Sgipio llywioSgipio llywio Darpariaeth helpDarpariaeth help Gwrandewch ar y wefanGwrandewch ar y wefan Fersiwn symudolFersiwn symudol
a  a  a     

Dod atoch eich hun ar ôl trychineb


Mae’r cyfnod o ddod atoch eich hun yn dechrau ar unwaith pan fo’r bygythiad gwaethaf wedi cilio. Byddwch yn awyddus i ailgydio mewn bywyd fel ag yr oedd, er mewn gwirionedd ni fydd bywyd yr un fath yn dilyn trychineb sylweddol. Un o nodweddion eich bywyd arferol wedyn yw’r effaith a gaiff trychineb o’r fath arnoch chi, eich teulu a’ch cymuned. Bydd swyddogion yr Awdurdod Lleol yn gwneud eu gorau glas i adfer y bywyd yr oeddech yn ei ddilyn o’r blaen cyn gynted â phosib. Serch hynny, mae gennych chi gyfrifoldebau o ran rhai agweddau ar eich bywyd, yn enwedig eich iechyd a’ch eiddo.

Yn dilyn trychineb, iechyd a diogelwch eich teulu yw'ch blaenoriaeth:

  • Gofalwch rhag peryglon newydd yn sgil y trychineb, megis ffyrdd wedi difrodi, adeiladau wedi eu halogi, dwr wedi’i halogi, nwy’n gollwng, gwydr yn deilchion, gwifrau trydan wedi hollti, lloriau llithrig ac ati.
  • Peidiwch â blino gormod, ac na cheisiwch wneud gormod ar unwaith. Penderfynwch ar eich blaenoriaethau a’u cyflawni o fewn amser call.
  • Yfwch digon o ddwr glân. Bwytwch yn gall, a gofalu bod eich corff yn cael digon o orffwys.
  • Gwisgwch esgidiau cadarn a menig gwaith trwchus pan fyddwch yn clirio rwbel, a gofalwch olchi’ch dwylo’n aml a thrylwyr gyda dwr glân a sebon, yn enwedig os ydych yn trin dwr llifogydd.
  • Rhowch wybod i’r Awdurdod Lleol neu’r Gwasanaethau Brys pan ddaw peryglon Iechyd a Diogelwch i’ch sylw, megis cemegau’n gollwng, gwifrau trydan wedi dymchwel, ffyrdd wedi difrodi, deunydd inswleiddio’n mudlosgi, nwy’n gollwng neu anifeiliaid wedi marw.

Dychwelyd i’ch cartref

  • Gall dychwelyd i’ch cartref pan fo wedi difrodi fod yn brofiad anodd iawn, yn gorfforol a meddyliol. Byddwch yn ofalus da chi.
  • Gwisgwch esgidiau cadarn a menig gwaith trwchus.
  • Cerddwch yn ofalus o amgylch y ty cyn mynd i mewn iddo, rhag bod gwifrau trydan wedi cwympo, nwy’n gollwng neu furiau’r ty wedi difrodi. Os digwydd ichi arogli nwy peidiwch â mynd i’r ty: ewch oddi yno ar unwaith.
  • Os yw tân wedi difrodi’ch eiddo, peidiwch â mynd i mewn hyd nes y bo’r awdurdodau wedi cadarnhau ei bod yn ddiogel gwneud hynny.
  • Gofalwch rhag bod holltau yn y to, y muriau a’r simneiau. Os yw’n debygol y gallai’r eiddo gwympo ewch allan ar unwaith.
  • Y modd gorau o archwilio’r ty os yw wedi difrodi yw gyda fflachlamp. GAIR O GYNGOR: Trowch y fflachlamp ymlaen y tu allan i’r ty, oherwydd os yw nwy’n gollwng yn y ty gallai ffrwydro oherwydd gwreichion a allai ddigwydd wrth droi fflachlamp ymlaen. Peidiwch â thanio tân agored yn y ty os tybiwch fod nwy’n gollwng.
  • Os diffoddwyd eich cyflenwad nwy cyn ichi symud o’r ty yn dilyn argyfwng, mae’n rhaid ichi drefnu bod gweithiwr proffesiynol yn ei droi ymlaen ac yn profi’r systemau nwy cyn ichi eu defnyddio.
  • Os ydych yn oglau nwy neu’n clywed swn hisian, ewch allan o’r ty ar unwaith.
    Edrychwch ar eich holl offer trydanol. Os ydynt yn wlyb bydd yn rhaid trefnu i drydanwr proffesiynol eu profi cyn eich bod yn eu defnyddio.
  • Agorwch ffenestri a drysau’r ty er mwyn i’r aer symud trwyddo. Os ydych wedi defnyddio’r ty i gysgodi mae angen aer ffres i gael gwared ar y nwyon sydd wedi cronni yno o bosib.
  • Gofalwch eich bod yn cael gwared ar fwydydd ffres, meddyginiaethau a deunydd cosmetig a halogwyd gan lifogydd.
  • Gofalwch eich bod yn diheintio teganau a halogwyd gan lifogydd cyn caniatáu i’ch plant eu defnyddio.
  • Peidiwch â defnyddio dwr o’r tap hyd nes y bo’r Awdurdod Lleol neu’r Cwmni Dwr wedi cadarnhau ei bod yn ddiogel ichi wneud hynny: efallai ei fod wedi’i halogi.
  • Cysylltwch â’ch cwmni yswiriant cyn gynted ag y bo modd. Tynnwch lun y difrod, a chofnodi pris y gwaith trwsio a’r gwaith glanhau. Gofalwch rhag gweithwyr ffug sy’n ymddangos yn dilyn pob trychineb. Gofynnwch i’r cwmni adeiladu etc. am ddyfynbris: bydd y cwmni yswiriant yn mynnu copi cyn ystyried eich cais. Gofalwch bod y dyfynbris wedi’i ysgrifennu ar bapur swyddogol sy’n cynnwys rhif ffôn (nid ffôn symudol!) a chyfeiriad sy’n hysbys ichi. Peidiwch â thalu rhag llaw, a gofalwch fod y gwaith wedi’i orffen yn foddhaol cyn talu. Cofiwch gael derbynneb gan y gweithiwr pan fyddwch yn talu. Os ydych yn bryderus, ceisiwch gyngor gan staff adran Safonau Masnach eich Awdurdod Lleol.

Ymdopi â thrychinebau

Mae trychineb yn siwr o effeithio arnoch o ran straen cyffredinol a straen meddyliol. Peidiwch â dioddef yn dawel, heb ofyn am gymorth. Gofalwch yn arbennig am eich plant: nid ydynt wastad yn arddangos cymaint y maent yn dioddef, a daw’r effaith i’r golwg maes o law yn aml iawn.

Dyma’r arwyddion a ddaw i’r amlwg pan fydd rhywun mewn trafferth, gan gynnwys chi eich hun:

  • Trafferth cyfleu eich syniadau
  • Trafferth cysgu
  • Trafferth cadw’ch cydbwysedd
  • Teimlo’n rhwystredig yn hawdd
  • Gwylltio’n hawdd
  • Yfed mwy o alcohol, defnyddio mwy o gyffuriau
  • Tethu â chanolbwyntio
  • Safon ei g/waith yn dioddef
  • Cur pen / problemau stumog
  • Gwelediad twnnel / clyw diffygiol
  • Annwyd neu symptomau ffliw
  • Dryslyd
  • Trafferth canolbwyntio
  • Yn anfodlon gadael y ty
  • Iselder a thristwch
  • Anobaith llwyr
  • Oriog, ac yn wylo’n ddidrafferth
  • Yn teimlo’n euog aruthrol, gan amau ei hun
  • Yn ofni torfeydd a dieithriaid, ac ofn bod ar ei b/phen ei hun


  • Mae trychinebau’n peri i bobl a phlant, yn enwedig plant, deimlo’n ofnus, dryslyd ac ansicr. Mae’n bwysig eich bod yn paratoi rhieni ac athrawon ar gyfer ymdrin â’r symptomau uchod os dônt i’r amlwg. Mae rhaglenni teledu byw sy’n dangos trychineb neu sefyllfa argyfyngus yn digwydd hefyd yn debygol o effeithio ar blant.
  • Mae rhai plant yn arddangos symptomau straen yn fuan iawn yn dilyn y digwyddiad, ac eraill yn ymddangos yn holliach am wythnosau lawer cyn i’r symptomau ymddangos.
  • Pan fo plant yn dioddef trawma, rhaid yw eu cysuro yn fwy na dim. Mae angen eu cofleidio’n aml, a thawelu eu meddyliau ar lafar.
  • Atebwch eu cwestiynau’n onest, ond gofalwch rhag manylu’n ddiangen, a gofalwch rhag i’r mater fod y prif lwnc llosg ym mywyd y teulu byth a beunydd.
  • Ceisiwch gymell y plant i fynegi eu teimladau trwy sgwrsio, tynnu llun neu helpu eraill a ddioddefodd yn sgil yr un trychineb.
  • Os hoffech gyngor, cysylltwch ag adran Gwasanaethau Plant eich Awdurdod Lleol, neu athro/athrawes eich plentyn/plant.
  • Gofalwch fod trefn eich bywyd cartref yr un fath ag arfer.
  • Anogwch eich plant i fod â rhan mewn digwyddiadau’r byd hamdden chwaraeon.
  • Dros dro, peidiwch â phwyso’ch plentyn o ran llwyddiant yn yr ysgol a’i h/ymddygiad gartref.

A-Y

Manylion cyswllt mewn argyfwng

  • Argyfyngau y tu allan i oriau gwaith: 01352 752121
  • Priffyrdd: 01352 701234
  • Tai ac eiddo: 0845 373 3665
  • Gwasanaethau cymdeithasol: 0845 0533116
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau lleol

Manylion cyswllt

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Neuadd y Sir
  • Yr Wyddgrug
  • Sir y Fflint
  • CH7 6NB
  • Ffôn: 01352 752121

Tudalennau Poblogaidd