Sgipio llywioSgipio llywio Darpariaeth helpDarpariaeth help Gwrandewch ar y wefanGwrandewch ar y wefan Fersiwn symudolFersiwn symudol
a  a  a     

Adfywio


Mae’r gwasanaeth yn chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o gefnogi a datblygu economi leol gref, un sy’n ddeinamig ac yn gallu ymdopi â newidiadau allanol.  Byddwn yn parhau i helpu busnesau lleol, yn cynorthwyo pobl i ddod o hyd i waith ac yn helpu i wneud Sir y Fflint yn lleoliad atyniadol i fuddsoddi ynddo.

Mae’r gwasanaeth yn canolbwyntio mwy a mwy ar ddatblygu dulliau cyfannol o adnewyddu ardaloedd lleol, gan gysylltu gwelliannau i dai â buddsoddi yn yr amgylchedd, ac mewn pobl leol, trwy adeiladu capasiti, datblygu hyfforddiant a sgiliau.  Mae llawer o bobl yn cael gwaith mewn ffyrdd anghonfensiynol.  Yn unol â hynny, byddwn yn annog datblygiad mentrau cymdeithasol a marchnadoedd llafur canolraddol fel ffyrdd amgen i bobl gael gwaith a chael eu cynnwys yn y gymdeithas.

Gwybodaeth yn yr adran hon
Prosiect sy’n cael ei weithredu o dan Gynllun Busnes 2 Echel 3 Cynllun Datblygu Gwledig (CDG) Cymru 2007-2013 yw Cysylltu Cymunedau Sir y Fflint. Dechreuodd ym mis Mawrth 2011 a daw i ben ym mis Rhagfyr 2013. Bydd y prosiect yn hyrwyddo amcanion amgylcheddol, cymdeithasol a chynaliadwyedd economaidd, yn arbennig o ran trafnidiaeth a newid hinsawdd, cydlyniant cymdeithasol a chysylltedd a thrwy gynyddu a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer twristiaeth yng nghefn gwlad Sir y Fflint. Bydd y prosiect hwn yn ychwanegu’n bositif at fentrau gwledig eraill, gan gynnwys Ride the Clwyds, Llwybr Arfordir Cymru Gyfan a Llwybr Arfordirol y Dyfrdwy (llwybr beicio).

A-Y

Manylion cyswllt mewn argyfwng

  • Argyfyngau y tu allan i oriau gwaith: 01352 752121
  • Priffyrdd: 01352 701234
  • Tai ac eiddo: 0845 373 3665
  • Gwasanaethau cymdeithasol: 0845 0533116
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau lleol

Manylion cyswllt

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Neuadd y Sir
  • Yr Wyddgrug
  • Sir y Fflint
  • CH7 6NB
  • Ffôn: 01352 752121

Tudalennau Poblogaidd