skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Pensiwn Gohiriedig > Ymddeoliad Cynnar

Ymddeoliad Cynnar


Er mai 65 oed yw’r oedran ymddeol arferol, 60 oed yw’r oedran mwyaf cyffredin ar gyfer talu buddion gohiriedig.

Os hoffech i’ch buddion gohiriedig gael eu talu cyn i chi fod yn 60 oed, mae’n rhaid i chi siarad gyda’ch cyn-gyflogwr gan fod rhaid cael caniatâd y cyflogwr i ryddhau buddion pensiwn yn gynnar.  Gellir rhyddhau buddion i bensiynwyr gohiriedig sy’n o leiaf 55 oed.  Fodd bynnag, gall fod yn bosibl cael y pensiwn rhwng 50 a 54 oed.  Cysylltwch gyda’r Adran Pensiynau i ganfod pa oedran y gallech chi fod yn gymwys i dderbyn eich buddion. 

Gall eich cyflogwr ryddhau’r pensiwn ar sail tosturiol neu os ydych chi’n dioddef gwaeledd iechyd.  Rhaid i’ch achos chi gael ei adolygu gan ymarferwr meddygol annibynnol er mwyn rhyddhau’r buddion ar sail gwaeledd iechyd.  Bydd eich cyn-gyflogwr yn trefnu i chi weld meddyg y Gronfa Bensiynau.  Os yw’n cymeradwyo eich achos chi, llofnodir tystysgrif gwaeledd iechyd a’i hanfon i Gronfa Bensiynau Clwyd. 

Bydd eich cyn-gyflogwr yn hysbysu Cronfa Bensiynau Clwyd am ryddhau’r buddion yn gynnar.  Byddant yn rhoi cyfarwyddiadau i ni gysylltu gyda chi i drefnu’r taliadau.  Mae’n ofynnol cael caniatâd eich cyn-gyflogwr gan y gallai caniatáu rhyddhau’r buddion yn gynnar olygu costau iddynt.  Gweler y rhestr manylion cyswllt cyflogwyr (Agor ffenestr newydd 72KB).

Ac eithrio mewn achosion o waeledd iechyd, gallai eich buddion pensiwn gael eu cwtogi os ydych chi’n eu cymryd cyn bod yn 65 oed, onibai eich bod chi’n gymwys ac yn bodloni’r Rheol 85 Mlynedd.

Diweddarwyd: 7/29/11 4:23 PM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad