Alert Section

Cronfa Gweithwyr Llawrydd Cyngor Sir Y Fflint


Grant yw hwn i roi cymorth ariannol i weithwyr llawrydd yn y sectorau diwylliannol a chreadigol sy'n wynebu heriau ariannol o ganlyniad i COVID-19.

Diben y grant yw cefnogi gweithwyr llawrydd yn y sectorau diwylliannol a chreadigol sy'n wynebu heriau ariannol yn y cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021. Mae'r grant yn ceisio ategu mesurau eraill i gynorthwyo sefydliadau a busnesau yng Nghymru i ymateb i COVID yn rhan o'r Gronfa Adferiad Diwylliannol.

Dyma'r meini prawf ar gyfer y grant:

  • Yn wynebu heriau ariannol yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021;
  • Gweithwyr llawrydd proffesiynol y mae gan eu gwaith ganlyniadau creadigol/diwylliannol uniongyrchol, sy'n gweithio yn y pedwar is-sector allweddol;
    • Y Celfyddydau
    • Diwydiannau Creadigol
    • Digwyddiadau Celfyddydol a Threftadaeth
    • Diwylliant a Threftadaeth
  • Rhaid eich bod yn gweithredu yng Nghymru;
  • Rhaid i chi fod wedi'ch lleoli o fewn yr awdurdod lleol yr ydych yn gwneud cais iddo.

Nid ydych yn gymwys i gael y grant hwn os yw un o’r canlynol yn wir:

  • Rydych, yn ddiweddar, wedi cael arian gan y Grant Cychwyn Busnes a lansiwyd ym mis Mehefin 2020 i helpu busnesau newydd i oroesi canlyniadau economaidd y coronafeirws (Covid-19);
  • Rydych chi'n weithiwr llawrydd sy'n gweithio yn y sector chwaraeon.

Mae'r cyllid hwn yn benodol ar gyfer is-sectorau a swyddi creadigol/diwylliannol sydd wedi cael eu gorfodi i roi'r gorau i weithio a/neu ei chael hi’n anodd ail-ddechrau oherwydd effaith cyfyngiadau Covid-19. Ni ddylai'r rhai hynny sydd mewn swyddi sydd wedi gallu parhau ar lefelau blaenorol neu’n agos at weithgarwch blaenorol gyda neu heb gymorth (e.e. penseiri, dylunwyr graffig, dylunwyr gemau ac ati) wneud cais.

I gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn darllenwch ganllawiau'r Gronfa Gweithwyr  Llawrydd.

Os ydych wedi darllen y canllawiau, yn gymwys i gael y grant ac yn dymuno gwneud cais llenwch yr holl feysydd y gofynnwyd amdanynt ar y ffurflen gais ar-lein.

Mae'r Gronfa Gweithwyr Llawrydd yn agored i geisiadau o 5 Hydref 2020. Er mwyn rhoi digon o amser i weithwyr llawrydd wneud cais byddwn yn rhannu'r gronfa'n ddau gam, gyda Cham 1 yn gweithredu am gyfnod byr, ac yna'n cael ei ddilyn yn fuan wedyn gan ail gam. Mae grant o £2,500 ar gael fesul unigolyn a bydd ceisiadau'n cael eu trin ar sail y cyntaf i'r felin. Gall hyn arwain at beidio â gwerthuso ceisiadau ar ôl iddynt gael eu cyflwyno os yw'r gronfa wedi'i hymrwymo'n llawn.