Alert Section

Ardrethi Busnes - Hysbysiad preifatrwydd


Bydd Cyngor Sir Y Fflint yn defnyddio’r wybodaeth byddwch yn ei rhoi ar y ffurflen hon, ac unrhyw dystiolaeth ategol y byddwch yn ei ddarparu er mwyn asesu eich rhwymedigaethau o ran Ardrethi Annomestig. Mae hyn yn angenrheidiol o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a'r holl reoliadau perthnasol eraill sy’n ymwneud ag asesiad Ardrethi Annomestig.

Byddwn yn cadw eich data dros y cyfnod y byddwch yn atebol i dalu Ardrethi Annomestig ac am gyfnod o 7 mlynedd wedi i'ch rhwymedigaeth i dalu Ardrethi Annomestig ddod i ben.

Mae’n bosib y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda gwasanaethau eraill y Cyngor er mwyn sicrhau bod ein cofnodion yn gyfredol, er mwyn gwella safon y gwasanaethau rydym yn eu darparu, ac i berfformio unrhyw un o'n dyletswyddau statudol, gan gynnwys dyletswyddau gorfodi.

Efallai y bydd Cyngor Sir y Fflint yn gwirio’r wybodaeth rydych wedi'i darparu, neu wybodaeth amdanoch chi y mae rhywun arall wedi’i darparu, â gwybodaeth arall sydd gennym. Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth amdanoch gan drydydd parti, neu yn rhoi gwybodaeth iddynt er mwyn:

  • sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir
  • atal neu ganfod troseddau
  • asesu neu gasglu unrhyw dreth neu unrhyw ardrethi
  • diogelu arian cyhoeddus.

Ni fyddwn yn rhoi gwybodaeth amdanoch i unrhyw un arall, na’n defnyddio gwybodaeth amdanoch chi at ddibenion eraill, oni bai fod y gyfraith yn caniatáu hynny.

Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113

I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, gweler yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan - https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx