skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Pensiwn Gohiriedig > Talu Buddion Gohiriedig

Talu Buddion Gohiriedig


Er mai’r oedran ymddeol arferol o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yw 65 oed, gwnaiff Cronfa Bensiynau Clwyd gysylltu gyda chi ychydig o wythnosau cyn eich pen-blwydd yn 60 oed i holi a ydych chi’n dymuno derbyn eich buddion bryd hynny.  Felly, am y rheswm hwn, mae’n bwysig eich bod chi’n ein hysbysu ni am unrhyw newid enw neu gyfeiriad (Agor ffenestr newydd 113KB) tra bo eich buddion gohiriedig gennym ni.   

Gwnaiff Cronfa Bensiynau Clwyd anfon amcangyfrif o’r buddion y byddwch chi’n eu derbyn yn 60 oed atoch chi, a allai gynnwys cwtogiadau ymddeoliad cynnar.  Dylai hyn eich cynorthwyo chi i benderfynu p’un ai ydych am gymryd eich buddion yn 60 oed ynteu aros tan ddyddiad diweddarach.   

Os ydych chi’n penderfynu cymryd eich buddion mae’n rhaid i chi lenwi rhai ffurflenni ymddeoliad a anfonir i’ch cyfeiriad cartref.  Hefyd rhaid i chi ddarparu llungopi o’ch tystysgrif geni i ni.  Os yw’n berthnasol, bydd arnom angen gweld llungopïau o’r dogfennau isod: 

  • eich tystysgrif priodas / tystysgrif Partneriaeth Sifil,
  • tystysgrif geni eich priod / partner sifil,
  • eich Archddyfarniad Terfynol / Tystysgrif Diddymu Partneriaeth Sifil, neu
  • Tystysgrif Marwolaeth eich priod / partner sifil.

 

Diweddarwyd: 11/17/11 11:28 AM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad