Alert Section

Cyflwyno Cenedlaethol - 17 Medi 2023

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ar draws Cymru

#BarodAm20mya

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno terfyn cyflymder newydd o 20mya o 17 Medi 2023.

  • Bydd arafu i 20mya o gymorth i achub bywydau a diogelu ein cymunedau.
  • Bydd y terfyn cyflymder o 20mya yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffyrdd 30mya, sydd yn gyffredinol yn ffyrdd preswyl neu’n strydoedd prysur i gerddwyr gyda goleuadau stryd. 

Cewch fwy o wybodaeth am y ddeddfwriaeth newydd hon ar wefan Llywodraeth Cymru.

Terfynau cyflymder 20mya- Darganfod mwy


Gweithredu’r ddeddfwriaeth 20mya ar ffyrdd lleol yn Sir y Fflint

Bydd gan bob Cyngor yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig o 17 Medi 2023.

O’r dyddiad hwn, bydd pob ffordd gyfyngedig 30mya yn newid i ffyrdd 20mya.

Mae ffyrdd cyfyngedig fel arfer wedi’u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac ar hyn o bryd mae ganddyn nhw derfyn cyflymder o 30mya a system oleuadau stryd (tri neu fwy o golofnau goleuadau o fewn 183m).

Caiff pob terfyn cyflymder ei asesu’n ddiduedd yn seiliedig ar feini prawf cenedlaethol penodol. Ni all cynghorau lleol, yn gyfreithiol, ddiystyru’r meini prawf oherwydd y bydd y penderfyniad yn amhoblogaidd.

Mae’r Cyngor wedi cynnal adolygiad o ffyrdd yn Sir y Fflint yn cynnwys cynnal asesiad diduedd yn unol â meini prawf lle 20mya a meini prawf eithriadau Llywodraeth Cymru.

Dim ond ffyrdd cyfyngedig sy’n bodloni ‘meini prawf eithriadau’ Llywodraeth Cymru y gellir eu hystyried.

I bennu ‘eithriad’ i ffordd gyfyngedig, mae’n rhaid i gynghorau lleol gael achos clir a rhesymegol dros wneud hynny sy’n profi bod tystiolaeth gref yn bodoli y byddai cadw terfyn cyflymder uwch yn ddiogel.  

Ni fydd pob ffordd 30mya yn pasio’r prawf yma, er mae’n debygol y bydd darnau ar hyd rhai ffyrdd. 

Fel rhan o’r broses asesu hon, gofynnwyd i aelodau etholedig lleol nodi ffyrdd yn eu wardiau oedd yn bodloni meini prawf Llywodraeth Cymru a chafodd pedair ar ddeg o ffyrdd yn Sir y Fflint eu cynnig fel eithriadau posibl. 

Roedd y cynigion i’r ffyrdd hyn ddychwelyd i 30mya ar ôl gweithredu deddfwriaeth 20mya ym mis Medi yn destun ymgynghoriad statudol ffurfiol 21 diwrnod a agorodd ar 28 Gorffennaf 2023 a chau ar ddydd Gwener, 18 Awst 2023. 

Mae gwrthwynebiadau a/neu sylwadau o gefnogaeth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad wedyn yn destun proses statudol ffurfiol, sy’n dibynnu ar nifer yr ymatebion a dderbyniwyd a/neu eu cymhlethdod, yn gallu cymryd amser i’w cwblhau.  

Er bod y Cyngor wedi hysbysebu ffyrdd sy’n bodloni'r meini prawf eithriadau’n ffurfiol dros yr haf, ni ellir gweithredu’r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig gofynnol yn gyfreithiol tan ar ôl 17 Medi 2023 ar ôl cyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd

Mae hyn yn golygu y bydd pob ffordd gyfyngedig 30mya yn Sir y Fflint (yn cynnwys y rhai y gellir eu hystyried yn eithriadau) yn dod yn ffyrdd 20mya ar 17 Medi ac ni fydd yr eithriadau yn troi’n ôl yn rhai 30mya hyd nes y bydd y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig wedi dod i rym.  

Bydd y ffyrdd i gyd yn cynnwys arwyddion priodol yn ystod pob rhan o’r broses hon. 

Ar ôl cyflwyno’r ddeddfwriaeth terfyn cyflymder 20mya cenedlaethol newydd gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi, bydd cymunedau lleol yn gallu cyflwyno ffyrdd eraill i’w hystyried drwy wefan y Cyngor.  Bydd mwy o wybodaeth ar sut all drigolion wneud hyn ar gael yn yr hydref.  

Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut bydd y Cyngor yn cyflwyno terfynau cyflymder 20mya Llywodraeth Cymru yn Sir y Fflint yn yr adran Cwestiynau Cyffredin

Cyflwyno Cenedlaethol Cwestiynau Cyffredin

Cyflwyno Cenedlaethol - Cwestiynau Cyffredin