Cwestiynau Cyffredin
1. Ble allaf i gael rhagor o wybodaeth am ddeddfwriaeth 20mya Llywodraeth Cymru a pham ei bod yn cael ei chyflwyno ledled Cymru?
Cymerwch olwg ar wefan Llywodraeth Cymru https://www.llyw.cymru/terfynau-cyflymder-20mya
2. A fydd pob ffordd yn Sir y Fflint yn newid i 20mya ar 17 Medi?
Ar 17 Medi 2023, bydd pob ffordd gyfyngedig yn newid i 20mya.
3. Beth yw ffordd gyfyngedig?
Mae ffyrdd cyfyngedig fel arfer wedi’u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac ar hyn o bryd mae ganddyn nhw derfyn cyflymder o 30mya a system oleuadau stryd (tri neu fwy o golofnau goleuadau o fewn 183m).
4. Os oes goleuadau stryd ar ffordd ond mae’r terfyn cyflymder yn 40mya neu 50mya, fydd o’n newid i 20mya ym mis Medi?
Na fydd. Dim ond ffyrdd cyfyngedig 30mya fydd yn newid i 20mya ym mis Medi. Bydd ffyrdd â therfyn cyflymder uwch na 30mya ble mae goleuadau stryd yn cadw eu terfyn cyflymder presennol.
5. Pa feini prawf fydd y Cyngor yn eu dilyn wrth gyflwyno deddfwriaeth 20mya newydd Llywodraeth Cymru?
I ddechrau, bydd gan bob Cyngor yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig o 17 Medi 2023.
Gellir cael gafael ar feini prawf Llywodraeth Cymru yma.
6. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ‘meini prawf disgwyliadau’ sy’n nodi sut gall awdurdodau priffyrdd gyflwyno eithriadau mewn perthynas â therfynau cyflymder 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru.
Pa ‘eithriadau’ mae Cyngor Sir y Fflint wedi’u cyflwyno?
Dim ond ffyrdd cyfyngedig sy’n bodloni ‘meini prawf eithriadau’ Llywodraeth Cymru y gellir eu hystyried.
Ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘feini prawf eithriadau’ sy’n nodi sut gall awdurdodau priffyrdd gyflwyno eithriadau mewn perthynas â therfynau cyflymder 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru.
I bennu ‘eithriad’ i ffordd gyfyngedig, mae’n rhaid i gynghorau lleol gael achos clir a rhesymegol dros wneud hynny sy’n profi bod tystiolaeth gref yn bodoli y byddai cadw terfyn cyflymder uwch yn ddiogel. Ni fydd pob ffordd 30mya bresennol yn bodloni’r prawf hwn, ond mae’n debygol y bydd rhannau o ffyrdd yn bodloni’r prawf.
Mae’r Cyngor wedi cynnal adolygiad o ffyrdd yn Sir y Fflint yn cynnwys cynnal asesiad diduedd yn unol â meini prawf lle 20mya a meini prawf eithriadau Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o’r broses asesu hon, gofynnwyd i aelodau etholedig lleol ddynodi ffyrdd yn eu wardiau oedd yn bodloni meini prawf ‘eithriadau’ Llywodraeth Cymru.
Yn dilyn asesiad diduedd o’r ymatebion a gafwyd yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol a gynhaliwyd dros yr haf, bydd y ffyrdd canlynol yn newid yn ôl i 30mya:
- A549 Ffordd yr Wyddgrug, Mynydd Isa
- A549 Ffordd Caer / Dirty Mile - Little Mountain, Bwcle
- B5127 Ffordd Lerpwl, Bwcle
- B5128 Ffordd yr Eglwys, Bwcle
- Drury Lane, Bwcle
- Parc Dewi Sant, Ewlo
- A541 Ffordd Dinbych, Yr Wyddgrug
- A5104 Cyfnewidfa Warren Bank - Brychdyn
- A5026 Holway Road, Treffynnon
- B5121 Ffordd Maes Glas, Treffynnon
- B5129 Kelsterton Road – Kelsterton
- B5129 Cylchfan Queensferry
Ni fydd y terfynau cyflymder diwygiedig yn y lleoliadau a restrir uchod yn dod i rym nes bydd yr holl arwyddion priodol wedi eu gosod ar y safle. Gwneir y gwaith hwn dros yr wythnosau nesaf.
Bydd y rhannau canlynol o’r ffyrdd yn parhau yn 20mya:
- Ffordd White Farm, Bwcle
- A541 Hendre
Bydd cymunedau lleol yn gallu cyflwyno ffyrdd eraill i’w hystyried drwy wefan y Cyngor. Bydd mwy o wybodaeth ar sut all drigolion wneud hyn ar gael yn yr hydref.
Bydd adolygiad terfyn cyflymder cynhwysfawr o’r holl ffyrdd yn Sir y Fflint yn digwydd gan ddefnyddio canllawiau perthnasol i’w diweddaru gan Lywodraeth Cymru. Mae hwn yn ddarn o waith sylweddol a bydd yn cael ei gyflawni dros y pum mlynedd nesaf.
7. Beth yw’r drefn ar gyfer dadansoddi ymatebion i wrthwynebiadau/sylwadau ar Orchymyn Rheoleiddio Traffig?
Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau bod trefn deg, diduedd a gwrthrychol yn cael ei dilyn wrth ystyried gwrthwynebiadau a/neu sylwadau i Orchymyn Rheoleiddio Traffig.
Nodir y gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â gwrthwynebiadau a sylwadau yng Nghyfansoddiad y Cyngor a’i Gynllun Dirprwyo ac fe’u rheolir gan y gwasanaethau cyfreithiol.
Mae mwy o wybodaeth ar y broses ffurfiol o greu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig o’r dechrau i’r diwedd ar gael yma.
8. A yw Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn cael eu pennu gan nifer yr ymatebion a dderbynnir gennych yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol?
Nid yw’r broses ymgynghori statudol yn dibynnu ar nifer y gwrthwynebiadau neu sylwadau a dderbynnir yn ystod y broses. Cynnwys y sylwadau a dderbynnir fydd yn penderfynu a fydd Gorchymyn yn cael ei roi ar waith neu beidio.
Er enghraifft, ni fyddai 10 o wrthwynebiadau a dderbyniwyd gan breswylwyr yn nodi nad ydynt yn syml yn hoffi’r cynnig yn cael eu dosbarthu fel achos dilys i wrthwynebu. Ond byddai un gwrthwynebiad sy’n darparu tystiolaeth nad yw’r cynnig yn bodloni'r meini prawf, neu dystiolaeth y gallai’r cynnig gael effaith negyddol ar unigolion a/neu’r cyhoedd yn ehangach, o bosibl yn cael ei ystyried yn wrthwynebiad dilys.
9. Os yw fy ffordd i’n cael ei hystyried yn eithriad, pryd fydd 30mya yn cael ei adfer?
Ni ellid gweithredu Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn gyfreithiol tan ar ôl 17 Medi 2023 yn dilyn cyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd.
Mae hyn yn golygu bod pob ffordd gyfyngedig 30mya yn Sir y Fflint (yn cynnwys y rhai a ystyrir yn eithriadau) wedi newid yn ddiofyn i 20mya ar 17 Medi.
Mae’r broses gyfreithiol statudol bellach wedi’i chwblhau a bydd y ffyrdd a restrir isod yn newid yn ôl i 30mya ac yn dod i rym pan fydd yr holl arwyddion priodol wedi eu gosod ar y safle. Gwneir y gwaith hwn yn ystod yr wythnosau nesaf.
- A549 Ffordd yr Wyddgrug, Mynydd Isa
- A549 Ffordd Caer / Dirty Mile - Little Mountain, Bwcle
- B5127 Ffordd Lerpwl, Bwcle
- B5128 Ffordd yr Eglwys, Bwcle
- Drury Lane, Bwcle
- Parc Dewi Sant, Ewlo
- A541 Ffordd Dinbych, Yr Wyddgrug
- A5104 Cyfnewidfa Warren Bank - Brychdyn
- A5026 Holway Road, Treffynnon
- B5121 Ffordd Maes Glas, Treffynnon
- B5129 Kelsterton Road – Kelsterton
- B5129 Cylchfan Queensferry
10. Sut allaf i gyflwyno ffordd ar gyfer ei ystyried fel eithriad?
Bydd cymunedau lleol yn gallu cyflwyno ffyrdd eraill i’w hystyried ar gyfer eithrio drwy wefan y Cyngor. Bydd mwy o wybodaeth ar sut all drigolion wneud hyn ar gael yn yr hydref.
11. Beth yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am eithriadau?
Yn dechnegol, nid oes dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau am eithriadau.
