  Bydd yr athro cyswllt yn gwneud apwyntiadau gan ystyried eich amserlen, fel nad ydych chi’n colli pynciau craidd bob wythnos. 

Yr hyn mae pobl ifanc yn ei ddweud

““Mae wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod yn gallu gwneud mwy nag oeddwn i’n meddwl y gallwn i.”

“Dwi’n herio fy meddyliau rŵan.”

“Mae wedi gwneud i mi sylweddoli nad oes rhaid i mi gadw popeth i mi fy hun, fe allaf ei rannu gyda rhywun sydd wir yn deall.” 

“Mae wedi gwneud i mi fod yn fwy cadarnhaol a fy ngwneud yn bersonol gryfach am fy marn fy hun.” 

“Mae wedi fy ngwneud yn fwy agored i siarad gyda fy nheulu am fy anawsterau, mae hynny’n wahaniaeth mawr i mi.” 

“Yn y sesiwn gwnsela, rwyf wedi gallu siarad am fy anawsterau yn yr ysgol, gan wybod ei fod yn gyfrinachol ac na fydd unrhyw un arall yn clywed.” 

“Roeddwn i’n arfer cerdded o gwmpas yn gwgu, ond rydw i bellach yn gwenu. Alla’ i ddim diolch digon i chi, diolch yn fawr.”

“Os aiff rhywbeth o’i le, dwi’n teimlo fy mod yn gwybod sut i ymdopi ag o rŵan.”

Sut i wneud atgyfeiriad

Gallwch chi neu eich Rhiant/Gofalwr wneud atgyfeiriad.  

Dechreuwch eich neges gyda YPCS ac anfonwch eich Enw, Dyddiad Geni a’r Ysgol i:

  • E-bost - YPCS@flintshire.gov.uk
  • Neges destun (am ddim) - 80800

Yna cewch eich rhoi ar restr aros i gael apwyntiad cwnsela.   

Sylwch ei fod yn debygol y byddwch yn aros rhwng 8-12 wythnos am apwyntiad cwnsela.  Rydym yn gwneud ein gorau i gynnig apwyntiad mor fuan ag y bydd lle ar gael.  

NID dyma’r manylion i gysylltu mewn argyfwng.  Os byddwch chi angen siarad gyda rhywun yn gyflym, ffoniwch Childline ar 0800 1111 neu siaradwch gydag aelod o staff yn yr ysgol.