skip navigation
Rydych chi yma: Hafan > Aelodau > Dewisiadau Ymddeol > Cynnydd yn eich Pensiwn

Cynnydd yn eich Pensiwn


Ar ôl  i chi droi'n 55 oed bydd cynnydd yn eich pensiwn bob blwyddyn yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr.  

Os ydych chi’n ymddeol ar sail salwch byddwch chi’n gymwys i’r cynnydd yma yn eich pensiwn ar unwaith, beth bynnag fo'ch oedran yn ymddeol. 

Gwybodaeth yn yr adran hon
Os oes gennych chi gyfanswm o 3 mis o aelodaeth o leiaf, neu eich bod chi wedi trosglwyddo pensiwn i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol sy’n cyfateb i hyn, cewch adael eich cyflogaeth yn wirfoddol a derbyn eich buddion pensiwn o unrhyw adeg o 60 oed ymlaen.
Os gofynnir i chi ymddeol neu os ydych chi’n cytuno i ymddeol ar sail effeithlonrwydd neu ddileu swydd, bydd gennych chi’r hawl i dderbyn taliad buddion heb eu cwtogi ar unwaith, cyn belled ag eich bod chi’n:
Os ydych chi’n 55 oed neu’n hŷn mae’n bosibl i chi barhau i weithio a derbyn y buddion pensiwn rydych chi wedi’u cronni eisoes.
Os oes gennych chi o leiaf 3 mis o aelodaeth, neu os ydych chi wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r cynllun, gallech fod yn gymwys i dderbyn eich buddion heb eu cwtogi yn gynnar ar sail gwaeledd iechyd, beth bynnag fo eich oedran.
Os ydych chi’n parhau i weithio ar ôl i chi gyrraedd 65 oed, cewch barhau i dalu cyfraniadau pensiwn a chronni rhagor o aelodaeth yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Os ydych chi’n ymddeol ar eich pen-blwydd yn 65 oed bydd eich pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cael ei dalu i chi yn awtomatig.
Roedd rhaid cael gwared o’r Rheol 85 mlynedd o reoliadau pensiwn am ei bod yn groes i ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail oedran.
Diweddarwyd: 12/2/10 3:08 PM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad