Sgipio llywioSgipio llywio Darpariaeth helpDarpariaeth help Gwrandewch ar y wefanGwrandewch ar y wefan Fersiwn symudolFersiwn symudol
a  a  a     

Uned Chwarae


Sir Y Fflint

‘HAWL POB PLENTYN’

Cyngor Sir y Fflint – Tîm yr Uned Chwarae

Rydym yn dîm ymroddedig sy’n gweithio yn is-adran y Gwasanaethau Hamdden.  Mae gennym gyfoeth o brofiad, yn arbennig o gyflawni llwyddiant trwy weithio mewn partneriaethau i ddarparu cyfleoedd chwarae.

Rheolwr yr Uned Chwarae - 01352 702469

Swyddog Datblygu Chwarae – 01352 702456

Swyddog Dylunio Chwarae – 01352 702466

Swyddog Datblygu Chwaraeon ar Olwynion – 01352 702483

  • Strategaeth Chwarae Sir y Fflint
  • Tîm Arweiniol y Prosiect Chwarae
  • Tîm Gwaith Chwarae Cymunedol
  • Tîm cynnal a chadw ac arolygu ardaloedd chwarae cyfarparedig
  • Tîm Bydis
  • Tîm Gwaith Chwarae’r Haf

Sir y Fflint yw’r unig awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu rhaglen cynlluniau chwarae ledled y sir yn ystod yr haf, ar y cyd â Chynghorau Tref a Chymuned a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cyfleoedd Chwarae Cynhwysol

Yn Sir y Fflint rydym yn ymroddedig i ddarparu cyfleoedd i bob plentyn.  Rydym yn cymryd camau i oresgyn rhwystrau i alluogi plant anabl a phlant nad ydynt yn anabl i chwarae gyda’i gilydd.  2010 oedd y chweched flwyddyn i Gynllun Bydis Sir y Fflint, sef rhan annatod o ddarpariaeth Cynlluniau Chwarae’r Haf.  Mae’r cynllun hwn wedi galluogi’r Uned Chwarae i gydweithio’n agos â phlant a’u teuluoedd i alluogi plant ag anableddau i gael mynediad at eu darpariaeth chwarae leol.  Mae ein holl weithwyr chwarae yn darparu cynlluniau chwarae cynhwysol i bob plentyn sy’n byw yn lleol.

Mae’r Uned Chwarae hefyd yn ymroddedig i weithio i greu mwy o gyfleoedd chwarae i ‘ofalwyr ifanc’ mewn partneriaeth â Barnardos a Family Matters, Sipsiwn a Theithwyr a hefyd plant nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg yn Sir y Fflint

Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth hwn cyflwynwch ymholiad (bydd hyn yn agor e-ffurflen)

Gwybodaeth yn yr adran hon

Gwybodaeth ddefnyddiol

Dolenni i wefannau allanol

Nid yw Sir y Fflint yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

A-Y

Manylion cyswllt mewn argyfwng

  • Argyfyngau y tu allan i oriau gwaith: 01352 752121
  • Priffyrdd: 01352 701234
  • Tai ac eiddo: 0845 373 3665
  • Gwasanaethau cymdeithasol: 0845 0533116
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau lleol

Manylion cyswllt

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Neuadd y Sir
  • Yr Wyddgrug
  • Sir y Fflint
  • CH7 6NB
  • Ffôn: 01352 752121

Tudalennau Poblogaidd