Gadael y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cyn ymddeol
Os ydych chi’n gadael eich swydd bresennol cyn ymddeol, mae nifer o ddewisiadau i chi o ran eich buddion pensiwn. Mae’r dewisiadau yn dibynnu am ba mor hir rydych chi wedi bod yn aelod o’r cynllun, a ph’un ai ydych chi wedi trosglwyddo aelodaeth o ddarparydd pensiwn blaenorol ai peidio.
Os ydych chi’n gadael gyda llai na 3 mis o aelodaeth yn y cynllun ac nad ydych wedi trosglwyddo unrhyw hawliau pensiwn blaenorol i Gronfa Bensiynau Clwyd, cewch ddewis un ai ad-daliad o’ch cyfraniadau pensiwn neu drosglwyddo i gynllun pensiwn arall.
Os oes gennych chi fwy na 3 mis o aelodaeth yn y cynllun (neu bod trosglwyddo buddion pensiwn blaenorol yn golygu bod gennych chi fwy na 3 mis o aelodaeth) cewch ddewis un ai gohirio eich buddion pensiwn tan oedran ymddeol neu drosglwyddo i gynllun pensiwn arall.


