Cyngor Sir y Fflint
Partneriaethau
- Rydych chi yma:
- Hafan
- Gwasanaethau
- Yr amgylchedd a chynllunio
- Hawliau tramwy cyhoeddus
- Cynllun gwella hawliau tramwy
Cynllun gwella hawliau tramwy
Dogfen strategol yw’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) a fydd yn helpu’r Awdurdod I reoli’i rwydwaith hawliau tramwy. Mae’r Cynllun yn gosod allan sut mae Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu gwella’r rhwydwaith hawliau tramwy a gwella rheolaeth y gwasanaeth Hawliau Tramwy.
Pam fod angen CGHT?
Yn unol ag Adran 60 Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CROW) 2000, rhaid i bob Awdurdod Priffyrdd Lleol gynhyrchu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) ar gyfer eu hardaloedd. Cefnogir y ddeddfwriaeth ymhellach gan Ganllaw Statudol a ddosbarthwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae angen i’r Cynllun Gwella gynnwys y prif elfennau sef:
- asesiad o’r rhwydwaith; a
- datganiad o weithredoedd.
Defnyddiwch y ddolen isod I weld gwybodaeth bellach os gwelwch yn dda:
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2008 (PDF 1.4MB ffenestr newydd)
Yn ôl Adrannau 60(3) a (4) y Ddeddf CROW, rhaid i’r Awdurdod asesu, adolygu a newid eu CGHT o fewn deng mlynedd ar ôl ei gyhoeddi gyntaf, os oes angen. Rhaid gwneud hynny o leiaf bob deng mlynedd ar ôl hynny hefyd.
Rhagor o wybodaeth
Ffôn: 01352 706412
Cyflwynwch ymholiad ar-lein i'r gwasanaeth hwn (bydd hyn yn agor e-ffurflen), neu
Ysgrifennwch at: Gwasanaethau Rheoleiddio Priffyrdd a Chludiant Yr, Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd, Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NF.
Sgipio llywio
Darpariaeth help
Gwrandewch ar y wefan
Fersiwn symudol


