Sgipio llywioSgipio llywio Darpariaeth helpDarpariaeth help Gwrandewch ar y wefanGwrandewch ar y wefan Fersiwn symudolFersiwn symudol
a  a  a     

Gorfodaeth achub rhag tân i fusnesau


Daeth y Gorchymyn Arolygu Rheoleiddio (diogelwch tân) 2005 (“y Gorchymyn diogelwch tân”) yn gyfraith ar 1af Hydref 2006, yn lle 118 darn o ddeddfwriaeth – gan gynnwys deddf gwarchod rhag tân 1971 – ac i gymryd lle rheoliadau gwarchod rhag tân (yn y gweithle) 1997.

 

Mae’r Gorchymyn Diogelwch Tân yn rhoi cyfrifoldeb am sicrhau bod adeiladau yn ddiogel i gyflogedig, cwsmeriaid ac unrhyw un arall sy’n gyfreithiol bresennol a’r “bobl gyfrifol.”  Mae gan “y bobl gyfrifol” ddyletswydd i gymryd y mesurau angenrheidiol a nodir trwy asesu risg o dân. Hyd yn oed os na chwblhawyd asesiad risg o dân rhaid i’r person cyfrifol gynnal a chadw a phrofi’r mesurau diogelwch tân sy’n bod.

 

Fe all ein swyddogion diogelwch tân archwilio trefniadau diogelwch tân yr adeilad, archwilio cofnodion ac unrhyw ddogfen berthnasol arall am unrhyw adeilad. Ar ôl yr archwiliad rhoddir gwybod i’r person cyfrifol, yn ysgrifenedig, am y canlyniad. Os oes unrhyw bryder am hyn gall y swyddogion archwilio ddefnyddio eu pŵer i orfodi gwelliannau sef: addysgu a gwybodaeth (trafod cynlluniau gweithredu); rhoi rhybudd am ddiffyg, rhybudd addasu, rhybudd gorfodi neu rybudd gwahardd; ac os bydd angen, erlyn yn y llysoedd.

Beth i'w wneud :

  • Rhoi gwybod i’ch staff beth i’w wneud os digwydd tân
  • Gwneud yn siŵr eu bod yn gyfarwydd hefo’r dril tân a’r llwybr osgoi tân. Dylai’r trefniadau hyn gynnwys dangos y ffordd i gwsmeriaid neu bobl eraill sydd yn yr adeilad.
  • Profi eich larwm tân yn wythnosol a rhoi gwasanaeth iddo o leiaf unwaith bob blwyddyn gan beiriannydd cymwys.
  • Cadw cofnodion o’r profiad a’r gwaith atgyweirio a wnaed
  • Gwneud asesiad risg tân o’ch adeilad a sicrhau eich bod yn cadw at y canlynol:
    • Peidio atal pen peiriannau sbrinclo a chlychau tân
    • Osgoi storio gwastraff a pallets pren mewn dull anniogel : gwagio biniau’n rheolaidd
    • Cadw cynhwysyddion gwastraff yn ddigon pell o adeiladau
    • Os yn bosibl osgoi fflamau agored. Gwarchod popeth all gynnau tân
    • Storio hylifau fflamadwy yn ôl y rheoliadau.
    • Cynnal a chadw offer a pheiriannau hyd safon da
    • I gael mwy o wybodaeth dewiswch o’r dolenni canlynol:






 

 

A-Y

Manylion cyswllt mewn argyfwng

  • Argyfyngau y tu allan i oriau gwaith: 01352 752121
  • Priffyrdd: 01352 701234
  • Tai ac eiddo: 0845 373 3665
  • Gwasanaethau cymdeithasol: 0845 0533116
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau lleol

Manylion cyswllt

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Neuadd y Sir
  • Yr Wyddgrug
  • Sir y Fflint
  • CH7 6NB
  • Ffôn: 01352 752121

Tudalennau Poblogaidd