Yma yn Sir y Fflint rydym wedi cynnal adolygiad o ffyrdd sy’n cynnwys cynnal asesiad diduedd yn unol â meini prawf lle 20mya a meini prawf eithriadau Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o’r broses asesu hon, gofynnwyd i aelodau etholedig lleol nodi ffyrdd yn eu wardiau oedd yn bodloni meini prawf Llywodraeth Cymru.
Roedd cyfanswm o 14 diwrnod wedi eu cyflwyno ac roedd y ffyrdd hyn yn destun proses ymgynghori statudol rhwng 28 Gorffennaf ac 18 Awst.
Bydd cymunedau lleol yn gallu cyflwyno ffyrdd eraill i’w hystyried ar gyfer eithrio drwy wefan y Cyngor. Bydd mwy o wybodaeth ar sut all drigolion wneud hyn ar gael yn yr hydref.
12. Rwyf wedi ymateb i ymgynghoriad Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ac nid wyf wedi clywed y canlyniad eto, pa mor hir y bydd yn ei gymryd?
Er mwyn creu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (GRhT) rhaid dilyn proses statudol ffurfiol. Mae GRhT yn ddogfennau cyfreithiol ysgrifenedig y mae’n rhaid derbyn gwrthwynebiadau, neu sylwadau o gefnogaeth iddynt, yn ysgrifenedig i’r cyfeiriad a nodir, ar neu cyn y dyddiad cau penodedig.
Yn dilyn y dyddiad cau mae gwrthwynebiadau neu sylwadau o gefnogaeth wedyn yn destun proses statudol ffurfiol, a all gymryd peth amser i'w chwblhau, yn dibynnu ar nifer yr ymatebion a dderbyniwyd a/neu eu cymhlethdod.
Mae’r broses ffurfiol ar gyfer creu GRhT o’r dechrau i’r diwedd yn cynnwys:
- Rhoi Hysbysiad o Gynnig yn y wasg leol am gyfnod statudol isafswm o 21 diwrnod pryd y gellir cyflwyno gwrthwynebiadau ffurfiol yn erbyn y cynigion. Rhoddir Hysbysiad o Gynnig ar y safle hefyd, ac mae pecyn gwybodaeth ar gael ar-lein ac yn y Ganolfan Gyswllt berthnasol, i'r cyhoedd ei archwilio.
- Bydd unrhyw wrthwynebiadau (neu sylwadau o gefnogaeth) a ddaw i law yn ystod y cyfnod hwn wedyn yn cael eu hystyried yn ddiduedd gan yr Awdurdod, a bydd Adroddiad Dirprwyo yn cael ei gwblhau yn amlinellu penderfyniad yr Awdurdod ynghylch a ddylid gwrthod neu gadarnhau unrhyw wrthwynebiadau unigol a dderbyniwyd. Rhaid i'r adroddiad hwn wedyn fynd drwy'r prosesau llywodraethu gofynnol.
- Cwblheir Gorchymyn Terfynol a Hysbysiad o Wneud. Rhoddir Hysbysiad o Wneud ar y safle, ac mae pecyn gwybodaeth ar gael ar-lein ac yn y Ganolfan Gyswllt berthnasol, i'w archwilio gan y cyhoedd.
- Mae'r Gorchymyn yn cael ei selio gan yr Adran Gyfreithiol.
- O fewn 14 diwrnod i'r Gorchymyn gael ei selio gan adran gyfreithiol Cyngor Sir y Fflint, bydd ymateb ysgrifenedig llawn yn cael ei ddarparu i'r Gwrthwynebwyr neu'r ymatebwyr i gefnogi'r Gorchymyn.
- Ar ôl cwblhau'r camau uchod, bydd gwaith yn dechrau ar y safle.
Mewn perthynas â’r broses statudol ar gyfer Gorchmynion Rheoleiddio Traffig ar gyfer eithriadau i ddeddfwriaeth 20mya Llywodraeth Cymru bu’n bosibl hysbysebu’n ffurfiol newidiadau arfaethedig dros yr haf, ni ellir gweithredu’r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig gofynnol yn gyfreithiol tan ar ôl 17 Medi 2023 yn dilyn y cyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd. Hyd nes y bydd y broses ymgynghori statudol wedi'i chwblhau, nid yw'n bosibl dweud faint o'r ffyrdd a awgrymir fydd yn newid i 30mya, ond i'r rhai sy'n newid, bydd hyn yn golygu y byddant yn rhagosodedig i 20mya ar 17eg Medi ac ni fyddant yn cael eu newid i 30mya tan mae'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig wedi'u rhoi ar waith. Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i’r gorchmynion rheoleiddio traffig gael eu gweithredu yn dibynnu ar nifer o ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad statudol a’r broses o ystyriaeth ac ymateb ffurfiol.
