Cyngor Sir y Fflint
Partneriaethau
- Rydych chi yma:
- Hafan
- Iechyd a gofal cymdeithasol
- Gofal cartref
Gofal cartref
Mae poeni am sut y byddem yn ymdopi i fyw yn ein cartrefi pe baem yn sâl, yn anabl neu’n hŷn yn beth cyffredin.
Gall ddod yn anodd iawn gwneud pethau syml bob dydd fel gwisgo, golchi, coginio a siopa.
Yn y gorffennol, roedd pobl a oedd angen rhywfaint o help yn tueddu i gael eu hannog i symud i gartref gofal preswyl.
Mae pethau’n dechrau newid a bellach mae pobl yn llawer mwy tebygol o gael help i aros yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag sy’n bosibl.
Yng Ngwasanaeth Cymdeithasol i Oedolion Sir y Fflint, rydym eisoes yn helpu dros fil o bobl trwy drefnu gwasanaethau gofal cartref gan ein staff ein hunain neu gan staff sefydliadau eraill.
Mae'r ffeil PDF atodedig yn rhoi manylion cyswllt sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau gofal i bobl yn eu cartrefi eu hunain.
Gwasanaethau Gofal yn eich cartref eich hun (PDF.doc 97KB ffenestr newydd)
Mae hefyd yn anelu at ateb rhai cwestiynau sylfaenol ynglŷn â sut i gael gwasanaeth, pwy sy’n talu a’r safonau y dylech eu disgwyl. Gobeithio y bydd o ddefnydd i chi.
Os hoffech siarad gyda rhywun am eich anghenion penodol, ffoniwch Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ar 01352 702000.
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NN.
Sgipio llywio
Darpariaeth help
Gwrandewch ar y wefan
Fersiwn symudol


