Sgipio llywioSgipio llywio Darpariaeth helpDarpariaeth help Gwrandewch ar y wefanGwrandewch ar y wefan Fersiwn symudolFersiwn symudol
a  a  a     

Tywydd crasboeth


Gall oerfel eithriadol fod yn farwol. Mae gwres eithriadol yr un fath, yn trethu’r corff y tu hwnt i’r hyn y gall ei ddioddef. Y rhesymau pennaf pam mae pobl a phlant yn dioddef oherwydd gwres yw eu bod wedi bod allan ynddo'n rhy hir, neu wedi wybod yn ymarfer y corff yn rhy egnïol o ystyried eu hoed a chyflwr eu corff. Y rhai sydd fwyaf tebygol o ddioddef effeithiau tywydd crasboeth yw’r henoed, plant ifanc, pobl sy’n sâl, neu'n pwyso gormod. Dyma ddylech chi ei wneud i wrthsefyll tywydd crasboeth:

  • Arhoswch dan do cymaint â phosib
  • Os nad ydych wedi gosod system awyru yn eich cartref, arhoswch ar y llawr isaf,  o olwg yr haul.
  • Cofiwch nad yw ffan drydan yn oeri’r ystafell: ei gwaith yw chwythu aer poeth o amgylch yr ystafell.
  • Bwytwch brydau bwyd cytbwys ac ysgafn yn rheolaidd. Peidiwch â llyncu tabledi halen oni bai bod eich meddyg wedi eich cynghori i wneud hynny.
  • Yfwch ddigon o ddwr yn rheolaidd, hyd yn oed pan na fyddwch yn sychedig. (Dylai’r rhai sy’n dioddef epilepsi neu anhwylder yn ymwneud â’r galon, yr arennau neu’r iau, y rhai â diet sy’n cynnwys diodydd penodol, neu’r rhai sy’n cael trafferth cadw hylif yn y corff ymgynghori â meddyg cyn yfed mwy o ddwr nag arfer).
  • Peidiwch ag yfed gormod o alcohol, gan fod alcohol yn sychu’r corff.
  • Peidiwch â gadael plant ac anifeiliaid anwes ar eu pen eu hunain mewn cerbyd caeedig.
  • Gwisgwch ddillad llac, gan orchuddio gymaint o’r corff â phosib.
  • Gwisgwch het lydan sy’n amddiffyn eich wyneb a’ch pen.
  • Peidiwch ag aros yn llygad yr haul am gyfnodau hir. Defnyddiwch eli haul SPF15 neu gryfach.
  • Ceisiwch osgoi gwaith egnïol yn ystod cyfnod poethaf y dydd, a pheidiwch â gweithio ar eich pen eich hun mewn gwres eithriadol os yw'n bosibl. Manteisiwch ar seibiant rheolaidd pan fyddwch yn gweithio mewn gwres.
  • Gofalwch fod  perthnasau a ffrindiau bregus, fel pobl oedrannus, yn iawn.
  • Porwch trwy lyfrau Cymorth Cyntaf i gael gwybodaeth ynglyn â llosg haul, cramp gwres, lludded gwres neu drawiad gwres, a pharatowch ar gyfer cynorthwyo’r dioddefwyr.

 

A-Y

Manylion cyswllt mewn argyfwng

  • Argyfyngau y tu allan i oriau gwaith: 01352 752121
  • Priffyrdd: 01352 701234
  • Tai ac eiddo: 0845 373 3665
  • Gwasanaethau cymdeithasol: 0845 0533116
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau lleol

Manylion cyswllt

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Neuadd y Sir
  • Yr Wyddgrug
  • Sir y Fflint
  • CH7 6NB
  • Ffôn: 01352 752121

Tudalennau Poblogaidd