skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Pensiwn Gohiriedig > Cysylltau Defnyddiol

Cysylltau Defnyddiol


Isod mae dolennau cyswllt i safleoedd eraill a allai fod o ddefnydd ichi. Rydym hefyd wedi cynnwys disgrifiad byr o’u cynnwys ar eich cyfer. Bydd y tudalennau’n agor mewn ffenestr ar wahân.

Sylwch y bydd y ddolen hon yn eich tywys i wefan allanol ac y bydd yn Saesneg yn unig.

Prudential

 

Darparwr presennol Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol ( ar y tudalen gartref dewiswch ‘Cronfa Bensiwn Clwyd’ fel y cynllun pensiwn rydych yn perthyn iddi)

Equitable Life

 

Cyn ddarparwr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol i Gronfa Bensiwn Clwyd

HMRC

 

Yn cynnwys newyddion a gwybodaeth ynghylch treth a materion yswiriant cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig.

The Pensions Regulator

 

 

Y Rheolydd Pensiynau (a elwid gynt yn OPRA) yw rheolydd y Deyrnas Unedig ynghylch trefniadau pensiwn a gynigir gan gyflogwyr.

Pension Tracing Service

 

 

Mae’r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau yn wasanaeth a ddarperir gan y Rheolydd Pensiynau i gynorthwyo pobl i olrhain hawliau pensiwn a gollwyd.

LGPS Website

 

Mae Gwefan Genedlaethol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a gomisiynwyd gan Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar ran pob Awdurdod Lleol yn rhestru mannau cyswllt pob Pensiwn Llywodraeth Leol.

Pensions Ombudsman

 

 

 

Mae’r Ombwdsman Pensiynau yn ymchwilio a phenderfynu ar gwynion ac anghydfod ynghylch y ffordd y gweinyddir cynlluniau pensiwn. Penderfynwyd ar swyddogaeth a phwerau’r Ombwdsman Pensiynau gan y Senedd, ac fe’i penodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau. Mae’n hollol annibynnol ac yn gweithredu fel beirniad diduedd.

LGE

 

Crëwyd Cyflogwyr Llywodraeth Leol gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol ym mis Ebrill 2006. Maent yn  gweithio gydag awdurdodau lleol, cyflogwyr rhanbarthol a chyrff eraill i ymdrin â thâl, pensiynau a’r cytundeb cyflogaeth, i sicrhau bod gwasanaethau lleol fforddiadwy ac o’r radd flaenaf yn cael eu darparu.

DWP (Department for Work and Pensions)

 

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau Prydain Fawr yn cynorthwyo:

  • Gyda chost magu plant a threfnu cynhaliaeth cefnogi plant;
  • Cefnogi pobl sy’n edrych am waith neu sy’n methu â gweithio; a
  • Hyrwyddo diogelwch ariannol mewn ymddeoliad.

TPAS (Pensions Advisory Service)

 

Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau yn gorff nid-er-elw sy’n ceisio helpu unrhyw aelod o’r cyhoedd sydd â phroblem, cwyn neu ddadl gyda’u trefniant pensiwn galwedigaethol neu breifat.

The Pensions Service

 

Arweiniad i’ch pwyntio i’r cyfeiriad iawn i ddarganfod yr amrywiaeth helaeth o gymorth a chyngor sydd ar gael trwy lywodraeth ganol a lleol ar gyfer pensiynwyr.

Moneymadeclear

Gwefan ariannol un stop yn rhoi cyngor ar bensiynau a materion ariannol eraill.

 

Diweddarwyd: 6/18/10 2:41 PM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad