skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Pensiwn Gohiriedig > Trosglwyddo Pensiwn allan o’r Gronfa

Trosglwyddo Pensiwn allan o’r Gronfa


Os nad ydych chi’n gwneud cyfraniadau pensiwn mwyach gellir trosglwyddo eich buddion allan o Gronfa Bensiynau Clwyd ar unrhyw adeg, cyn belled ag y bo eich cyflogwr/darparydd pensiwn newydd yn fodlon derbyn y trosglwyddiad. 

Dylech wirio a yw eich darparydd pensiwn newydd yn derbyn trosglwyddiadau pensiwn, a’ch bod chi yn cadw at y cyfyngiadau amser penodedig, cyn gwneud cais i drosglwyddo eich buddion allan o Gronfa Bensiynau Clwyd. 

Dylech gysylltu’n uniongyrchol gyda’ch darparydd pensiwn newydd i gychwyn y broses drosglwyddo, a rhoi awdurdod ysgrifenedig iddynt gysylltu gyda Chronfa Bensiynau Clwyd ar eich rhan.  Efallai y bydd gan eich darparydd pensiwn ffurflenni y bydd yn ofynnol i chi eu llenwi i gychwyn y broses drosglwyddo. 

Nodwch y gall trosglwyddo pensiwn fod yn broses faith. 

Diweddarwyd: 6/14/10 11:39 AM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad