Alert Section

Bathodynnau Glas


Mae Bathodynnau Glas yn caniatáu i bobl sydd ag anawsterau symud difrifol neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eu symudedd, i barcio yn nes at ble maen nhw angen mynd.  Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas fel gyrrwr, teithiwr neu sefydliad.

Mae Bathodynnau Glas yn ddilys am fwyafswm o 3 blynedd yn dibynnu ar amodau’r cais.


Pwy gaiff wneud cais am Fathodyn Glas?

Gall unigolyn gymhwyso ar gyfer Bathodyn Glas yn un o’r categorïau canlynol (dewiswch gategori am fwy o wybodaeth):

Awtomatig

Gall unigolyn fod yn gymwys i dderbyn bathodyn, heb fod angen asesiad, os ydynt:

  • Derbyn Taliad Annibyniaeth Bersonol ar y lefelau canlynol:
    -  12 pwynt am Gynllunio a Dilyn Taith
    -  8 pwynt neu fwy am symud o gwmpas

  • Derbyn Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl (y Gyfradd Uwch)

  • Derbyn Tariff 1-8 (yn gynwysedig) Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog, gan gynnwys Anhwylder Meddwl Parhaol o dan Tariff 6

  • Derbyn Atodiad Symudedd Pensiynwr Rhyfel

  • Cofrestredig yn ddall neu gyda nam difrifol ar y golwg.

Disgresiwn

Gall rhai amgylchiadau wneud unigolyn yn gymwys, sef:

  • Meth cerdded o gwbl. Anhawster mawr wrth gerdded. Nam symudedd sylweddol

  • Unigolyn dros ddwy oed sydd ag anabledd parhaol a sylweddol. Golyga hyn na allant gerdded neu eu bod yn cael anhawster mawr i gerdded. Maen nhw angen cymorth i gerdded neu ocsigen hyd yn oed i gerdded pellter bychan fel hanner hyd cae pêl droed

  • Plentyn iau na thair oed sydd â chyflwr meddygol sy’n golygu:
    -  Bod yn rhaid iddynt gael offer meddygol mawr gyda nhw bob amser, ac ni all y plentyn ei gario heb anhawster
    -  Mae’n rhaid iddyn nhw fod wrth ymyl cerbyd i gael mynediad at driniaeth feddygol sy’n achub bywyd ar gyfer y cyflwr hwnnw, neu gael eu cludo’n gyflym yn y cerbyd i rywle sy’n cynnig triniaeth o’r fath

  • Anabledd difrifol yn y ddwy fraich – Unigolyn sydd, oherwydd yr anabledd hwn, yn ei chael yn anodd iawn, neu sy’n methu, gweithredu pob math neu rai mathau o feter parcio. Caniateir defnyddio’r bathodyn hwn gan yr unigolyn pan fydd ef/hi yn gyrru yn unig

  • Nam Gwybyddol Difrifol – Unigolyn sy’n methu cynllunio na dilyn taith heb gymorth rhywun arall

  • Salwch terfynol sy’n cyfyngu’n ddifrifol ar symudedd.

Dros Dro

Gall unigolyn wneud cais am fathodyn 12 mis dros dro os ydyn nhw’n gwella ar ôl triniaeth, neu yn aros am driniaeth ar gyfer salwch neu anafiadau difrifol. Dyma enghreifftiau:

  • Gwella ar ôl torri coes yn ddrwg, fel y rhai gaiff eu rheoli gyda gosodwyr allanol, am gyfnodau o flwyddyn a mwy

  • Gwella neu aros am newid cymal e.e. clun, penglin, sy’n cyfyngu ar symudedd yn ddifrifol

  • Gwella ar ôl strôc neu anaf i’r pen sy’n effeithio ar symudedd

  • Gwella ar ôl trawma i’r asgwrn cefn sy’n effeithio ar symudedd

  • Derbyn triniaeth feddygol e.e. am ganser, sy’n effeithio ar symudedd

Sefydliadau

Gall Sefydliad gymhwyso am Fathodyn Glas os yw’n gofalu ac yn cludo pobl anabl a fyddai’n gymwys ar gyfer Bathodyn Glas fel unigolyn.

