Alert Section

Fforwm Mynediad Lleol


Beth yw’r Fforwm Mynediad Lleol?

Mae'r Fforwm Mynediad Lleol yn gorff ymgynghorol annibynnol o 12-20 o wirfoddolwyr, sy'n rhoi cyngor strategol gwybodus i'r Gwasanaeth Hawliau Tramwy a Chefn Gwlad. Y prif nod yw gwella mynediad a gweithgareddau hamdden awyr agored yng nghefn gwlad i bawb.

Pwy all fod yn aelod o’r fforwm?

Daw'r aelodaeth o ystod o ddiddordebau, wedi'u cydbwyso rhwng y rhai sy'n defnyddio cefn gwlad a'r rhai sy'n ei reoli. Yn ystod y cyfarfodydd bydd yr aelodau yn cael trafodaethau adeiladol ac yn ceisio consensws o ran gwneud penderfyniadau a darparu cyngor.

Mae aelodaeth yn cynnwys cynrychiolaeth o:

  • Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a sefydliadau cysylltiedig
  • Cymdeithas y Cerddwyr a grwpiau eraill sydd â diddordeb mewn cael mynediad
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac elusennau cadwraeth eraill
  • Beicwyr Llwybrau
  • Ffermio a Chynghorau Plwyf
  • Cymdeithas Ceffylau Prydain a sefydliadau cysylltiedig eraill
  • SUSTRANS
  • Defnyddwyr sy’n Anabl
  • Cynghorwyr Sir
  • Cynrychiolwyr cymunedol sydd â diddordeb mewn hamdden a mynediad i gefn gwlad

Beth mae’r fforwm yn ei wneud?

  • Cefnogi a chynghori Cyngor Sir y Fflint, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ar weithredu tir mynediad agored yn Sir y Fflint ac ystyried ceisiadau i gyfyngu neu gau mynediad ar gyfer rheoli/diogelu tir.
  • Cynorthwyo gyda chyngor ar wella a datblygu'r rhwydwaith hawliau tramwy presennol a nodi cysylltiadau coll.
  • Darparu cyngor ar Gynllun Gwella Hawliau Tramwy’r sir a strategaethau hamdden a mynediad eraill.
  • Gweithio ochr yn ochr â Fforymau Mynediad Lleol cyfagos er mwyn datblygu rhwydwaith integredig.
  • Llywio a monitro darpariaeth y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy i sicrhau rhwydwaith integredig sy'n diwallu anghenion defnyddwyr heddiw ac yn y dyfodol.
  • Cydbwyso anghenion defnyddwyr mynediad ag anghenion rheoli tir a chadwraeth ardal.
  • Paratoi adroddiad blynyddol o'i weithgareddau.
  • Ymateb i ymgynghoriadau'r llywodraeth ar reoli mynediad.• Cynrychioli'r Cyngor mewn Fforymau Mynediad Lleol rhanbarthol.

A allaf fynd i gyfarfod?

Mae croeso i'r cyhoedd fynd i gyfarfodydd y Fforwm Mynediad Lleol, a gynhelir o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Os hoffech fynd i godi unrhyw faterion yn ymwneud â Hawliau Tramwy Cyhoeddus neu dir Mynediad Agored, anfonwch e-bost publicrightsofway@flintshire.gov.uk  neu ffoniwch 01352 704612.

Gellir cael dyddiadau cyfarfodydd, ynghyd â rhaglen a chofnodion y Fforwm drwy dudalennau Hawliau Tramwy gwefan y Cyngor. Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Y Tîm Mynediad, Tŷ Dewi Sant, Ewlo, CH5 3DT.

Newyddion Diweddaraf 13/07/18 - Fforwm Mynediad Lleol Sir y Fflint a Wrecsam