Sgipio llywioSgipio llywio Darpariaeth helpDarpariaeth help Gwrandewch ar y wefanGwrandewch ar y wefan Fersiwn symudolFersiwn symudol
a  a  a     

Cynlluniau Ymateb i Argyfwng


Mae gan y Cyngor gynlluniau argyfwng sydd wedi'u seilio ar ddeddfwriaeth a'r gofrestr Risg Gymuned i'w helpu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i ddigwyddiadau argyfyngus mawr.

Mae Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 200 (a'r rheoliadau a'r canllawiau cysylltiedig) yn rhoi cyfres o ddyletswyddau ar awdurdodau lleol i ofalu bod cynlluniau effeithiol i baratoi ar gyfer argyfyngau wedi'u cynhyrchu. Os bydd argyfwng yn digwydd, rhaid i'r awdurdod lleol fedru ymateb i helpu pobl ac eiddo ac i gynnal ei wasanaethau .

Mae'r cyfrifoldebau'n cynnwys:

  • Bod yn barod i ymateb yn briodol mewn argyfwng - yn ystod y digwyddiad ac wedyn ;
  • Rhybuddio a rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd;
  • Parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r cyhoedd mewn argyfwng 
  • Cydweithio â'r gwasanaethau brys, awdurdodau cyfagos ac asiantaethau eraill drwy Fforwm Lleol Cymru Gydnerth  .

Fforwm Lleol Cymru Gydnerth sy'n llunio polisïau ac sy'n gyfrifol am baratoi'r Gofrestr Risg Gymunedol ar sail y prif ddigwyddiadau peryglus a allai ddigwydd yng Ngogledd Cymru. Mae cynllun argyfwng Sir y Fflint wedi'i seilio ar faint a natur y peryglon.  Os hoffech ragor o wybodaeth am y Gofrestr Risg Gymunedol cliciwch yma i fynd i wefan Heddlu Gogledd Cymru ac i lawrlwytho'r gofrestr. Caiff cynlluniau argyfwng eu paratoi mewn ymgynghoriad ag aelodau Fforwm Lleol Cymru Gydnerth a chânt eu hadolygu bob blwyddyn. Cânt hefyd eu hymarfer ar liniaduron neu drwy greu sefyllfaoedd.

Mae Don Norris, y Rheolwr Argyfyngau Sifil Posibl a'r tîm sy'n paratoi cynlluniau argyfwng yn aelodau o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth a'r tasglu ynghyd â'r cyrff a restrir isod:

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Heddlu Gogledd Cymru 
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Cymru 
  • Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau
  • Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol
  • Y fyddin
  • Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
  • Tîm Gwrthsefyll Rhanbarthol  
  • Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru gan gynnwys Wrecsam, Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn .


A-Y

Manylion cyswllt mewn argyfwng

  • Argyfyngau y tu allan i oriau gwaith: 01352 752121
  • Priffyrdd: 01352 701234
  • Tai ac eiddo: 0845 373 3665
  • Gwasanaethau cymdeithasol: 0845 0533116
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau lleol

Manylion cyswllt

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Neuadd y Sir
  • Yr Wyddgrug
  • Sir y Fflint
  • CH7 6NB
  • Ffôn: 01352 752121

Tudalennau Poblogaidd