13. Pe na bai Cyngor Sir y Fflint yn dilyn y meini prawf 20mya y gwnaeth Llywodraeth Cymru eu pennu a throi ffordd yn ôl i 30mya, a fyddai’r Cyngor yn atebol i her gyfreithiol pe bai damwain?
Ni all cynghorau lleol ddiystyru meini prawf yn gyfreithiol wrth bennu cyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd lleol. Asesir pob terfyn cyflymder yn ddiduedd ar sail meini prawf cenedlaethol penodol.
14. A fydd yr arwyddion i gyd yn cael eu newid yn barod ar gyfer gweithredu’r cyfyngiadau cyflymder 20mya ym mis Medi?
Mae gan Sir y Fflint dros 1,000 o arwyddion 30mya sydd angen eu newid i 20mya ar 17 Medi. Er mwyn cyflawni hyn, mae gwaith eisoes yn digwydd a bydd yr holl arwyddion cywir mewn lle yn barod ar gyfer y lansiad ar 17 Medi.
Ar 17 Medi, bydd yr arwyddion crwn 20mya yn cynnwys arwyddion dros dro “terfyn 20mya newydd” a fydd mewn lle am 12 mis.
15. Beth fyddwch chi’n wneud gyda’r hen arwyddion 30mya?
Beth fyddwch chi’n wneud gyda’r hen arwyddion 30mya?Mae arwyddion 30mya wedi cael eu tynnu i lawr ac mewn cyflwr da, a byddent yn cael eu cadw a’u defnyddio eto yn yr ardaloedd sydd ddim yn bodloni meini prawf 20 mya Llywodraeth Cymru.
Bydd arwyddion sydd wedi eu difrodi, colli lliw neu heb ddefnydd yn y dyfodol yn cael eu hailgylchu fel sgrap.
16. Dydych chi heb newid yr arwydd 30mya yn fy ffordd /stryd /pentref /tref?
Mae yna hefyd rai darnau o ffyrdd yn Sir y Fflint sydd â therfyn cyflymder 30mya, ond nad oes ganddynt oleuadau stryd. Yn yr ardaloedd hyn, mae’r terfyn cyflymder wedi’i osod drwy lunio dogfen gyfreithiol o’r enw Gorchymyn Rheoleiddio Traffig a elwir yn ‘30mya Trwy Orchymyn’.
Mae’n bosibl bod hyn wedi’i wneud i wella diogelwch ar y ffordd, neu pan fo tref neu bentref wedi tyfu dros amser a’u bod nhw bellach y tu hwnt i hyd y colofnau goleuadau stryd gwreiddiol.
Mae’r rhestr lawn o ffyrdd ‘30mya Drwy Orchymyn’ i’w gweld isod:
- Rhan o Stryt Cae Rhedyn, Coed-llai
- Rhan o Brynford Road, Pentre Helygain
- Rhan o Gwernaffield Road, Gwernaffield
- Rhan o Bryntirion Road, Bagillt
- Rhannau o’r A5104 Corwen Road, Pontybodkin
- Rhan o Llanfynydd Road, Llanfynydd
- Rhan o’r A541 Mold Road, Caergwrle
- Rhan o Fagl Lane, Yr Hôb
- Rhannau o The Green, Sandy Lane a Main Road, Higher Kinnerton
- Rhan o’r ffordd oddi ar A548 Tyn-y-morfa
- Ffyrdd amrywiol yn Rhes-y-Cae
Nid yw pob darn presennol o ffyrdd ‘30mya Trwy Orchymyn’ yn bodloni meini prawf deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru, ond pan fyddan nhw’n bodloni’r meini prawf, gan fod y terfyn cyflymder presennol wedi’i osod gan Orchymyn Rheoleiddio Traffig cyfreithiol, ni all y terfyn cyflymder newid hyd nes y caiff gorchymyn 20mya newydd ei greu, hyd nes y cynhelir ymgynghoriad arno a’i weithredu, o bosib.
Mae’r Gorchmynion hyn wedi’u hysbysebu’n ddiweddar ac mae gwrthwynebiadau’n cael eu hystyried ar hyn o bryd. Mae’r dogfennau ymgynghori ar gael ar wefan y Cyngor.
