Sgipio llywioSgipio llywio Darpariaeth helpDarpariaeth help Gwrandewch ar y wefanGwrandewch ar y wefan Fersiwn symudolFersiwn symudol
a  a  a     

Gwasanaethau Stryd

  • Rydych chi yma:
  • Hafan
  • Mapio rhyngweithiol

Mapio rhyngweithiol


Mae system mapio Sir y Fflint Rhyngweithiol, a ddarperir gan PlanAccess, yn cynnig amrywiaeth o ‘themâu’ o ddata’r awdurdod lleol e.e. ysgolion uwchradd, swyddfeydd y cyngor, deintyddion, a mannau o ddiddordeb lleol. 

Os ydych chi’n gyfarwydd â chymwysiadau mapio ar y we neu os ydych chi wedi defnyddio’r gwasanaeth hwn o’r blaen, gallwch ddechrau defnyddio pecyn Mapiau Rhyngweithiol gan ddewis un o’r canlynol:

Example screenshot of Interactive Mapping

Os hoffech ganllawiau i ddefnyddio Mapiau Rhyngweithiol, dewiswch un o’r canlynol:


Beth yw mapio rhyngweithiol?


Gellir meddwl amdano fel map sydd wedi’i gynhyrchu gan gyfrifiadur ond un gwahaniaeth pwysig yw ei fod yn rhyngweithiol sy'n golygu y gall defnyddwyr symud o amgylch y mapiau a holi rhai haenau o'r wybodaeth mapio a gyflwynir.  Mae Mapiau Rhyngweithiol yn caniatáu i chi weld mapiau Arolwg Ordnans a haenau o fapiau  a ddarperir gan feysydd gwasanaeth Cyngor Sir y Fflint. Themâu yw’r enw a roddir ar yr haenau hyn o fapiau.


Pa fath o wybodaeth sydd ar gael?


Mae gwahanol themâu ar gael a chânt eu rhannu o dan benawdau fel ‘Cyngor a Budd-daliadau’ a ‘Busnes’:

  • Swyddfeydd y Cyngor
  • Ysgolion Uwchradd
  • Gorsafoedd Rheilffordd
  • Clybiau Ieuenctid
  • Pyllau Nofio
  • Canolfannau Hamdden
  • Ysgolion Arbennig
  • Marchnadoedd
  • Canolfannau

Os ydych yn credu bod unrhyw gyfeiriad neu ddata ar y Mapiau Rhyngweithiol yn anghywir, neu fod angen eu diweddaru, cysylltwch â thîm Rhestr Tir ac Eiddo Lleol  rhtell@siryfflint.gov.uk

 

Canllawiau ar Fapiau Rhyngweithiol

 

Chwilio am gyfeiriad

  1. Rhowch y cod post, enw’r lle neu’r cyfeiriad a chliciwch ar ‘chwilio’. Cewch restr o ganlyniadau a drwy glicio ar ganlyniad cewch fap sy’n dangos y cyfeiriad rydych yn chwilio amdano.
  2. Gallwch weld y cyfeiriadau diweddaraf rydych wedi chwilio amdanynt drwy ddewis hwn
  3. Dewiswch 'Chwiliwch am yr agosaf' i weld y wybodaeth map agosaf at y cyfeiriad rydych wedi’i ddewis.

Eglurhad

  1. Drwy glicio ar gategori, cewch weld y themâu sydd wedi’u cynnwys ynddo, a chewch ddewis gweld y rhain ai peidio drwy glicio ar y bwlch dewis. Bydd y map yn cael ei ddiweddaru’n ôl eich dewis chi. Gallwch weld y themâu yn ôl y symbol sy’n gysylltiedig â’r eglurhad ar y map

 

Botymau rheoli’r mapiau

  1. Gallwch chwyddo a lleihau’r mapiau drwy ddefnyddio’r botymau priodol. Neu, gallwch glicio ar botwm dde’r llygoden wrth edrych ar y map a dewis i’w chwyddo neu ei leihau
  2. Gallwch symud i’r dde, i’r chwith, mynd i fyny ac i lawr dryw ddewis y botymau â saeth. Neu, gallwch edrych ar y map a chlicio botwm chwith y llygoden a llusgo’r map i unrhyw gyfeiriad.
Oes yna unrhyw broblemau’n gyslltiedig â Mapiau Rhyngweithol?


Bydd Mapiau Rhyngweithiol yn gweithio yn y rhan fwyaf o borwyr gwe fel Internet Explorer, Firefox a Chrome. Os ydych wedi diffodd Javascript yn eich porwr, bydd angen ei droi ymlaen eto.  
 

Gweld mapiau a mapio GIS


Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymwybodol o’r anawsterau sy’n wynebu pobl sydd â nam ar eu golwg neu ryw gyflwr arall pan fyddant yn ceisio gweld mapiau ar y wefan. Mae natur mapio rhyngweithiol ( y graffigwaith a’r lliwiau a ddefnyddir) ar hyn o bryd yn golygu nad yw’n bosibl sicrhau y bydd pawb yn gallu gweld y mapiau. Byddwn, fodd bynnag, yn gwneud ein gorau i ymchwilio i ffyrdd eraill o gyflwyno data’n ymwneud â mapiau.


Os hoffech ofyn cwestiwn, mynegi pryder neu gynnig awgrym am wefan Cyngor Sir y Fflint ewch i’r dudalen cysylltu â ni

 

Dolenni i wefannau allanol

  • Dolen Directgov Cymraeg ar gyfer dolenni ym mhrif fannau'r wefan

Nid yw Sir y Fflint yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

A-Y

Llywio drwy’r wefan

Manylion cyswllt mewn argyfwng

Holwch y Cyngor

Manylion cyswllt

Dolen allanol i www.gov.uk />
</a>   <a href= welshAssemblyLogo"" /> Dolen allanol - Get Safe Online Dolen allanol i Transport Direct Get More Out Of Life Online Gwefan Better Connected 2011 - Gradd 2 Seren

Tudalennau Poblogaidd