skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Aelodau

Aelodau


Members / Aelodau

Aelod gweithredol o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yw rhywun sydd eisoes yn talu cyfraniadau pensiwn o’u cyflog.  Os ydych chi’n talu cyfraniadau mae eich cyflogwr hefyd yn cyfrannu’n hael i’ch pensiwn chi.   

Fel aelod o’r cynllun pensiwn byddwch yn cael pensiwn pan fyddwch yn ymddeoliad a delir i chi am weddill eich oes, ac a fydd yn cynyddu o ran gwerth yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr. 

Mae’r cynllun pensiwn hefyd yn cynnig yswiriant bywyd felly petaech chi’n marw tra’n parhau mewn cyflogaeth telir grant marwolaeth i’ch Ystad/Buddiolwyr.  Gallai eich dibynyddion dderbyn buddion goroeswyr hefyd. 

Dylai adran hon y wefan ateb eich holl gwestiynau am y cynllun pensiwn, ond os na fedrwch chi ddod o hyd i’r wybodaeth rydych chi’n chwilio amdani, mae croeso i chi anfon eich ymholiad i Gronfa Bensiynau Clwyd drwy gyfrwng ffurflen ymholiad ar-lein.

Diweddarwyd: 12/2/10 2:30 PM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad