Rydych chi yma: Hafan > Pensiynwyr > Cwestiynau Cyffredin > A fydd gwerth fy muddion pensiwn yn cynyddu nawr fy mod yn derbyn y pensiwn?
A fydd gwerth fy muddion pensiwn yn cynyddu nawr fy mod yn derbyn y pensiwn?
Bydd, mae gwerth eich pensiwn blynyddol yn indecs-gysylltiol. Pennir cyfradd gynnydd pensiynau bob mis Medi a’u cymhwyso i’r pensiwn y mis Ebrill canlynol. Efallai na fydd codiad o gwbl os yw chwyddiant yn negyddol neu’n ddim y mis Medi blaenorol. Bydd codiadau pensiynau yn cael eu gosod gan Drysorlys EM.
Gwybodaeth yn yr adran hon
Oes, gall Cronfa Bensiynau Clwyd dalu eich pensiwn i gyfrif banc tramor trwy Xafinity Paymaster a fydd yn trosi eich arian i’r arian perthnasol. Sylwch fod Xafinity Paymaster yn codi £2.74 am bob trafodiad am y cyfleuster hwn.
Na. Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) sydd yn gweinyddu pensiwn henoed y Wladwriaeth. Medrant hwy roi gwybodaeth i chi am eich pensiwn henoed. Cysylltwch â’r DWP ar 0845 60 60 265.
Eich swyddfa dreth incwm, leol sy’n rhoi eich cod treth.
Seilir pensiynau ar aelodaeth a gronnwyd (pro rata i aelodau rhan-amser ac adeg tymor) a thâl cyfatebol llawn-amser adeg ymddeol.
Dylech. Mae Cronfa Bensiynau Clwyd yn anfon llythyrau newyddion, P60s a llythyrau am Godiadau Pensiwn bob blwyddyn.
Efallai y bydd grant marwolaeth yn daladwy i’ch Buddiolwyr neu eich Stad yn dibynnu ar yr amser y buoch yn bensiynwr.
Mae esboniad llawn yn adran ‘Isafswm Pensiwn Gwarantedig’ y wefan.
Telir eich pensiwn fel rheol ar y 28 o bob mis
Rhoddir eich P60 bob mis Mai.
Yr oedd gweithwyr a ddaeth i mewn i gynllun pensiwn galwedigaethol ar ôl 5 Gorffennaf 1948 yn destun addasiad i’w cynllun pensiwn.
Byddwch yn derbyn slip tâl yn unig os oes gwahaniaeth yng ngwerth eich pensiwn o £5 neu fwy.
Diweddarwyd: 7/14/10 2:09 PM
Cymraeg | English


