skip navigation
Rydych chi yma: Hafan  > Pensiwn Gohiriedig > Marwolaeth Pensiynwyr Gohiriedig

Marwolaeth Pensiynwyr Gohiriedig


Grant Marwolaeth

Os byddwch yn marw gyda phensiwn gohiriedig, bydd Cronfa Bensiynau Clwyd yn talu grant marwolaeth i’ch Stad neu i’ch buddiolwyr. Bydd maint y grant marwolaeth yn dibynnu ar ba bryd gwnaethoch adael y cynllun pensiwn.

  • Os roeddech wedi gadael y CBLlL ar neu cyn 31 Mawrth 2008, mae’r grant marwolaeth yn 3 gwaith eich pensiwn blynyddol gohiriedig ac ychwanegu ato unrhyw gynnydd mewn pensiwn
  • Os roeddech wedi gadael y CBLlL ar neu cyn 1 Ebrill 2008, mae’r grant marwolaeth yn 5 gwaith eich pensiwn blynyddol gohiriedig ac ychwanegu ato unrhyw gynnydd mewn pensiwn

Mae’n bwysig eich bod yn cwblhau’r Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth (Agor ffenestr newydd 112KB) fel bod gan Gronfa Bensiynau Clwyd gofnod ar bapur o’ch dymuniadau. Mae gan Gronfa Bensiynau Clwyd yr hawl i ddewis i bwy i dalu’r grant. Os na fyddwch yn cwblhau’r ffurflen hon, bydd y grant marwolaeth yn mynd i’ch Stad ac efallai bydd rhaid talu treth etifeddu.

Pensiynau Dibynyddion

Yn ogystal â’r grant marwolaeth, mae darpariaethau ar gyfer pensiynau partneriaid sy’n dal yn fyw a fydd yn cael eu talu iddynt am weddill eu hoes.  Os byddwch yn marw gyda phensiwn gohiriedig, bydd Cronfa Bensiynau Clwyd yn talu pensiwn i unrhyw un o’r rhai a ganlyn:

Gwybodaeth yn yr adran hon
Os byddwch yn marw cyn eich Partner Sifil, bydd pensiwn yn cael ei dalu’n awtomatig iddynt hwy. Bydd maint y pensiwn fyddant yn ei gael yn dibynnu ar ba bryd gwnaethoch chi adael y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Os bydd gennych blentyn/blant sydd, ar adeg y farwolaeth:
Rydych yn gymwys i enwebu eich partner sy’n cydfyw i gael y pensiwn dibynnydd ond ddim ond os gwnaethoch adael y CPLlL ar ôl 1 Ebrill 2008.
Bydd Cronfa Bensiynau Clwyd yn awtomatig yn talu pensiynau gweddwon sy’n gallu bod wedi’u seilio ar y cyfan neu ran o’ch aelodaeth o’r CPLlL, gan ddibynnu ar ba bryd gwnaethoch adael y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol:
Diweddarwyd: 7/7/10 2:51 PM
Chwilio
Cronfa Bensiynau Clwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NA Ymwadiad