17. Nid yw’r arwydd 30mya yn fy ffordd/stryd/pentref/tref wedi cael ei newid ac nid yw ar y rhestr 30mya Drwy Orchymyn?
O ystyried faint o waith y bydd yn cael ei wneud dros y penwythnos, mae'n bosibl y bydd rhai arwyddion 30mya, a ddylai bellach fod yn 20mya, wedi'u methu.
Cyn rhoi gwybod i’r Cyngor am arwydd a fethwyd, byddem ni’n gofyn i drigolion wirio’r wefan yn gyntaf i weld a yw’r ffordd wedi’i rhestru’n ‘30mya Trwy Orchymyn’.
Os nad yw’r ffordd ar y rhestr ‘30mya Drwy Orchymyn’, dywedwch wrth gwasanaethaucwsmer@siryfflint.gov.uk
18. A fydd arwyddion ategu i atgoffa pobl eu bod nhw mewn ardal 20mya?
Ni fydd arwyddion crwn nac arwyddion ategu 20mya yn cael eu gosod ar ffyrdd cyfyngedig i atgoffa pobl eu bod mewn ardal 20mya ar ôl cyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd ym mis Medi.
Yn yr un modd â chyfyngiadau 30mya ar ffyrdd cyfyngedig, ni fydd angen arwyddion ategu gan y bydd polion goleuadau stryd yn bresennol. Bydd arwyddion 20mya newydd yn cael eu gosod ar bob pen i’r ardal cyfyngu cyflymder lle bo angen. Bydd y goleuadau stryd ar hyd y ffordd rhwng yr arwyddion hyn yn atgoffa unigolion eu bod nhw mewn ardal 20mya.
Bydd gwaith bellach yn digwydd i dynnu’r marciau ffyrdd ac arwyddion hyn, gan gynnwys y rhai a ddarparwyd fel rhan o Gam Un 20mya Cynllun Aneddiadau ym Mwcle a’r ardal amgylchynol. Nid yw’r ffaith ein bod yn cael gwared â’r marciau ffordd hyn – boed yn 20mya neu’n 30mya – yn golygu nad yw cyfyngiadau cyflymder yn yr ardaloedd hynny wedi’u tynnu. Mae’n golygu bod y sir yn paratoi ar gyfer cyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya ledled Cymru ar 17 Medi
19. Beth am arwyddion cyflymder wedi’u goleuo ac yn fflachio, a fydd y rhain yn newid i fflachio 20mya?
Mae arwyddion crwn 30mya wedi’u goleuo ac sy’n cael sbarduno pan fydd cerbydau yn mynd tu hwnt i 30mya yn cael eu galw yn arwyddion a ysgogir gan gerbydau. Cânt eu defnyddio fel dyfeisiau arafu traffig, ac maent wedi cael eu gweithredu mewn nifer o leoliadau ar draws Sir y Fflint er mwyn atgyfnerthu terfynau cyflymder. Mae mwyafrif o’r arwyddion hyn yn cael eu cynhyrchu i arddangos un terfyn cyflymder yn unig ac felly bydd angen digomisiynu'r rhain cyn 17 Medi. O ystyried fod cynghorau tref/cymuned wedi ariannu rhai i’r arwyddion hyn, rydym yn bwriadu amnewid arwyddion crwn 30mya presennol sy’n fflachio gydag arwyddion negeseuon amrywiol, ond mae’n debygol y bydd hyn yn digwydd yn 2024 lle bydd arian yn caniatáu.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi dynodi os fydd cyllid ar gael yn y dyfodol i ddarparu arwyddion cyflymder cerbydau mewn lleoliadau newydd, ond bydd mesurau o’r fath yn parhau i gael eu hystyried fel rhan o gynlluniau diogelwch lleol.
20. Mae arwyddion 20mya eisoes o amgylch ysgolion, a fydd y rhain yn aros yn eu lle?
Mae terfynau cyflymder ar ffyrdd yn Sir y Fflint sy’n amgylchynu ysgolion, eisoes yn destun cyfyngiadau cyflymder cynghorol o 20mya. Fel arfer caiff y rhain eu marcio gyda “20” coch yng nghanol yr arwydd a chylch du. Bydd yr arwyddion hyn yn cael eu tynnu cyn 17 Medi oherwydd y bydd terfyn cyflymder cynghorol o 20mya presennol yn cael ei amnewid gyda deddfwriaeth 20mya newydd gan Lywodraeth Cymru.
Bydd arwyddion parth 20mya, gydag arwydd crwn 20 a geiriau “PARTH ZONE”, hefyd yn cael eu tynnu gan y bydd yr ardal ehangach yn destun 20mya o 17 Medi.
21. Mae gennym ni nodweddion arafu traffig ar hyd fy ffordd i arafu cyflymder traffig, a cheir gwared ar y rhain pan fydd y cyfyngiadau cyflymder 20mya yn cael eu cyflwyno?
Mae gan nifer o gymunedau lleol fesurau arafu traffig, megis twmpathau cyflymder, arwyddion terfyn cyflymder ar gefndir melyn a rhannau coch ar y briffordd, a gyflwynwyd gan ddefnyddio’r canllawiau blaenorol. Nid yw mesurau arafu traffig ffisegol, megis rhwystrau igam-ogamu, twmpathau a chlustogau, bellach eu hangen yn ôl deddfwriaeth er mwyn hunan-orfodi terfynau cyflymder 20mya a bydd ond yn cael ei ystyried fel rhan o gynlluniau diogelwch lleol yn y dyfodol. Bydd arwyddion 30mya gyda chefndir melyn yn cael eu hamnewid gydag arwyddion 20mya heb gefndir melyn ac ni fydd rhannau coch ar y ffordd yn cael eu cynnal a’u cadw unwaith y byddent wedi’u gwisgo.
Bydd mesurau gostegu traffig presennol, wedi’u cyflwyno mewn ardaloedd penodol i wella diogelwch ar y ffyrdd. Ni fydd cyflwyno terfyn cyflymder 20mya yn gwaredu’r angen am gynlluniau gostegu traffig presennol, fodd bynnag, yn yr un modd â phob cynllun diogelwch, bydd eu heffeithiolrwydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd
22. A fydd y Cyngor yn ystyried ceisiadau ar gyfer cynlluniau gostegu traffig newydd ar ôl i’r terfyn cyflymder 20mya gael ei gyflwyno?
Nid yw mesurau arafu traffig ffisegol, megis rhwystrau igam-ogamu, twmpathau a chlustogau, bellach eu hangen yn ôl deddfwriaeth er mwyn hunan-orfodi terfynau cyflymder 20mya. Bydd y Cyngor yn ystyried ceisiadau yn y dyfodol fel rhan o gynlluniau diogelwch lleol, ond yn yr un modd â chyflwyno unrhyw gynllun diogelwch, bydd eu heffeithiolrwydd posibl yn cael eu hasesu’n llawn cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud i’w cyflwyno
23. Mae goleuadau stryd ar hyd y ffordd drwy fy nhref/pentref, ydi hyn yn golygu y bydd yn dod yn barth 20mya?
Mae mwyafrif y terfynau cyflymder 30mya ar ‘ffyrdd cyfyngedig’, ac mae deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn nodi os oes gan ffordd system o oleuadau stryd, yna bydd yn destun cyfyngiad 30mya oni bai y dynodir yn wahanol. Mae deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru wedi newid y terfyn cyflymder i 20mya o 30mya.
Os oes hyd o oleuadau stryd ar goll ar ffordd 30mya, er enghraifft, os yw tref neu bentref wedi mynd yn fwy yn sgil datblygiad o dai newydd, yna cynhyrchir dogfen gyfreithiol o’r enw Gorchymyn Rheoleiddio Traffig a darperir arwyddion ategu 30mya er mwyn dynodi’r terfyn cyflymder ar hyn y darn o ffordd heb ei oleuo.
Yn yr achosion hynny, er mwyn bodloni deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru, mae’r Cyngor wedi edrych ar ble y gall ehangu systemau goleuadau stryd i gynnwys hyd llawn yr ardaloedd 30mya presennol. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig 30mya yn cael eu dirymu.
Mae rhai lleoliadau heb unrhyw oleuadau stryd sydd â therfynau cyflymder 30mya wedi’u cynnwys mewn Gorchmynion Rheoleiddio Traffig lle na fyddai goleuadau stryd newydd yn briodol nac yn hyfyw yn economaidd, megis tiroedd comin. Yn yr achosion hyn, bydd Gorchmynion Rheoleiddio Traffig 20mya a 30mya newydd yn cael eu hysbysebu.
24. Pwy sy’n talu am gyflwyno 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yn Sir y Fflint?
Bydd yr holl gostau sydd ynghlwm â gweithredu 20mya ledled Cymru yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru drwy grant i gynghorau lleol.
Newyddion Diweddaraf
Gallwch ddarllen y newyddion 20mya diweddaraf ar y dudalen 20mya