Cofebau Rhyfel
Ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, codwyd nifer o gofebau ledled y wlad er cof am y rheiny a fu farw mewn brwydrau. Ychwanegwyd enwau’r rheiny a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd a rhyfeloedd dilynol ar rai cofebau presennol. Fel arall, crëwyd cofebau newydd i anrhydeddu’r rheiny a fu farw yn ddiweddarach. Codwyd y cofebau hyn i anrhydeddu’r rheiny a roddodd eu bywydau i sicrhau heddwch a hefyd i atgoffa cenedlaethau’r dyfodol na ddylem fyth anghofio eu haberth eithaf.
Mae Archifwyr Cofebau’r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn ceisio casglu cofnod o bob cofeb rhyfel yn y DU a hyrwyddo gwerthfawrogiad a defnydd pobl ohonynt a’u gwarchod.
Ymddiriedolaeth Cofebau Rhyfel
Mae’r Ymddiriedolaeth Cofebau Rhyfel yn gweithio i ddiogelu a gwarchod cofebau rhyfel yn y DU
Y mathau o waith y gallwn eu hariannu
- Gwarchod
- Eu trwsio i’w cyflwr gwreiddiol
- Gwaith trwsio strwythurol/sefydlogi
- Ailosod nodweddion a gollwyd sy’n ffurfio rhan annatod o’r dyluniad
- Ychwanegu enwau os oes lle ar y gofeb
- Cynnal arolygon o’u cyflwr a chreu adroddiadau strwythurol proffesiynol
Y mathau o waith na allwn eu hariannu
- Cofebau rhyfel newydd
- Cynnal a chadw
- Gwaith neu ddulliau amhriodol
- Adleoli, oni bai fod y gofeb ‘mewn perygl’ a phan nad oes opsiwn arall
- Gwaith ar feddi o unrhyw fath
- Ceisiadau i sawl cynllun a weinyddir gan yr Ymddiriedolaeth ar gyfer yr un gwaith
- Os yw’r gwaith eisoes wedi dechrau neu ei gwblhau