Alert Section

Cyfleusterau Hamdden a Chwaraeon Dan Do (Sir y Fflint)

Mae Cyngor Sir y Fflint yn creu asesiad o anghenion a fydd yn helpu i ddarparu dealltwriaeth gyfredol o gyfleusterau chwaraeon a hamdden dan do yn lleol, gan gynnwys y galw yn lleol am y rhain.

Er mwyn gwneud y gwaith yma mae’r Cyngor wedi penodi FMG Consulting Ltd.

Mae’r Cyngor yn awyddus i gael mewnbwn rhanddeiliaid ac yn gwahodd cynrychiolwyr clybiau chwaraeon sydd yn defnyddio cyfleusterau chwaraeon a hamdden dan do yn Sir y Fflint. 

Bydd y wybodaeth a ddarperir ar ran eich sefydliad/busnes yn cael ei defnyddio i lywio’r asesiad o anghenion a gallai rhywfaint o wybodaeth ddienw gael ei chynnwys yn yr asesiad ei hun. 

Pwrpas yr asesiad o anghenion yw casglu data yn ymwneud â chyfleusterau chwaraeon a hamdden dan do a'u defnydd ledled y sir. Bydd y data a gesglir yn rhoi gwybodaeth werthfawr i'r Cyngor a allai o bosib’ gael ei defnyddio at ystod eang o ddibenion sy'n berthnasol i ddarpariaeth chwaraeon a hamdden yn Sir y Fflint. Bydd hyn yn cynnwys nodi strategaeth y Cyngor, ond hefyd bydd yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, ddatblygu cynlluniau cysylltiedig eraill, polisïau a strategaethau, cefnogi cyfleoedd cyllid grant allanol, a siapio gwasanaethau iechyd a lles. 

Mae’n bosib’ y caiff yr asesiad o anghenion ei gyhoeddi a/neu ei rannu â sefydliadau allanol priodol. 

Sylwch nad ydym yn ceisio casglu unrhyw ddata personol yn rhan o’r arolwg yma, a byddem yn eich annog i rannu dim ond barn eich sefydliad neu fusnes. 

Ni ddylai’r arolwg gymryd yn hir i’w lenwi, ac rydym yn ddiolchgar am unrhyw adborth y gallwch chi ei ddarparu wrth lenwi rhai o’r cwestiynau, neu bob un ohonynt.  

Gallwch weld yr arolwg yma;

Arolwg Cymraeg: Clwb Chwaraeon

Arolwg Saesneg: Sports Clubs

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw: 29 Medi 2023. 

Mae’r arolwg ar gael yn Gymraeg a Saesneg, a gallwch nodi eich dewis iaith ar frig tudalen gyntaf yr arolwg. Nodwch eich dewis iaith er mwyn sicrhau bod yr holl destun yn cael ei ddarparu yn eich iaith ddewisedig. 

Diolch yn fawr.