 Nid yw’r rhesymau canlynol yn unig yn gwneud rhywun yn gymwys i dderbyn Bathodyn Glas:

  • Beichiogrwydd
  • Lwfans Byw i'r Anabl ar Gyfradd Is
  • Lwfans Gweini
  • Anabledd mewn un fraich
  • Cyflwr dros dro fel torri neu sigo un o’ch aelodau sy’n golygu eich bod mewn plaster am wythnosau neu fisoedd
  • Triniaeth ar gyfer salwch neu anaf nad yw’n effeithio’n ddifrifol ar symudedd
  • Problemau gyda’r bledren neu’r coluddyn megis afiechyd Crohn neu Colitis

 Gwneud cais neu adnewyddu Bathodyn Glas

Gallwch wneud cais neu adnewyddu Bathodyn Glas ar-lein yn GOV.UK Os ydych yn adnewyddu eich bathodyn (ni chaiff hyn ei wneud yn awtomatig) dylech lenwi ffurflen newydd ar-lein o leiaf 12 wythnos cyn i’ch bathodyn presennol ddod i ben.

Gwneud cais neu adnewyddu bathodyn glas ar-lein

Er bod Bathodynnau Glas am ddim yng Nghymru, codir tal o £10.00 am gyfnewid Bathodyn Glas sydd wedi ei ddwyn neu ei golli.

Gwneud cais amnewid colled/dwyn bathodyn glas

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Gall y broses gais gymryd hyd at fwyafswm o 8 wythnos o dderbyn y ffurflen gais gyda’r dystiolaeth ategol.  

Os yw eich cais yn llwyddiannus, caiff y Cerdyn Parcio Bathodyn Glas ei bostio i gyfeiriad yr ymgeisydd.  Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, gallwch ail-ymgeisio os fydd eich amgylchiadau’n newid neu gallwch gysylltu â ni gyda mwy o wybodaeth i’w hystyried. 

Nid oes proses apelio.

Sut ydw i’n arddangos y Bathodyn Glas?

Dylech ddangos y Bathodyn Glas ar y dangosfwrdd, fel y gellir ei weld yn glir o’r tu allan y cerbyd.

Dylai tu blaen y bathodyn wynebu am i fyny, gan ddangos y symbol cadair olwyn, neu’r hologram ar y cynllun newydd.

Pan fyddwch yn derbyn eich bathodyn, bydd cloc parcio ynghlwm wrtho. 

Pryd bynnag y byddwch yn parcio ar linellau melyn, neu yn rhywle sydd â chyfyngiad aros, dylai’r cloc ddangos y cyfnod chwarter-awr pan gyrhaeddoch chi.

Ble alla’ i barcio?

Os oes gennych Fathodyn Glas gallwch barcio:

  • ar linell felyn sengl neu ddwbl am hyd at dair awr, oni bai fod cyfyngu ar lwytho neu ddadlwytho (a ddangosir gyda llinell fylchog felyn ar ymyl y palmant ac/neu arwyddion)
  • ger meteri parcio ar y stryd am ddim ac am ba bynnag hyd y byddwch angen
  • mewn mannau parcio i’r anabl mewn meysydd parcio

Beth os fydd fy manylion yn newid?

Rhowch wybod i ni os byddwch yn newid eich enw neu’ch cyfeiriad.

Gallwch anfon ymholiad  / Ffon 01352 701304

Codir tâl o £10 am newid eich enw. Nid yw’n costio i newid unrhyw fanylion eraill.

Cerdyn Methu Aros

 Efallai y bydd rhai pobl sydd â phroblem gyda’r coluddyn neu’r bledren yn gweld y gwasanaeth hwn yn ddefnyddiol. Mae’r cerdyn yn nodi’n glir fod gan y deiliad gyflwr meddygol a’i fod angen defnyddio’r toiled yn gyflym.  Mae’r cerdyn yn un bychan, maint cerdyn credyd fel y gallwch ei ddangos pan fyddwch allan yn siopa ac yn cymdeithasu, ac efallai y bydd yn eich helpu i gael mynediad at doiled.

Gweler y ddolen isod am fwy o wybodaeth a manylion prynu:

Gwnewch anlein gais am a Cerdyn Methu Aros yn www.bladderandbowelfoundation.org

Allwedd Radar

Mae’r Cynllun Allwedd Cenedlaethol yn cynnig mynediad annibynnol i bobl anabl at doiledau cyhoeddus sydd wedi eu cloi o gwmpas y wlad.  Mae toiledau gyda chlo Cynllun Allwedd Cenedlaethol arnynt, i’w cael mewn canolfannau siopa, tafarndai, caffis, siopau adrannol, gorsafoedd bysiau a threnau a sawl lleoliad arall yn y rhan fwyaf o’r wlad.  

Gellir rhoi allweddi radar i breswylwyr sydd wedi eu cofrestru yn anabl, neu sy’n ei chael yn anodd defnyddio’r cyfleusterau. Gallwch anfon ymholiad neu ewch i un o’n Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.   

Am fwy o wybodaeth am Fathodynnau gallwch anfon ymholiad  / Ffon 01352 701304